Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Atodlen 1D newydd

13.  Ar ôl Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) mewnosoder—

Rheoliad 6K

ATODLEN 1DProfion gweithlu

Dehongli Atodlen 1D

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “P” (“P”) yw person y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu o dan reoliad 6K (profi’r gweithlu);

ystyr “prawf gweithlu” (“workforce test”) yw unrhyw un neu ragor o’r categorïau o brawf gweithlu a ddisgrifir yn rheoliad 6K(6).

Gofyniad ar ôl methiant i gymryd prawf

2.(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fo P yn methu â chymryd prawf gweithlu y mae’n ofynnol i P ei gymryd o dan reoliad 6K.

(2) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ynysu mewn mangre addas tan y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwedd y 14eg diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru; neu

(b)yr adeg y mae P yn cael canlyniad prawf gweithlu negyddol.

(3) Rhaid i P gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cymwys yn rheoliad 6K(2) yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (2).

(4) Pan fo’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (2), mae rheoliad 10(4) yn gymwys.

Goblygiadau canlyniadau prawf

3.(1) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad positif—

(a)rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf pellach sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1C;

(b)rhaid i P ynysu mewn mangre addas hyd ddiwedd y 10fed diwrnod ar ôl y diwrnod y cymerodd P y prawf.

(2) Pan fo’n ofynnol i P ynysu yn unol ag is-baragraff (1)(b), mae rheoliad 10(4) yn gymwys.

(3) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad positif—

(a)os oedd y prawf hwnnw yn brawf gweithlu a gymerwyd ar gyfer diwrnod 2, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 5 na diwrnod 8;

(b)os oedd y prawf hwnnw yn brawf gweithlu a gymerwyd ar gyfer diwrnod 5, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 8.

(4) Pan fo prawf pellach a gymerir yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn cynhyrchu canlyniad negyddol, mae’r paragraff hwn yn gymwys i P o’r adeg yr hysbysir P am y canlyniad negyddol hwnnw fel pe bai’r prawf gweithlu a gymerwyd gan P yn unol â rheoliad 6K wedi cynhyrchu canlyniad negyddol (ac, yn unol â hynny, o’r adeg honno, nid yw’n ofynnol i P ynysu mwyach).

(5) Pan fo prawf gweithlu a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6K yn cynhyrchu canlyniad amhendant, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gynnal prawf gweithlu pellach ac mae’r prawf gweithlu pellach hwnnw i’w drin fel prawf gweithlu arall o fewn ystyr rheoliad 6K(4) (gofyniad i gymryd profion gweithlu).

Dyletswyddau ar gyflogwyr

4.(1) Rhaid i gyflogwr sydd â mwy na 50 o gyflogeion sy’n gyflogwr i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu neu sydd â chyfrifoldeb dros unrhyw weithiwr asiantaeth y mae’n ofynnol iddo gymryd profion gweithlu, gymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd y profion hynny gan y person neu’r gweithiwr asiantaeth hwnnw yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2) Wrth gyflawni’r ddyletswydd o dan is-baragraff (1), rhaid i gyflogwr roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.

(3) Ym mharagraff (1) mae gan gyflogwr gyfrifoldeb dros weithiwr asiantaeth—

(a)os yw’r gweithiwr asiantaeth yn cael ei gyflenwi neu y mae i’w gyflenwi gan berson (“asiant”) i’r cyflogwr o dan gontract neu drefniadau eraill a wneir rhwng yr asiant a’r cyflogwr; a

(b)os nad yw’r gweithiwr asiantaeth—

(i)yn weithiwr oherwydd absenoldeb contract gweithiwr rhwng y gweithiwr asiantaeth a’r asiant neu’r cyflogwr, neu

(ii)yn barti i gontract y mae’r gweithiwr asiantaeth yn ymrwymo oddi tano i wneud y gwaith ar gyfer parti arall i gontract y mae ei statws, yn rhinwedd y contract, yn statws cleient neu gwsmer i unrhyw broffesiwn neu ymgymeriad busnes a gynhelir gan y gweithiwr asiantaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources