2021 Rhif 403 (Cy. 131)
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 20101, a pharagraff 6F o Atodlen 17 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 209(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021.
3
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adeg berthnasol” (“relevant time”) yw’r adeg y mae’n ofynnol, neu y caniateir, o dan y Ddeddf, i rywbeth gael ei wneud gan riant neu berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, oedolyn) neu mewn perthynas â rhiant neu berson o’r fath;
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â rhiant neu berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, oedolyn), yw—
- a
dirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person mewn perthynas â materion o fewn Atodlen 17 i’r Ddeddf;
- b
rhoddai atwrneiaeth arhosol (o fewn ystyr “lasting power of attorney” yn adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) a benodir gan y rhiant neu’r person i wneud penderfyniadau ar ei ran mewn perthynas â materion o fewn Atodlen 17 i’r Ddeddf;
- c
atwrnai y mae atwrneiaeth barhaus (o fewn ystyr “enduring power of attorney” yn Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) sydd wedi ei chreu gan y rhiant neu’r person wedi ei breinio ynddo, pan fo’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru yn unol â pharagraffau 4 a 13 o’r Atodlen honno neu pan fo cais i gofrestru’r atwrneiaeth wedi ei wneud;
- a
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;
mae i “galluedd” yr un ystyr â “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 20053;
ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 19964;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn Neddf Addysg 1996.
Pan nad oes gan riant plentyn alluedd3
Pan nad oes gan riant i blentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad at “parent” ym mharagraff 3A(1)(b) o Atodlen 17 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.
Pan nad oes gan berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd4
Pan nad oes gan berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad at “person” ym mharagraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r person hwnnw.
Erlid am ymddygiad cynrychiolwyr5
1
Pan fo rheoliad 3 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(b) o Atodlen 17 i’r Ddeddf, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.
2
Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad â phlentyn sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r plentyn hwnnw.
3
Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad ag oedolyn, mae’r cyfeiriadau yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf at—
a
“parent or sibling” i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r oedolyn hwnnw, a
b
“child” i’w darllen fel cyfeiriadau at yr oedolyn hwnnw.
Deddf Galluedd Meddyliol 20056
1
Mae rheoliadau 3, 5(1) a (2) yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 20055.
2
Pan fo rheoliad 4 yn gymwys mewn cysylltiad â phlentyn, mae’r rheoliad yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)