Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 18/03/2022
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/04/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
2. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
3. Yn rheoliad 3(3)(a) (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) yn lle “paragraff 6” rhodder “paragraff 6A”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 3 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae rheoliad 6B (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A),”.
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Nid yw’r rheoliad hwn na rheoliad 6C yn gymwys pan fo rheoliad 6K (profi’r gweithlu) yn gymwys.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 4 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
5. Yn rheoliad 6D(4)(b) (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion) yn lle “cyn diwedd y” rhodder “yn ddim cynharach na’r”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 5 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
6. Ar ôl rheoliad 6G(2) (goblygiadau peidio â chael canlyniad prawf diwrnod 8 cyn diwrnod y cyfnod ynysu) mewnosoder—
“(3) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).”
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 6 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
7. Ar ôl rheoliad 6J (codi tâl am brofion) mewnosoder—
6K.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”), a bennir ym mharagraff 6 o Atodlen 2.
(2) Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2, diwrnod 5 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (6) mewn perthynas â phob categori o brawf.
(3) Pan na fo P yn cymryd prawf gweithlu fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf gweithlu arall.
(4) Pan fo prawf gweithlu arall wedi ei gymryd yn lle—
(a)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;
(b)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 5 yn unol â’r rheoliad hwn;
(c)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.
(5) Mae Atodlen 2D yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch profion gweithlu (gan gynnwys goblygiadau profi).
(6) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “prawf gweithlu arall” yw prawf gweithlu sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf gweithlu nas cynhaliwyd;
(b)ystyr “prawf gweithlu” yw prawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2);
(c)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2” yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
(d)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5” yw prawf gweithlu—
(i)sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2,
(ii)sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
(iii)sy’n cael ei gymryd cyn diwedd y pumed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
(e)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8” yw prawf gweithlu—
(i)sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu sy’n cael ei gymryd ar gyfer diwrnod 5,
(ii)sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
(iii)sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.”
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 7 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (b) yn lle “2 i 16” rhodder “2 i 5, 6A i 16”;
(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)yn ddarostyngedig i baragraff (3), ym mharagraff 6 o Atodlen 2;”
(c)yn is-baragraff (c) yn lle “yn rheoliad 12E(2)” rhodder “yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn rheoliad 12E(2)(a) i (d)”.
(3) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder—
“(3) Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i berson (“P”) a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 yn unol â pharagraffau (4) i (6).
(4) Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(d)(i) (gyrrwr cerbydau nwyddau) y fangre y mae rhaid i’r person ynysu ynddi at ddibenion gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr yn rheoliad 10(2)) yw—
(a)yn y cerbyd nwyddau pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw,
(b)yn y cerbyd nwyddau pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio ar ei ben ei hun mewn cerbyd nwyddau gyda chompartment y tu ôl i sedd y gyrrwr y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer cysgu (“cab cysgu”), yn ddarostyngedig i baragraff (c)(ii),
(c)mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw—
(i)os yw P yn teithio mewn cerbyd nwyddau heb gab cysgu, neu
(ii)pe bai ynysu mewn cerbyd nwyddau yn torri Erthygl 8 o Reoliad (EC) Rhif 561/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gysoni deddfwriaeth gymdeithasol benodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ffyrdd(3),
(d)yn y cerbyd nwyddau neu mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio gyda pherson arall mewn cerbyd nwyddau gyda chab cysgu.
(5) Pan fo P yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw paragraff (4) ond yn gymwys pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(i) o Atodlen 2.
(6) Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(ii) (deiliad trwydded Gymunedol) ac na fo’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â gofyniad ynysu pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.”
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 8 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mae rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (4)(n) mewnosoder—
“(o)os yw’n ynysu mewn cerbyd nwyddau yn rhinwedd rheoliad 9(4)—
(i)am resymau glanweithdra,
(ii)i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored,
(iii)pan fo’n ofynnol neu y caniateir gwneud hynny gan y paragraff hwnnw, i symud i le arall i ynysu,
(iv)i edrych ar y cerbyd neu ei lwyth neu i ymgymryd ag unrhyw dasg arall sy’n ofynnol er mwyn defnyddio’r cerbyd yn ddiogel a pharhau i’w ddefnyddio, gan gynnwys ail-lenwi â thanwydd, a
(v)am unrhyw reswm neu ddiben arall a bennir yn y paragraff hwn;
(p)i gymryd prawf gweithlu sy’n ofynnol gan reoliad 6K.”
