Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Rheoliadau 20, 22 a 23

ATODLEN 2LL+CCYMHWYSO GYDAG ADDASIADAU DDEDDF 2018 MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY’N CAEL EU CADW’N GAETH MEWN YSBYTY O DAN RAN 3 O DDEDDF 1983

1.—(1Mae’r pwerau a’r dyletswyddau a roddir i awdurdod lleol neu a osodir ar awdurdod lleol gan Ran 2 o Ddeddf 2018, gan y Rheoliadau hyn neu fel arall o dan y Rhan honno, i’r graddau na fyddent yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc o fewn is-baragraff (3) oherwydd adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 neu adran 44(1) o Ddeddf 2018, yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).LL+C

(2Mae darpariaethau eraill o Ddeddf 2018, y Rheoliadau hyn ac unrhyw ddarpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, i’r graddau y maent yn gymwys at ddibenion y pwerau hynny a’r dyletswyddau hynny neu fel arall yn ymwneud â’r plentyn neu’r person ifanc, yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).

(3Mae plentyn neu berson ifanc o fewn yr is-baragraff hwn os yw’r plentyn neu’r person ifanc—

(a)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw, a

(b)yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.

(4Yr addasiadau yw—

(a)mae cyfeiriadau, sut bynnag y’u mynegir, at awdurdod lleol sy’n gyfrifol (neu’n dod neu’n peidio â bod yn gyfrifol) am blentyn neu berson ifanc i’w dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at awdurdod lleol, sef yr awdurdod lleol perthnasol (neu sy’n dod neu’n peidio â bod yn awdurdod o’r fath) ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ac yn unol â hynny nid yw adran 99(4) i fod yn gymwys i’r cyfeiriadau hynny;

(b)hepgorer adran 13(2)(e);

(c)yn adran 14, hepgorer is-adrannau (2)(b) a (4);

(d)yn adran 15(1)—

(i)ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “a”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “ac”;

(iii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)os nad yw—

(i)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(ii)yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.;

(e)hepgorer adran 36;

(f)os yw’r ysbyty yn llety ieuenctid perthnasol, nid yw’r dyletswyddau a osodir ar awdurdod cartref gan adrannau 40 a 42 yn gymwys;

(g)yn adran 84(1)(a), ar y diwedd mewnosoder “neu reoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

(h)yn adran 85(5)(a), ar ôl “42(6)” mewnosoder “a rheoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

(i)yn rheoliad 16(1)(b), ar ôl “Ddeddf 2018” mewnosoder “neu reoliad 22(2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)