Dehongli rheoliadau 6 i 9 ac Atodlen 1
6.—(1) Yn y rheoliad hwn, rheoliadau 7 i 9 ac Atodlen 1—
ystyr “addysg bellach neu hyfforddiant” (“further education or training”) yw addysg neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg neu hyfforddiant o’r fath, ond nid yw’n cynnwys unrhyw addysg neu hyfforddiant a geir gan berson ifanc tra bo’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (gweler rheoliad 2(2) ar gyfer pa bryd y mae person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw);
ystyr “deilliannau” (“outcomes”) yw deilliannau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer gwaith, symud ymlaen i addysg arall, gan gynnwys addysg uwch, neu gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol neu sgiliau neu nodweddion defnyddiol eraill ar gyfer bod yn oedolyn;
ystyr “rhaglen astudio” (“programme of study”) yw un neu ragor o gyrsiau o addysg bellach neu hyfforddiant, pa un a yw’n arwain at gymhwyster ai peidio ac yn achos mwy nag un cwrs, pa un a yw’r cyrsiau yn cael eu dilyn yn gydredol neu’n olynol ai peidio (ond os ydynt yn cael eu dilyn yn olynol rhaid iddynt fod yn rhan o raglen astudio gyffredinol).
(2) Wrth benderfynu ar gyfnod para rhaglen astudio at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—
(a)mae rhaglen astudio yn cael ei thrin fel pe bai’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person ifanc yn cychwyn, neu y disgwylir iddo gychwyn, ar y rhaglen astudio ac yn dod i ben â’r diwrnod y disgwylir i’r person ei chwblhau, a
(b)os yw’r rhaglen, neu ran ohoni, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’r rhaglen, neu’r rhan honno ohoni, yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei chynnal dros flwyddyn.
(3) Wrth benderfynu ar gyfnod para addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan berson ifanc at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—
(a)mae’r addysg bellach neu’r hyfforddiant yn cael ei thrin neu ei drin fel pe bai wedi dechrau â diwrnod cyntaf y mis y cychwynnodd y person ifanc arni neu arno ac yn dod i ben â diwrnod olaf y mis—
(i)y cwblhaodd y person ifanc yr addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y peidiodd fel arall â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu
(ii)y disgwylir i’r person ifanc gwblhau’r addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y disgwylir fel arall iddo beidio â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;
(b)os yw’r addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu ran ohoni neu ohono, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’n cael ei thrin neu ei drin, neu mae’r rhan honno ohoni neu ohono yn cael ei thrin, fel pe bai’n cael ei chynnal neu ei gynnal dros flwyddyn.