Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021

Pwy a gaiff fod yn gyfaill achos

60.  Ni chaiff person weithredu fel cyfaill achos ond os nad yw’r person hwnnw wedi ei wahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o dan adran 3(2)(a) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1).

(1)

O dan adran 3(2)(a) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47), mae person wedi ei wahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant os yw enw’r person wedi ei gynnwys yn y rhestr yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (“the children’s barred list”).