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 9 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (2)(d)(i) mewnosoder—
“(iaa)paragraff 6;”.
(3) Ar ôl paragraff (2)(d), mewnosoder—
“(e)yn berson—
(i)sy’n blentyn, neu a oedd yn blentyn, ar 1 Medi 2020,
(ii)sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion cael addysg mewn ysgol fyrddio yng Nghymru y bwriedir darparu addysg a llety ar gyfer P ynddi, a
(iii)nad yw’n dod i’r Deyrnas Unedig yng nghwmni unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros P, neu os yw P yn 18 oed, a fyddai wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath pe bai P yn blentyn.”
(4) Ar ôl paragraff (4), mewnosoder—
“(5) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “ysgol fyrddio” yw ysgol neu goleg—
(i)sy’n darparu llety ar gyfer ei disgyblion neu ei ddisgyblion neu, yn ôl y digwydd, ei myfyrwyr neu ei fyfyrwyr, yn ei mangre neu ei fangre ei hun, neu
(ii)sy’n trefnu llety ar gyfer ei disgyblion neu ei ddisgyblion neu ei myfyrwyr neu ei fyfyrwyr sydd i’w ddarparu yn rhywle arall (ac eithrio mewn cysylltiad â thaith breswyl i ffwrdd o’r ysgol);
(b)ystyr “ysgol” yw—
(i)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig o fewn ystyr “community school”, “foundation school”, “voluntary school”, “community special school” a “foundation special school” yn adran 20 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4),
(ii)ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002(5)),
(iii)ysgol arbennig nas cynhelir (fel y diffinnir “non-maintained special school”) yn adran 337A o Ddeddf Addysg 1996(6)), neu
(iv)uned cyfeirio disgyblion o fewn ystyr “pupil referral unit” yn adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;
(c)ystyr “coleg” yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach o fewn ystyr “institutions within the further education sector” yn adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(7).”
(5) Ym mharagraff (3E), yn yr addasiad i reoliad 9, yn lle “rheoliad 12E(2)” rhodder “rheoliad 12E(2)(a) i (d)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 10 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)yn is-baragraff (h) hepgorer “neu”;
(b)yn is-baragraff (i), ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(c)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(j)6K”.
(3) Ym mharagraff (1B) yn lle “neu 6C” rhodder “, 6C neu 6K”.
(4) Ar ôl paragraff (1D) mewnosoder—
“(1E) At ddibenion rheoliad 6K, mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—
(a)pan na fo’n rhesymol ymarferol i P gymryd prawf oherwydd anabledd,
(b)pan fo angen triniaeth feddygol ar P â’r fath frys fel nad yw cymryd prawf yn rhesymol ymarferol,
(c)pan fo prawf yn cael ei ganslo am resymau y tu hwnt i reolaeth P,
(d)pan fo P wedi ymadael â Chymru.”
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 11 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Mae rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6), ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—
“(ac)o dorri gofyniad yn Atodlen 1D,”.
(3) Ar ôl paragraff (6AB) mewnosoder—
“(6AC) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 14(1)(j) am dorri gofyniad yn rheoliad 6K, yna rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—
(a)yn achos hysbysiad cosb benodedig cyntaf, £1,000;
(b)yn achos ail hysbysiad cosb benodedig, £2,000;
(c)yn achos trydydd hysbysiad cosb benodedig a hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £3,000.”
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 12 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
13. Ar ôl Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) mewnosoder—
Rheoliad 6K
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “P” (“P”) yw person y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu o dan reoliad 6K (profi’r gweithlu);
ystyr “prawf gweithlu” (“workforce test”) yw unrhyw un neu ragor o’r categorïau o brawf gweithlu a ddisgrifir yn rheoliad 6K(6).
2.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fo P yn methu â chymryd prawf gweithlu y mae’n ofynnol i P ei gymryd o dan reoliad 6K.
