xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4(6A), yn lle “11 Ebrill” rhodder “25 Ebrill”.

(3Ar ôl Rhan 3 mewnosoder—

RHAN 3ALL+CCyfyngiadau teithio etc.

Cyfyngiad ar deithio rhyngwladol

14A.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)teithio i fan cychwyn, neu fod yn bresennol ynddo, at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2) At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r diben y mae’r person yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ato yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(d)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(f)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(g)symud cartref;

(h)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(ii)fel gofalwr parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(c)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(d)athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(e)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu

(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin;

(f)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad.

(5) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(6) Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 14B a 29—

(a)mae i “yr ardal deithio gyffredin” yr un ystyr â “the common travel area” yn Neddf Mewnfudo 1971(3);

(b)ystyr “man cychwyn” yw terfynfa ryngwladol neu unrhyw fan arall yng Nghymru y caiff person deithio ohono i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Ffurflen datganiad teithio rhyngwladol

14B.(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog.

(2) Rhaid i’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol fod ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru(4) a chynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn P,

(b)dyddiad geni a chenedligrwydd P,

(c)rhif pasbort P, neu rif cyfeirnod dogfen deithio P (fel y bo’n briodol),

(d)cyfeiriad cartref P,

(e)cyrchfan P,

(f)y rheswm y mae P yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin,

(g)datganiad bod P yn ardystio bod yr wybodaeth y mae P yn ei darparu yn wir, ac

(h)y dyddiad y mae’r datganiad wedi ei gwblhau.

(3) Pan fo P yn teithio gyda phlentyn neu berson nad oes ganddo alluedd (“G”), y mae gan P gyfrifoldeb drosto, rhaid i P, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau sy’n ymwneud ag G i’r swyddog.

(4) Nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)i G, na

(b)i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(5) Yn y rheoliad hwn, nid oes gan berson alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr “lack capacity” yn adran 2 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(5), i gwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol.

(4Ar ôl Rhan 4 mewnosoder—

RHAN 4ALL+CCymryd mesurau ataliol wrth ymgyrchu mewn etholiad

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws wrth ymgyrchu mewn etholiad

18A.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gyflawni neu hwyluso gweithgaredd sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo unrhyw berson i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg—

(i)y bydd unrhyw berson sy’n ymwneud â’r gweithgaredd yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, a

(ii)y bydd unrhyw berson o’r fath yn lledaenu’r coronafeirws, a

(b)wrth gymryd y mesurau hynny, roi sylw i unrhyw ganllawiau amdanynt a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(2) O ran y mesurau sydd i’w cymryd o dan baragraff (1)(a)—

(a)rhaid iddynt gynnwys cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr), a

(b)gallant gynnwys cymryd mesurau eraill sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal hylendid megis—

(i)cyfyngu ar nifer y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad;

(ii)gwisgo gorchuddion wyneb;

(iii)cyfyngu ar nifer y personau sy’n trin taflenni neu ddeunyddiau eraill.

(3) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1)(b), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(5Yn rheoliad 25(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “rheoliadau” mewnosoder “14B, 18A,”.

(6Yn rheoliad 27(1), o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(za)rheoliad 18A(1),.

(7Yn lle rheoliad 29 rhodder—

Pwerau sy’n ymwneud â chyfyngiadau teithio

29.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(2) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â Chymru.

(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(4) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i Gymru;

(b)dychwelyd y person i Gymru.

(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)bod person (“P”) yn bresennol mewn man cychwyn at ddibenion teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, a

(b)bod y gofyniad yn rheoliad 14B(1) yn gymwys i P a bod P wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad.

(6) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo P i gwblhau ffurflen datganiad teithio rhyngwladol a chaiff bennu amser erbyn pryd y mae’r ffurflen i’w chwblhau.

(7) Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y cyfyngiad yn rheoliad 14A(1) yn gymwys yn achos person (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn, a

(b)pan fo P naill ai—

(i)yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 14B(1), ac na fo’n cwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol pan y’i cyfarwyddir i wneud hynny o dan baragraff (5), neu

(ii)yn darparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog gorfodaeth y mae’r swyddog yn ystyried nad yw’n datgelu esgus rhesymol.

(8) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo P i ymadael â’r man cychwyn heb ymadael â’r Deyrnas Unedig;

(b)symud y person o’r man cychwyn.

(8Yn lle rheoliad 38 rhodder—

Troseddau cyfyngiadau teithio

38.(1) Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)rheoliad 14A, neu

(b)rheoliad 14B,

yn cyflawni trosedd.

(2) Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar ffurflen datganiad teithio rhyngwladol o dan reoliad 14B pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r wybodaeth anwir neu gamarweiniol wedi ei rhoi am resymau diogelwch gwladol.

(9Yn rheoliad 48(1), ar ôl “rheoliad 49,” mewnosoder “49A,”.

(10Ar ôl rheoliad 49 mewnosoder—

Swm cosb benodedig: gofynion teithio rhyngwladol

49A.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 38(1)(a), swm y gosb benodedig yw £5000.

(11Yn rheoliad 53(1)(c), ar ôl “49,” mewnosoder “49A,”.

(12Yn rheoliad 57(1)—

(a)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(da)ystyr “gwasanaeth cysylltiad agos” yw gwasanaeth a ddarperir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)salonau gwallt a barbwyr;

(ii)salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis;

(iii)gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio;

(b)hepgorer is-baragraff (t).

(13Yn Atodlen 1, hepgorer Rhan 3.

(14Yn Atodlen 2, hepgorer Rhan 3.

(15Yn Atodlen 3, hepgorer Rhan 3.

(16Yn Atodlen 3A—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (6), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion cael neu ddarparu—

(i)gwasanaethau meddygol neu iechyd, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, a gwasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;

(ii)gwasanaeth cysylltiad agos;;

(ii)hepgorer is-baragraff (7);

(b)ym mharagraff 3, hepgorer is-baragraff (7);

(c)hepgorer Rhan 3;

(d)ym mharagraff 7(2), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;

(e)ym mharagraff 9—

(i)yn y pennawd, hepgorer “ac amlosgfeydd”;

(ii)yn is-baragraff (1)—

(aa)yn lle “mharagraffau 19 ac 20” rhodder “mharagraff 19”;

(bb)yn lle “is-baragraffau (2) a (3)” rhodder “is-baragraff (2)”;

(iii)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion” rhodder “at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion”;

(iv)hepgorer is-baragraff (3);

(v)hepgorer is-baragraff (4)(b);

(vi)hepgorer is-baragraff (5);

(f)ym mharagraff 10—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “21 i 47” rhodder “24 i 44”;

(ii)yn is-baragraff (3), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)a restrir ym mharagraff 39 neu 42 (sbaon a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o dan do) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;;

(g)ym mharagraff 11—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “48 i 66” rhodder “51 a 52”;

(ii)yn lle is-baragraff (1)(c) rhodder—

(c)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;;

(h)hepgorer paragraffau 20 i 23;

(i)hepgorer paragraffau 45 i 50;

(j)hepgorer paragraffau 53 i 66.

(17Yn Atodlen 4—

(a)hepgorer Rhan 3;

(b)ym mharagraff 9—

(i)yn y pennawd, hepgorer “ac amlosgfeydd”;

(ii)yn is-baragraff (1)—

(aa)yn lle “mharagraffau 19 ac 20” rhodder “mharagraff 19”;

(bb)yn lle “is-baragraffau (2) a (3)” rhodder “is-baragraff (2)”;

(iii)hepgorer is-baragraffau (3) a (4);

(c)hepgorer paragraff 20.

(18Yn Atodlen 5, paragraff 2—

(a)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “11 Ebrill” rhodder “25 Ebrill”;

(b)hepgorer paragraffau (d) ac (g).

(19Ar ôl Atodlen 5 mewnosoder—

Rheoliadau 14A a 14B

ATODLEN 5ALL+CPersonau sydd wedi eu hesemptio rhag y cyfyngiadau ar ymadael â’r Deyrnas Unedig, a’r gofyniad i gael ffurflen datganiad teithio

1.(1) Person (“P”)—

(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig,

(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig,

(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol,

(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth,

(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol,

(f)sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,

(g)sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f),

(h)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn swydd gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd,

(i)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig,

(j)sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig,

(k)sy’n gludydd diplomyddol neu’n gludydd consylaidd, neu

(l)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).

(2) At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963;

(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd;

(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Diplomyddol 1961;

(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, cyflogai consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(6), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno;

(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(7).

2.(1) Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth pan fo’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(2) At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—

(a)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(8);

(b)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol;

(c)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

3.(1) Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni;

(b)sy’n teithio ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad, neu sy’n ei gefnogi.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi ar gyfer y Deyrnas Unedig.

4.  Swyddog i Lywodraeth dramor, a ddaeth i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol.

5.(1) Teithiwr tramwy.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig—

(a)yn pasio drwodd i wlad neu diriogaeth arall y tu allan i’r ardal deithio gyffredin heb ddod i’r Deyrnas Unedig, neu

(b)yn dod i’r Deyrnas Unedig at ddiben parhau â thaith i wlad neu diriogaeth y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac at y diben hwnnw yn unig, ac—

(i)yn aros o fewn y porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig hyd nes y bo’n ymadael â Chymru, neu

(ii)yn teithio’n uniongyrchol o’r porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig i borthladd ymadael arall yng Nghymru.

6.(1) Gweithiwr cludiant ffyrdd neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.

(2) At ddibenion y paragraff hwn—

(a)mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;

(b)mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(9);

(c)ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” yw—

(i)gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddiben personol anfasnachol y gyrrwr, neu

(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(10), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;

(d)mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981(11);

(e)ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—

(i)gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu

(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(12), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth.

7.(1) Morwyr a meistri, fel y diffinnir “seaman” a “master” yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(13), pan fônt yn teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu’n cael eu dychwelyd o’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn Llafur Morwrol, 2006 neu’r Confensiwn Gwaith mewn Pysgota, 2007.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “y Confensiwn Llafur Morol, 2006” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd ar 23 Chwefror 2006 gan Gynhadledd Gyffredinol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(14);

(b)ystyr “y Confensiwn Gwaith mewn Pysgota, 2007” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 14 Mehefin 2007 gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(15).

8.  Peilot, fel y diffinnir “pilot” ym mharagraff 22(1) o Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995(16), pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu’n cael ei ddychwelyd o’r Deyrnas Unedig.

9.  Arolygydd neu syrfëwr llongau a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(17) neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

10.(1) Aelod o griw awyren pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu y mae’n ofynnol iddo deithio o’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.

(2) Yn is-baragraff (1)—

(a)ystyr “aelod o griw awyren” yw person sydd—

(i)yn gweithredu fel peilot, llywiwr hedfan, peiriannydd hedfan neu weithredwr radioteleffoni hedfan yr awyren,

(ii)yn cael ei gludo ar y dec hedfan ac yn cael ei benodi gan weithredwr yr awyren i roi neu i oruchwylio’r hyfforddiant, y profiad, yr ymarfer a’r profion cyfnodol sy’n ofynnol ar gyfer y criw hedfan o dan erthygl 114(2) o Orchymyn Llywio Awyr 2016(18) neu o dan Atodiad III neu Atodiad VI i Reoliad Gweithrediadau Awyr EASA, neu

(iii)yn cael ei gludo ar yr hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren er budd diogelwch teithwyr neu’r awyren;

(b)mae i “Rheoliad Gweithrediadau Awyr EASA” yr ystyr a roddir i “EASA Air Operations Regulation” ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Llywio Awyr 2016.

11.  Arolygwyr hedfan sifil, fel y diffinnir “civil aviation inspector” yn Atodiad 9 i’r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol a lofnodwyd yn Chicago ar 7 Rhagfyr 1944(19), pan fônt yn teithio o’r Deyrnas Unedig wrth ymgymryd â dyletswyddau arolygu.

