Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4, yn lle paragraff (6A) rhodder—

(6A) Ond, mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 11 Ebrill 2021, mae Atodlen 3 i’w thrin fel pe bai Atodlen 3A wedi ei rhoi yn ei lle.

(6B) Ac mae Atodlen 5 yn nodi addasiadau dros dro canlyniadol sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3 am y cyfnod a bennir ym mharagraff (6A).

(3Yn Atodlen 3, hepgorer paragraff 4(2).

(4Ar ôl Atodlen 3 mewnosoder—

Rheoliad 4(6A)

ATODLEN 3ACyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro

RHAN 1Cyfyngiad ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat

1.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.

(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

(i)yn byw yn yr un fangre, a

(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

(7) Er gwaethaf is-baragraffau (2) a (5)(b), ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad.

(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithio

2.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.

(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus

3.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn mangre nad yw paragraff 1 na 2 yn gymwys iddi oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored—

(a)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig, neu

(b)os nad oes mwy na 6 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.

(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

(j)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(e)mynd i addoldy;

(f)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

(g)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

(h)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(7) Er gwaethaf is-baragraffau (2)(b) a (5)(b), ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo person i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad oni bai bod y person yn cymryd rhan mewn darllediad heb gynulleidfa (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu).

(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedig

4.(1) Caiff aelwyd anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

(3) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig ar unrhyw un adeg.

(4) Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 4, mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

(5) Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

(6) Mae is-baragraff (7) yn gymwys—

(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

(7) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (2) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

(8) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gyda’r aelwyd honno.

(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

(10) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

(a)aelwyd un oedolyn;

(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion;

(c)aelwyd ag—

(i)2 neu ragor o oedolion,

(ii)1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a

(iii)unrhyw nifer o blant eraill.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau

5.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

(i)arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

(ii)perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

(iii)marchnad;

(iv)gwasanaeth crefyddol;

(v)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 3 ac o ardal Lefel Rhybudd 3

6.(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i ardal Lefel Rhybudd 3 fynd i ardal Lefel Rhybudd 3 neu aros mewn ardal Lefel Rhybudd 3 heb esgus rhesymol.

(2) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 3 ymadael â’r ardal, heb esgus rhesymol, at ddibenion mynd i fan nad yw mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu aros ynddo.

(3) At ddibenion is-baragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn mynd i’r ardal neu’n ymadael â’r ardal at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

(4) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i’r ardal neu ymadael â’r ardal atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(d)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(f)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(g)symud cartref;

(h)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(i)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(j)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

(k)cael—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(l)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(m)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(5) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(c)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(d)athletwr elît ac sy’n teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(e)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu

(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;

(f)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;

(g)teithio ar daith sydd—

(i)mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (1), yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i’r ardal, neu

(ii)mewn perthynas â’r cyfyngiad yn is-baragraff (2), yn gorffen mewn ardal nad yw’r person wedi ei wahardd rhag mynd iddi neu aros ynddi o dan yr is-baragraff hwnnw,

ar yr amod bod y person yn cymryd pob mesur sy’n rhesymol ymarferol i stopio cyn lleied ag y bo modd yn ystod y daith;

(h)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol ag unrhyw gyfyngiadau ar gynulliadau sy’n gymwys lle y mae’r cynulliad yn digwydd.

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau a gwasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau busnesau bwyd a diod

7.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre ar gyfer—

(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

(3) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysol

8.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—

(a)mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu

(b)mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.

(3) Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(4) Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—

(a)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a

(b)os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—

(i)ceginau,

(ii)mannau cysgu,

(iii)ystafelloedd ymolchi, neu

(iv)mannau cymunedol o dan do.

(5) Yn y paragraff hwn—

(a)nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);

(b)mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.

(6) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau canolfannau cymunedol ac amlosgfeydd

9.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym mharagraffau 19 ac 20 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan is-baragraffau (2) a (3).

(2) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

(3) Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).

(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—

(a)canolfan gymunedol;

(b)amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.

(5) Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.

PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd
Cau busnesau a gwasanaethau

10.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 21 i 47—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—

(a)a restrir ym mharagraff 21 (salonau gwallt a barbwyr) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion torri, steilio neu liwio gwallt, drwy apwyntiad;

(b)a restrir ym mharagraff 34 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(4) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau
Esemptiad rhag y gofyniad i gau

11.(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

(a)caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau 48 i 66 barhau i fod ar agor;

(b)caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;

(c)caiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i fynd i fusnes neu ddefnyddio gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 48 i 66.

(2) Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu neu gyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(3) Nid yw is-baragraff (2) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu neu gyflenwi alcohol yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005(3)

(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949(4), neu

(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(5).

PENNOD 4Rhestr o fangreoedd sydd ar gau
Mangreoedd sydd ar gau
Busnesau bwyd a diod

12.  Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

13.  Tafarndai.

14.  Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithio

15.  Safleoedd gwersylla.

16.  Safleoedd gwyliau.

17.  Gwestai a llety gwely a brecwast;

18.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

19.  Canolfannau cymunedol.

20.  Amlosgfeydd.

Gwasanaethau personol etc.

21.  Salonau gwallt a barbwyr.

22.  Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.

23.  Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.

Hamdden a chymdeithasol etc.

