xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 454 (Cy. 144)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

Gwnaed

am 3.15 p.m. ar 8 Ebrill 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.00 p.m. ar 8 Ebrill 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 9 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 9 Ebrill 2021.

RHAN 2Diwygiadau

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiad i reoliad 3

3.  Yn rheoliad 3(3)(a) (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) yn lle “paragraff 6” rhodder “paragraff 6A”.

Diwygiadau i reoliad 6B

4.—(1Mae rheoliad 6B (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A),”.

(3Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Nid yw’r rheoliad hwn na rheoliad 6C yn gymwys pan fo rheoliad 6K (profi’r gweithlu) yn gymwys.

Diwygiad i reoliad 6D

5.  Yn rheoliad 6D(4)(b) (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion) yn lle “cyn diwedd y” rhodder “yn ddim cynharach na’r”.

Diwygiad i reoliad 6G

6.  Ar ôl rheoliad 6G(2) (goblygiadau peidio â chael canlyniad prawf diwrnod 8 cyn diwrnod y cyfnod ynysu) mewnosoder—

(3) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

Rheoliad 6K newydd

7.  Ar ôl rheoliad 6J (codi tâl am brofion) mewnosoder—

Profi’r gweithlu

6K.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”), a bennir ym mharagraff 6 o Atodlen 2.

(2) Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2, diwrnod 5 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (6) mewn perthynas â phob categori o brawf.

(3) Pan na fo P yn cymryd prawf gweithlu fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf gweithlu arall.

(4) Pan fo prawf gweithlu arall wedi ei gymryd yn lle—

(a)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;

(b)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 5 yn unol â’r rheoliad hwn;

(c)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.

(5) Mae Atodlen 2D yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch profion gweithlu (gan gynnwys goblygiadau profi).

(6) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “prawf gweithlu arall” yw prawf gweithlu sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf gweithlu nas cynhaliwyd;

(b)ystyr “prawf gweithlu” yw prawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3);

(c)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2” yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(d)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5” yw prawf gweithlu—

(i)sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2,

(ii)sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(iii)sy’n cael ei gymryd cyn diwedd y pumed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(e)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8” yw prawf gweithlu—

(i)sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu sy’n cael ei gymryd ar gyfer diwrnod 5,

(ii)sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(iii)sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

Diwygiad i reoliad 9

8.—(1Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)—

(a)yn is-baragraff (b) yn lle “2 i 16” rhodder “2 i 5, 6A i 16”;

(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)yn ddarostyngedig i baragraff (3), ym mharagraff 6 o Atodlen 2;

(c)yn is-baragraff (c) yn lle “yn rheoliad 12E(2)” rhodder “yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn rheoliad 12E(2)(a) i (d)”.

(3Ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i berson (“P”) a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 yn unol â pharagraffau (4) i (6).

(4) Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(d)(i) (gyrrwr cerbydau nwyddau) y fangre y mae rhaid i’r person ynysu ynddi at ddibenion gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr yn rheoliad 10(2)) yw—

(a)yn y cerbyd nwyddau pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw,

(b)yn y cerbyd nwyddau pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio ar ei ben ei hun mewn cerbyd nwyddau gyda chompartment y tu ôl i sedd y gyrrwr y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer cysgu (“cab cysgu”), yn ddarostyngedig i baragraff (c)(ii),

(c)mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw—

(i)os yw P yn teithio mewn cerbyd nwyddau heb gab cysgu, neu

(ii)pe bai ynysu mewn cerbyd nwyddau yn torri Erthygl 8 o Reoliad (EC) Rhif 561/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gysoni deddfwriaeth gymdeithasol benodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ffyrdd(4),

(d)yn y cerbyd nwyddau neu mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio gyda pherson arall mewn cerbyd nwyddau gyda chab cysgu.

(5) Pan fo P yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw paragraff (4) ond yn gymwys pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(i) o Atodlen 2.

(6) Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(ii) (deiliad trwydded Gymunedol) ac na fo’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â gofyniad ynysu pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.

Diwygiadau i reoliad 10

9.—(1Mae rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (4)(n) mewnosoder—

(o)os yw’n ynysu mewn cerbyd nwyddau yn rhinwedd rheoliad 9(4)—

(i)am resymau glanweithdra,

(ii)i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored,

(iii)pan fo’n ofynnol neu y caniateir gwneud hynny gan y paragraff hwnnw, i symud i le arall i ynysu,

(iv)i edrych ar y cerbyd neu ei lwyth neu i ymgymryd ag unrhyw dasg arall sy’n ofynnol er mwyn defnyddio’r cerbyd yn ddiogel a pharhau i’w ddefnyddio, gan gynnwys ail-lenwi â thanwydd, a

(v)am unrhyw reswm neu ddiben arall a bennir yn y paragraff hwn;

(p)i gymryd prawf gweithlu sy’n ofynnol gan reoliad 6K.

Diwygiadau i reoliad 12E

10.—(1Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (2)(d)(i) mewnosoder—

(iaa)paragraff 6;.

(3Ar ôl paragraff (2)(d), mewnosoder—

(e)yn berson—

(i)sy’n blentyn, neu a oedd yn blentyn, ar 1 Medi 2020,

(ii)sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion cael addysg mewn ysgol fyrddio yng Nghymru y bwriedir darparu addysg a llety ar gyfer P ynddi, a

(iii)nad yw’n dod i’r Deyrnas Unedig yng nghwmni unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros P, neu os yw P yn 18 oed, a fyddai wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath pe bai P yn blentyn.

(4Ar ôl paragraff (4), mewnosoder—

(5) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “ysgol fyrddio” yw ysgol neu goleg—

(i)sy’n darparu llety ar gyfer ei disgyblion neu ei ddisgyblion neu, yn ôl y digwydd, ei myfyrwyr neu ei fyfyrwyr, yn ei mangre neu ei fangre ei hun, neu

(ii)sy’n trefnu llety ar gyfer ei disgyblion neu ei ddisgyblion neu ei myfyrwyr neu ei fyfyrwyr sydd i’w ddarparu yn rhywle arall (ac eithrio mewn cysylltiad â thaith breswyl i ffwrdd o’r ysgol);

(b)ystyr “ysgol” yw—

(i)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig o fewn ystyr “community school”, “foundation school”, “voluntary school”, “community special school” a “foundation special school” yn adran 20 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5),

(ii)ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002(6)),

(iii)ysgol arbennig nas cynhelir (fel y diffinnir “non-maintained special school”) yn adran 337A o Ddeddf Addysg 1996(7)), neu

(iv)uned cyfeirio disgyblion o fewn ystyr “pupil referral unit” yn adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;

(c)ystyr “coleg” yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach o fewn ystyr “institutions within the further education sector” yn adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(8).

(5Ym mharagraff (3E), yn yr addasiad i reoliad 9, yn lle “rheoliad 12E(2)” rhodder “rheoliad 12E(2)(a) i (d)”.

Diwygiadau i reoliad 14

11.—(1Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (h) hepgorer “neu”;

(b)yn is-baragraff (i), ar y diwedd mewnosoder “neu”;

(c)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(j)6K.

(3Ym mharagraff (1B) yn lle “neu 6C” rhodder “, 6C neu 6K”.

(4Ar ôl paragraff (1D) mewnosoder—

(1E) At ddibenion rheoliad 6K, mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan na fo’n rhesymol ymarferol i P gymryd prawf oherwydd anabledd,

(b)pan fo angen triniaeth feddygol ar P â’r fath frys fel nad yw cymryd prawf yn rhesymol ymarferol,

(c)pan fo prawf yn cael ei ganslo am resymau y tu hwnt i reolaeth P,

(d)pan fo P wedi ymadael â Chymru.

Diwygiadau i reoliad 16

12.—(1Mae rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (6), ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—

(ac)o dorri gofyniad yn Atodlen 1D,.

(3Ar ôl paragraff (6AB) mewnosoder—

(6AC) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 14(1)(j) am dorri gofyniad yn rheoliad 6K, yna rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—

(a)yn achos hysbysiad cosb benodedig cyntaf, £1,000;

(b)yn achos ail hysbysiad cosb benodedig, £2,000;

(c)yn achos trydydd hysbysiad cosb benodedig a hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £3,000.

Atodlen 1D newydd

13.  Ar ôl Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) mewnosoder—

Rheoliad 6K

ATODLEN 1DProfion gweithlu

Dehongli Atodlen 1D

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “P” (“P”) yw person y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu o dan reoliad 6K (profi’r gweithlu);

ystyr “prawf gweithlu” (“workforce test”) yw unrhyw un neu ragor o’r categorïau o brawf gweithlu a ddisgrifir yn rheoliad 6K(6).

Gofyniad ar ôl methiant i gymryd prawf

2.(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fo P yn methu â chymryd prawf gweithlu y mae’n ofynnol i P ei gymryd o dan reoliad 6K.

(2) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ynysu mewn mangre addas tan y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwedd y 14eg diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru; neu

(b)yr adeg y mae P yn cael canlyniad prawf gweithlu negyddol.

(3) Rhaid i P gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cymwys yn rheoliad 6K(2) yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (2).

(4) Pan fo’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (2), mae rheoliad 10(4) yn gymwys.

Goblygiadau canlyniadau prawf

3.(1) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad positif—

(a)rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf pellach sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1C;

(b)rhaid i P ynysu mewn mangre addas hyd ddiwedd y 10fed diwrnod ar ôl y diwrnod y cymerodd P y prawf.

(2) Pan fo’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (1)(b), mae rheoliad 10(4) yn gymwys.

(3) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad positif—

(a)os oedd y prawf hwnnw yn brawf gweithlu a gymerwyd ar gyfer diwrnod 2, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 5 na diwrnod 8;

(b)os oedd y prawf hwnnw yn brawf gweithlu a gymerwyd ar gyfer diwrnod 5, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 8.

(4) Pan fo prawf pellach a gymerir yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn cynhyrchu canlyniad negyddol, mae’r paragraff hwn yn gymwys i P o’r adeg yr hysbysir P am y canlyniad negyddol hwnnw fel pe bai’r prawf gweithlu a gymerwyd gan P yn unol â rheoliad 6K wedi cynhyrchu canlyniad negyddol (ac, yn unol â hynny, o’r adeg honno, nid yw’n ofynnol i P ynysu mwyach).

(5) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad amhendant, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gynnal prawf gweithlu pellach ac mae’r prawf gweithlu pellach hwnnw i’w drin fel prawf gweithlu arall o fewn ystyr rheoliad 6K(4) (gofyniad i gymryd profion gweithlu).

Dyletswyddau ar gyflogwyr

4.(1) Rhaid i gyflogwr sydd â mwy na 50 o gyflogeion sy’n gyflogwr i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu neu sydd â chyfrifoldeb dros unrhyw weithiwr asiantaeth y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu, gymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd y profion hynny gan y person neu’r gweithiwr asiantaeth hwnnw yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2) Wrth gyflawni’r ddyletswydd o dan is-baragraff (1), rhaid i gyflogwr roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.

(3) Ym mharagraff (1) mae gan gyflogwr gyfrifoldeb dros weithiwr asiantaeth—

(a)os yw’r gweithiwr asiantaeth yn cael ei gyflenwi neu y mae i’w gyflenwi gan berson (“asiant”) i’r cyflogwr o dan gontract neu drefniadau eraill a wneir rhwng yr asiant a’r cyflogwr; a

(b)os nad yw’r gweithiwr asiantaeth—

(i)yn weithiwr oherwydd absenoldeb contract gweithiwr rhwng y gweithiwr asiantaeth a’r asiant neu’r cyflogwr, neu

(ii)yn barti i gontract y mae’r gweithiwr asiantaeth yn ymrwymo oddi tano i wneud y gwaith ar gyfer parti arall i gontract y mae ei statws, yn rhinwedd y contract, yn statws cleient neu gwsmer i unrhyw broffesiwn neu ymgymeriad busnes a gynhelir gan y gweithiwr asiantaeth.

Diwygiadau i Atodlen 2

14.—(1Mae Atodlen 2 (personau esempt) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 6—

(a)yn is-baragraff (1) hepgorer y geiriau “neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd”;

(b)mae is-baragraff (2)(c) wedi ei hepgor;

(c)mae is-baragraff (2)(e) wedi ei hepgor.

(3Ar ôl paragraff 6, mewnosoder—

6A.(1) Gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.

(2) At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—

(i)gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu

(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(9), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;

(b)mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;

(c)mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981(10).

Diwygiadau i Atodlen 3A

15.  Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Bangladesh

Kenya

Pakistan

Ynysoedd Philippines.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3.15 p.m. ar 8 Ebrill 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliadau 3 a 14 yn diwygio’r categori presennol o bersonau esempt ar gyfer y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n ymwneud â gweithwyr cludiant ffyrdd neu weithwyr cludiant teithwyr ffyrdd, gan greu dau gategori penodol yn y broses. Mae gweithwyr cludiant ffyrdd yn ddarostyngedig i’r darpariaethau profi gweithlu newydd a gyflwynir yn rheoliadau 7 a 13 a rheolau ynysu penodol a gyflwynir yn rheoliad 8. Mae rheoliad 9 yn diwygio’r rhestr o esgusodion rhesymol i adael ynysiad yn rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yng ngoleuni’r rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6G o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn darparu ar gyfer diwedd cyfnod ynysu pan na fo person wedi cael canlyniad prawf diwrnod 8. Mae’r cyfnod ynysu yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd y person mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf.

Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn caniatáu i weithiwr cludiant ffyrdd neu fyfyriwr sy’n mynychu ysgol fyrddio yng Nghymru gael mynediad i Gymru, pan fo’r person hwnnw wedi bod yn flaenorol mewn gwlad sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol. Mae’r personau hynny yn ddarostyngedig i ofynion ynysu penodol.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud â throseddau a hysbysiadau cosb benodedig yn rheoliadau 14 ac 16, yn y drefn honno, o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yng ngoleuni’r diwygiadau uchod.

Mae rheoliad 15 yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yng Nghymru. Mae rheoliad 15 yn ychwanegu Bangladesh, Kenya, Pakistan ac Ynysoedd Philippines at y rhestr.

Mae rheoliad 4 yn cynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y newidiadau a ddisgrifir uchod. Mae rheoliadau 8 a 10 hefyd yn cynnwys diwygiadau canlyniadol pellach. Mae rheoliad 5 yn cynnwys diwygiad er mwyn ymdrin â gwall drafftio yn rheoliad 6D o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei roi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(4)

EUR 2006/561, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/453 a 2021/135 a 1658.

(9)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 88.

(10)

1981 p. 14. Diwygiwyd adran 1 gan adran 139(3) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67).