12.(1) Unrhyw un o’r personau a ganlyn sy’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—

(a)gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel;

(b)gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel;

(c)gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer gweithredu, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “gwasanaeth gwennol” yr ystyr a roddir i “shuttle service” yn adran 1(9) o Ddeddf Twnnel y Sianel 1987(20);

(b)mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.

13.  Person a ddynodir gan y Gweinidog perthnasol o dan adran 5(3) o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984(21).

14.  Person sy’n cael ei symud o’r Deyrnas Unedig yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984.

15.  Person sy’n gyfrifol am hebrwng person a geisir i’w estraddodi yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Estraddodi 2003(22), neu berson a geisir i’w estraddodi yn unol ag unrhyw drefniadau estraddodi eraill.

16.  Cynrychiolydd i unrhyw diriogaeth a deithiodd i’r Deyrnas Unedig er mwyn cymryd i’r ddalfa berson y gorchmynnwyd ei ildio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Estraddodi 2003.

17.  Person sy’n cael ei estraddodi neu ei allgludo o’r Deyrnas Unedig, ac unrhyw berson sy’n cael ei symud o’r Deyrnas Unedig, neu sy’n ymadael â hi yn wirfoddol, am nad oes ganddo ganiatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi.

18.(1) Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol at ddiben sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd, ond heb ei gyfyngu i hynny);

(b)ystyr “gweithiwr awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau at ddiben sicrhau bod diogelwch yn cael ei reoli a bod ansawdd yn cael ei sicrhau fel sy’n ofynnol gan y safonau, y canllawiau a’r cyhoeddiadau perthnasol ar ddiogelwch hedfan a gynhyrchir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd(23).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 12.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod, gweler rhl. 1(2)

(2)

2006 p. 47. Mewnosodwyd paragraff 7(3B) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(6)

1968 p. 18. Mae diwygiadau ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

1964 p. 81. Mae diwygiadau ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(8)

1989 p. 6. Diwygiwyd adran 12 gan baragraff 22 o Atodlen 10 i Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1996 (p. 14), gan baragraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), gan baragraff 26 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46), gan baragraff 9 o Atodlen 13 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (p. 47), gan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p. 32), gan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Ynni 2004 (p. 20), gan baragraff 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15), gan baragraff 34 o Atodlen 10, a pharagraff 1 o Atodlen 12, i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a chan baragraff 36 o Atodlen 8 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).

(9)

1988 p. 52. Mae diwygiadau i adran 192 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(10)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 72.

(11)

1981 p. 14. Diwygiwyd adran 1 gan adran 139(3) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67).

(12)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 88.

(13)

1995 p. 21. Mae diwygiadau i adran 313(1) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(14)

Gorch. 7049. ISBN 978 010 1889 766.

(15)

Gorch. 7375.

(16)

Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Atodlen 1 i Ddeddf Diogelwch Morol 2003 (p. 16).

(17)

Mae diwygiadau i adran 256 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(19)

Argraffiad diweddaraf Atodiad 9, a gyhoeddir gan y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol, yw’r 15ed argraffiad, sy’n gymwys ers 23 Chwefror 2018 (ISBN 978-92-9258-301-9).

(23)

Sefydlwyd yr Awdurdod Hedfan Sifil o dan adran 1(1) o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75). Disodlwyd y Ddeddf honno gan statud cydgrynhoi, Deddf Hedfan Sifil 1982 (p. 16), y mae adran 2(1) o’r Ddeddf honno yn darparu ar gyfer parhad yr Awdurdod Hedfan Sifil. Mae diwygiadau i adran 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Sefydlwyd Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd gan Reoliad (EU) 2018/1139 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 4 Gorffennaf 2018 ar reolau cyffredin ym maes hedfan sifil ac yn sefydlu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd, ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 2111/2005, (EC) Rhif 1008/2008, (EU) Rhif 996/2010, (EU) Rhif 376/2014 a Chyfarwyddebau 2014/30/EU a 2014/53/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 552/2004 ac (EC) Rhif 216/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3922/91.