24.  Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

25.  Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

26.  Sinemâu.

27.  Neuaddau cyngerdd a theatrau.

28.  Casinos.

29.  Neuaddau bingo.

30.  Arcedau diddanu.

31.  Alïau bowlio.

32.  Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

33.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

34.  Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

35.  Amgueddfeydd ac orielau.

36.  Rinciau sglefrio.

37.  Parciau a chanolfannau trampolîn.

38.  Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

39.  Sbaon.

40.  Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

41.  Atyniadau i ymwelwyr ac eithrio—

(a)ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn mangre lle y mae heneb gofrestredig (o fewn yr ystyr a roddir i “scheduled monument” gan adran 1(11) o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979(6));

(b)ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn parc neu ardd sydd wedi ei gofrestru neu ei chofrestru yn y gofrestr o barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru ac a gyhoeddir ganddynt o bryd i’w gilydd(7);

(c)ardaloedd cyhoeddus o dan do mewn man y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b) pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—

(i)i ganiatáu mynediad i’r ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored,

(ii)am resymau iechyd a diogelwch, neu

(iii)i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.

Chwaraeon ac ymarfer corff

42.  Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff o dan do, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd o dan do.

43.  Pyllau nofio.

44.  Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.

Manwerthu etc.

45.  Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu.

46.  Canolfannau siopa ac arcedau siopa.

47.  Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr.

Mangreoedd esempt
Gwasanaethau cyhoeddus etc.

48.  Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid, gwasanaethau ffisiotherapi, gwasanaethau aciwbigo a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

49.  Trefnwyr angladdau.

50.  Milfeddygon.

Busnesau bwyd a diod

51.  Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

52.  Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

Manwerthu etc.

53.  Busnesau sy’n cynnig y nwyddau a ganlyn ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn siop—

(a)bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes ac anifeiliaid domestig eraill);

(b)cynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer storio a pharatoi bwyd neu ddiod neu ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diod;

(c)cynhyrchion ar gyfer cynnal, cynnal a chadw neu weithrediad hanfodol y cartref neu weithle;

(d)cynhyrchion fferyllol, cynhyrchion iechyd a gofal personol, cynhyrchion babanod (gan gynnwys dillad), cynhyrchion ymolchi a chynhyrchion cosmetig;

(e)papurau newydd a chylchgronau;

(f)beiciau a chynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw beiciau,

ond dim ond at ddibenion gwerthu neu logi’r nwyddau hynny.

54.  Marchnadoedd bwyd, siopau cyfleustra, siopau cornel, siopau anifeiliaid anwes, siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd, gorsafoedd petrol, canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.

55.  Archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n gwerthu sawl math o nwyddau—

(a)a oedd ar agor i’r cyhoedd ar 11 Mawrth 2021, a

(b)sy’n defnyddio eu mangre, yng nghwrs arferol eu busnes, yn bennaf i werthu—

(i)nwyddau a restrir ym mharagraff 53, neu

(ii)nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir ym mharagraff 54.

56.  Siopau sy’n gwerthu sawl math o nwyddau nad ydynt yn dod o fewn paragraff 55, ond dim ond at ddibenion—

(a)gwerthu’r nwyddau a restrir ym mharagraff 53;

(b)gwerthu nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir ym mharagraff 54;

(c)gwerthu nwyddau eraill—

(i)pan na fo’n rhesymol ymarferol gwahanu neu ddarnodi’r ardaloedd hynny o siop sy’n arddangos nwyddau o’r fath fel arfer oddi wrth yr ardaloedd hynny sy’n arddangos y nwyddau a grybwyllir ym mharagraffau (a) neu (b);

(ii)ar sail eithriadol pan fo angen y nwyddau mewn argyfwng neu ar sail dosturiol.

57.  Siopau sy’n cynnig gwasanaethau cynnal a chadw neu atgyweirio ar gyfer dyfeisiau telathrebu neu dechnoleg gwybodaeth.

58.  Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.

59.  Banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill.

60.  Swyddfeydd post.

61.  Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

62.  Golchfeydd ceir awtomatig.

63.  Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.

64.  Golchdai a siopau sychlanhau.

65.  Busnesau tacsi neu logi cerbydau.

66.  Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.

(5Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraff 1, yng Ngholofn 3 o’r tabl, yn lle’r testun ar ôl “Lefel Rhybudd yr Ardal” rhodder “3”;

(b)yn lle paragraff 2 rhodder—

Addasiadau dros dro

2.  Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 11 Ebrill 2021—

(a)mae rheoliad 25 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)(a)(iv)—

(iv)paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu;

(b)mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(d)—

(d)paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu;

(c)mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)ym mharagraff (1)(c), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)(c)—

(c)paragraff 2(1) neu 3(1) o Atodlen 3A, neu;

(d)mae rheoliad 29 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)ym mharagraff (1)(c), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

(ii)ym mharagraff (3)(c), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

(iii)ym mharagraff (5)(c), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

(iv)ym mharagraff (7)(c), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

(e)mae rheoliad 31(1)(b) i’w ddarllen fel pe bai “paragraff 5 o Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “paragraff 4 o Atodlen 3”;

(f)mae rheoliad 37 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

(c)paragraff 1(1), 2(1) neu 3(1) o Atodlen 3A, neu;

(ii)ym mharagraff (2)(c)(iii), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

(g)mae rheoliad 38(c) i’w ddarllen fel pe bai“Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

(h)mae rheoliad 39 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

(c)paragraff 5 o Atodlen 3A, neu;

(i)mae rheoliad 42 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

(c)paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu.

(2)

2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(4)

1949 p. 76; amnewidiwyd adran 26 gan adran 3 o Ddeddf Priodas (Parau o’r Un Rhyw) 2013 (p. 30).

(5)

2004 p. 33; amnewidiwyd adran 6(3A) gan baragraff 2(2) o Atodlen 1 i O.S. 2005/2000.

(7)

Gellir chwilio am barciau a gerddi cofrestredig ar wefan cofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru ‘Archwilio’, sydd ar gael ar https://archwilio.org.uk/arch/index_cym.html

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources