- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021, Adran 52.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
52.—(1) At ddibenion gwneud ei benderfyniad rhaid i’r panel tribiwnlys, ac at ddibenion trafod mater gweithdrefnol, caiff y panel tribiwnlys, er gwaethaf unrhyw beth a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, orchymyn i bob person adael eisteddiad y panel tribiwnlys ac eithrio aelodau’r panel tribiwnlys ac unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn rheoliad 40(4)(c) i (f), neu, fel sy’n ofynnol gan eu priod ddyletswyddau, reoliad 40(4)(g) ac (h).
(2) Caiff panel tribiwnlys a chanddo dri aelod wneud penderfyniad drwy fwyafrif, a phan fo gan y panel tribiwnlys ddau aelod, bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(3) Caniateir rhoi penderfyniad y panel tribiwnlys ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ohirio’r penderfyniad ac, ym mhob achos, pa un a gynhaliwyd gwrandawiad ai peidio, rhaid cofnodi’r penderfyniad ar unwaith mewn dogfen y mae rhaid cynnwys ynddi hefyd, neu fel atodiad iddi, ac eithrio mewn achos a benderfynir drwy gydsyniad, ddatganiad o’r rhesymau (ar ffurf gryno) dros benderfyniad y panel tribiwnlys, a rhaid i’r ddogfen honno gael ei llofnodi a’i dyddio gan y Cadeirydd.
(4) Ni chaiff penderfyniad a roddir ar lafar na’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys unrhyw gyfeiriad at wneud y penderfyniad drwy fwyafrif (os dyna a ddigwyddodd) nac at unrhyw farn lleiafrif.
(5) Rhaid cofnodi pob penderfyniad y panel tribiwnlys yn y Gofrestr.
(6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3), cyn gynted ag y bo’n ymarferol, at bob parti ynghyd â chanllawiau, ar ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ar yr amgylchiadau pan fo hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y panel tribiwnlys ac ar y weithdrefn i’w dilyn.
(7) Pan fo rheoliad 13(11)(a) neu 62(2) yn gymwys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) at yr apelydd neu’r hawlydd yn ogystal ag at y cynrychiolydd neu’r cyfaill achos.
(8) Mae pob penderfyniad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad yr anfonir copi o’r ddogfen sy’n ei gofnodi at yr apelydd neu’r hawlydd (pa un a gyhoeddwyd y penderfyniad yn flaenorol ar ddiwedd y gwrandawiad ai peidio).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 52 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: