- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018 o ran a yw cynllun datblygu unigol yn angenrheidiol ar gyfer person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)nodi deilliannau dymunol y person ifanc, os oes rhai, a
(b)ystyried pa raglenni astudio a all fod ar gael ac a fyddai’n addas i alluogi’r person ifanc i gyflawni’r deilliannau dymunol hynny.
(3) Wrth ystyried y mater ym mharagraff (2)(b)—
(a)yn gyntaf rhaid i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach;
(b)ni chaiff yr awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn sefydliadau ac eithrio’r rheini a grybwyllir ym mharagraff (7) ond pan fo’n ymddangos yn debygol na ellir diwallu anghenion rhesymol y person ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddilyn rhaglen astudio addas oni bai bod yr awdurdod lleol yn sicrhau ar gyfer y person ifanc—
(i)lle mewn sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7), neu
(ii)bwyd a llety.
(4) Wrth benderfynu a yw rhaglen astudio a ddarperir gan sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7) yn addas ar gyfer person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried, yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1, a oes posibilrwydd realistig y byddai’r person ifanc yn cyflawni deilliannau dymunol y person drwy ddilyn y rhaglen astudio neu drwy barhau i ddilyn y rhaglen astudio (gydag unrhyw addasiadau arfaethedig).
(5) Pan fo’r person ifanc eisoes yn dilyn rhaglen astudio, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio eraill os yw wedi ei fodloni bod y rhaglen y mae’r person ifanc yn ei dilyn yn parhau i fod yn addas, neu y byddai’n addas gydag addasiadau, i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person.
(6) Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â pharagraff (2) neu unrhyw ran ohono, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni na fyddai cydymffurfio ag ef, neu â’r rhan honno ohono, yn effeithio ar ei benderfyniad o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018.
(7) Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fo’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn unrhyw un o’r sefydliadau a ganlyn, neu pan fo’r person ifanc i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, i ddilyn rhaglen astudio, neu i barhau i ddilyn rhaglen astudio, i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc—
(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr;
(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr;
(c)Academi.
(8) Mae rheoliad 9 yn gymwys i bob achos arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: