Diwygiad i reoliad 9
8.—(1) Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)yn is-baragraff (b) yn lle “2 i 16” rhodder “2 i 5, 6A i 16”;
(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)yn ddarostyngedig i baragraff (3), ym mharagraff 6 o Atodlen 2;”
(c)yn is-baragraff (c) yn lle “yn rheoliad 12E(2)” rhodder “yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn rheoliad 12E(2)(a) i (d)”.
(3) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder—
“(3) Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i berson (“P”) a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 yn unol â pharagraffau (4) i (6).
(4) Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(d)(i) (gyrrwr cerbydau nwyddau) y fangre y mae rhaid i’r person ynysu ynddi at ddibenion gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr yn rheoliad 10(2)) yw—
(a)yn y cerbyd nwyddau pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw,
(b)yn y cerbyd nwyddau pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio ar ei ben ei hun mewn cerbyd nwyddau gyda chompartment y tu ôl i sedd y gyrrwr y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer cysgu (“cab cysgu”), yn ddarostyngedig i baragraff (c)(ii),
(c)mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw—
(i)os yw P yn teithio mewn cerbyd nwyddau heb gab cysgu, neu
(ii)pe bai ynysu mewn cerbyd nwyddau yn torri Erthygl 8 o Reoliad (EC) Rhif 561/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gysoni deddfwriaeth gymdeithasol benodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ffyrdd(),
(d)yn y cerbyd nwyddau neu mewn gwesty, hostel neu lety gwely a brecwast pan na fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw os yw P yn teithio gyda pherson arall mewn cerbyd nwyddau gyda chab cysgu.
(5) Pan fo P yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw paragraff (4) ond yn gymwys pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(i) o Atodlen 2.
(6) Pan fo P yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(2)(d)(ii) (deiliad trwydded Gymunedol) ac na fo’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â gofyniad ynysu pan fydd yn ymgymryd â’r gwaith y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.”