Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Yr angen am gynllun: rhaglenni astudio mewn ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a sefydliadau penodol yn LloegrLL+C

8.—(1Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, neu os yw’r awdurdod lleol, wrth lunio neu gynnal y cynllun ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o Ddeddf 2018 i ddisgrifio darpariaeth o fath a restrir yn adran 14(7) o’r Ddeddf honno.

(2Mae hefyd yn angenrheidiol i awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os yw’r person ifanc i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru i ddilyn rhaglen astudio.

(3Ar gyfer achosion nad ydynt yn dod o fewn paragraff (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—

(a)yn achos person ifanc sydd i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;

(b)yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn ysgol a gynhelir yn Lloegr, Academi neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr, neu sydd i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, a fyddai corff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad neu, yn achos Academi, y perchennog, yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(4Wrth ystyried mater y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r corff llywodraethu neu’r perchennog.

(5Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc—

(a)os yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), yn ystyried nad yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;

(b)os nad yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), wedi ei fodloni y byddai’r corff llywodraethu neu’r perchennog yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(6Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.

(7Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani gan anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc er mwyn dilyn y rhaglen astudio neu barhau i ddilyn y rhaglen astudio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)