(2) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ynysu mewn mangre addas tan y cynharaf o’r canlynol—
(a)diwedd y 14eg diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru; neu
(b)yr adeg y mae P yn cael canlyniad prawf gweithlu negyddol.
(3) Rhaid i P gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cymwys yn rheoliad 6K(2) yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (2).
(4) Pan fo’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (2), mae rheoliad 10(4) yn gymwys.
3.—(1) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad positif—
(a)rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf pellach sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1C;
(b)rhaid i P ynysu mewn mangre addas hyd ddiwedd y 10fed diwrnod ar ôl y diwrnod y cymerodd P y prawf.
(2) Pan fo’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (1)(b), mae rheoliad 10(4) yn gymwys.
(3) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad positif—
(a)os oedd y prawf hwnnw yn brawf gweithlu a gymerwyd ar gyfer diwrnod 2, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 5 na diwrnod 8;
(b)os oedd y prawf hwnnw yn brawf gweithlu a gymerwyd ar gyfer diwrnod 5, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 8.
(4) Pan fo prawf pellach a gymerir yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn cynhyrchu canlyniad negyddol, mae’r paragraff hwn yn gymwys i P o’r adeg yr hysbysir P am y canlyniad negyddol hwnnw fel pe bai’r prawf gweithlu a gymerwyd gan P yn unol â rheoliad 6K wedi cynhyrchu canlyniad negyddol (ac, yn unol â hynny, o’r adeg honno, nid yw’n ofynnol i P ynysu mwyach).
(5) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad amhendant, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gynnal prawf gweithlu pellach ac mae’r prawf gweithlu pellach hwnnw i’w drin fel prawf gweithlu arall o fewn ystyr rheoliad 6K(4) (gofyniad i gymryd profion gweithlu).
4.—(1) Rhaid i gyflogwr sydd â mwy na 50 o gyflogeion sy’n gyflogwr i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu neu sydd â chyfrifoldeb dros unrhyw weithiwr asiantaeth y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu, gymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd y profion hynny gan y person neu’r gweithiwr asiantaeth hwnnw yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Wrth gyflawni’r ddyletswydd o dan is-baragraff (1), rhaid i gyflogwr roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
(3) Ym mharagraff (1) mae gan gyflogwr gyfrifoldeb dros weithiwr asiantaeth—
(a)os yw’r gweithiwr asiantaeth yn cael ei gyflenwi neu y mae i’w gyflenwi gan berson (“asiant”) i’r cyflogwr o dan gontract neu drefniadau eraill a wneir rhwng yr asiant a’r cyflogwr; a
(b)os nad yw’r gweithiwr asiantaeth—
(i)yn weithiwr oherwydd absenoldeb contract gweithiwr rhwng y gweithiwr asiantaeth a’r asiant neu’r cyflogwr, neu
(ii)yn barti i gontract y mae’r gweithiwr asiantaeth yn ymrwymo oddi tano i wneud y gwaith ar gyfer parti arall i gontract y mae ei statws, yn rhinwedd y contract, yn statws cleient neu gwsmer i unrhyw broffesiwn neu ymgymeriad busnes a gynhelir gan y gweithiwr asiantaeth.”
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 13 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Mae Atodlen 2 (personau esempt) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 6—
(a)yn is-baragraff (1) hepgorer y geiriau “neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd”;
(b)mae is-baragraff (2)(c) wedi ei hepgor;
(c)mae is-baragraff (2)(e) wedi ei hepgor.
(3) Ar ôl paragraff 6, mewnosoder—
“6A.—(1) Gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.
(2) At ddibenion y paragraff hwn—
(a)ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—
(i)gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu
(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(8), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;
(b)mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;
(c)mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981(9).”
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 14 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
15. Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Bangladesh”
“Kenya”
“Pakistan”
“Ynysoedd Philippines”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 15 mewn grym ar 9.4.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26); O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78) ac O.S. 2021/361 (Cy. 110).
EUR 2006/561, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/453 a 2021/135 a 1658.
OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 88.
1981 p. 14. Diwygiwyd adran 1 gan adran 139(3) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: