Cais apelio11
1
Rhaid i’r cais apelio ddatgan—
a
enw a chyfeiriad y person sy’n gwneud yr apêl ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y person hwnnw,
b
enw a dyddiad geni’r plentyn neu’r person ifanc,
c
os yw’n berthnasol, y berthynas neu’r cysylltiad rhwng y person sy’n gwneud yr apêl a’r plentyn neu’r person ifanc,
d
enw a chyfeiriad pob person—
i
y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu
ii
sy’n rhannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu
iii
sy’n gofalu am y plentyn,
neu’r rhesymau pam na ddarperir enwau a chyfeiriadau’r personau hynny,
e
enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar gyfer y person sy’n gwneud yr apêl ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd neu’r cyfaill achos,
f
cyfeiriad ac, os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy’n gwneud yr apêl,
g
enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB a wnaeth y penderfyniad a herir,
h
y dyddiad pan gafodd y person sy’n gwneud yr apêl gadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad a herir,
i
y rheswm neu’r rhesymau dros wneud yr apêl,
j
y canlyniad a geisir,
k
y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod, ac
l
unrhyw ofynion a dymuniadau cyfathrebu y plentyn neu’r person ifanc.
2
Os yw’r person sy’n gwneud yr apêl yn ceisio gorchymyn—
a
bod cynllun datblygu unigol yn cael ei ddiwygio, rhaid i’r cais apelio bennu pa adran neu adrannau o’r cynllun datblygu unigol y mae’r apêl yn ymwneud â hi neu â hwy, a
b
ar gyfer lleoliad mewn ysgol neu sefydliad arall, rhaid i’r cais apelio ddatgan enw a chyfeiriad yr ysgol neu’r sefydliad arall.
3
Caniateir cyflwyno’r canlynol gyda’r cais apelio—
a
copi o’r penderfyniad a herir,
b
pan fo’r apêl yn cael ei gwneud o dan adran 70 neu 72 o Ddeddf 2018, copi o gynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc, unrhyw ddogfennaeth sydd wedi ei hatodi i’r cynllun datblygu unigol neu sy’n ffurfio rhan ohono ac, os yw ar gael, copi o’r adolygiad diweddaraf o dan adran 23 neu 24 o Ddeddf 2018, ac
c
y datganiad achos yn unol â rheoliadau 17 a 18.
4
Rhaid cyflwyno’r canlynol gyda’r cais apelio—
a
cadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi hysbysu’r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(d) fod y person yn bwriadu gwneud apêl i’r Tribiwnlys, neu gadarnhad ysgrifenedig sy’n esbonio pam nad yw’r person sy’n gwneud yr hawliad wedi hysbysu’r personau hynny,
b
pan fo’r cais apelio yn datgan enw ysgol neu ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn sefydliad arall yn unol â pharagraff (2)(b), gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi rhoi gwybod i bennaeth yr ysgol, neu i gorff llywodraethu neu berchennog y sefydliad arall, fod y person yn bwriadu gofyn i’r ysgol neu i’r sefydliad arall gael ei henwi neu ei enwi yn y cynllun datblygu unigol, ac
c
pan fo’r cais apelio, o dan baragraff (2)(b), yn datgan enw—
i
ysgol a gynhelir, gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, a all fod yr awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir neu awdurdod lleol gwahanol, fod y person yn bwriadu gofyn i’r ysgol a gynhelir gael ei henwi yn y cynllun datblygu unigol;
ii
ysgol annibynnol, gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi rhoi gwybod i berchennog yr ysgol fod y person yn bwriadu gofyn i’r ysgol annibynnol gael ei henwi yn y cynllun datblygu unigol;
iii
ysgol annibynnol, gadarnhad ysgrifenedig gan berchennog yr ysgol fod lle ar gael yn yr ysgol i’r plentyn;
iv
unrhyw sefydliad arall, gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi cadarnhau pa un a oes darpariaeth addas ar gael yn y sefydliad ai peidio.
5
Rhaid i’r cais apelio gael ei lofnodi gan y person sy’n gwneud yr apêl, neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.
6
Yn unol â rheoliad 35, caiff y cais apelio gynnwys archiad i’r apêl gael ei gwrando ar y cyd â hawliad yn erbyn corff cyfrifol.