ATODLEN 2CYMHWYSO GYDAG ADDASIADAU DDEDDF 2018 MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY’N CAEL EU CADW’N GAETH MEWN YSBYTY O DAN RAN 3 O DDEDDF 1983

Rheoliadau 20, 22 a 23

1.

(1)

Mae’r pwerau a’r dyletswyddau a roddir i awdurdod lleol neu a osodir ar awdurdod lleol gan Ran 2 o Ddeddf 2018, gan y Rheoliadau hyn neu fel arall o dan y Rhan honno, i’r graddau na fyddent yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc o fewn is-baragraff (3) oherwydd adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 neu adran 44(1) o Ddeddf 2018, yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).

(2)

Mae darpariaethau eraill o Ddeddf 2018, y Rheoliadau hyn ac unrhyw ddarpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, i’r graddau y maent yn gymwys at ddibenion y pwerau hynny a’r dyletswyddau hynny neu fel arall yn ymwneud â’r plentyn neu’r person ifanc, yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).

(3)

Mae plentyn neu berson ifanc o fewn yr is-baragraff hwn os yw’r plentyn neu’r person ifanc—

(a)

yn ddarostyngedig i orchymyn cadw, a

(b)

yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.

(4)

Yr addasiadau yw—

(a)

mae cyfeiriadau, sut bynnag y’u mynegir, at awdurdod lleol sy’n gyfrifol (neu’n dod neu’n peidio â bod yn gyfrifol) am blentyn neu berson ifanc i’w dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at awdurdod lleol, sef yr awdurdod lleol perthnasol (neu sy’n dod neu’n peidio â bod yn awdurdod o’r fath) ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ac yn unol â hynny nid yw adran 99(4) i fod yn gymwys i’r cyfeiriadau hynny;

(b)

hepgorer adran 13(2)(e);

(c)

yn adran 14, hepgorer is-adrannau (2)(b) a (4);

(d)

yn adran 15(1)—

(i)

ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “a”;

(ii)

ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “ac”;

(iii)

ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

“(c)

os nad yw—

(i)

yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(ii)

yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.”;

(e)

hepgorer adran 36;

(f)

os yw’r ysbyty yn llety ieuenctid perthnasol, nid yw’r dyletswyddau a osodir ar awdurdod cartref gan adrannau 40 a 42 yn gymwys;

(g)

yn adran 84(1)(a), ar y diwedd mewnosoder “neu reoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

(h)

yn adran 85(5)(a), ar ôl “42(6)” mewnosoder “a rheoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

(i)

yn rheoliad 16(1)(b), ar ôl “Ddeddf 2018” mewnosoder “neu reoliad 22(2)”.