RHAN 2Diwygiadau

Diwygiadau i reoliad 1612.

(1)

Mae rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff (6), ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—

“(ac)

o dorri gofyniad yn Atodlen 1D,”.

(3)

Ar ôl paragraff (6AB) mewnosoder—

“(6AC)

Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 14(1)(j) am dorri gofyniad yn rheoliad 6K, yna rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—

(a)

yn achos hysbysiad cosb benodedig cyntaf, £1,000;

(b)

yn achos ail hysbysiad cosb benodedig, £2,000;

(c)

yn achos trydydd hysbysiad cosb benodedig a hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £3,000.”