2021 Rhif 46 (Cy. 10)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
2
Daw Rhannau 1, 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021.
3
Daw Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 16 Ionawr 2021.
RHAN 2Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt2
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—
Aruba
ynysoedd Açores
Bonaire, Sint Eustatius a Saba
Chile
Madeira
Qatar
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 23
1
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
a
yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 16 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a
b
wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
i
o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
ii
cyn 4.00 a.m. ar 16 Ionawr 2021.
2
Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3Diwygiadau eraill i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegu gwledydd at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol4
Yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—
Ariannin
Brasil
Bolivia
Chile
Colombia
Ecuador
Guiana Ffrengig
Guyana
Gweriniaeth Cabo Verde
Gweriniaeth Panamá
Paraguay
Periw
Portiwgal
Suriname
Uruguay
Venezuela
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 45
Nid yw rheoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol6
Yn rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
9
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—
a
mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2),
b
bu ddiwethaf ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac
c
nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall a restrir yn Atodlen 3A.
Diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol7
Ym mharagraff 8 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, hepgorer “yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007”.
RHAN 4Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau
Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau8
1
Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 11A, yn lle’r pennawd rhodder—
Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 9 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorol
3
Ar ôl rheoliad 11A mewnosoder—
Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 15 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorol11AA
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
a
yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021,
b
wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac
c
wedi bod mewn gwlad restredig o fewn y cyfnod hwnnw.
2
Oni bai bod rheoliad 11B yn gymwys, ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle y mae’n byw neu fod y tu allan iddo tan ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf.
3
Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i P hysbysu’r swyddog olrhain cysylltiadau—
a
am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
b
am gyfeiriad y man hwnnw.
4
At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig—
a
Ariannin;
b
Brasil;
c
Bolivia;
d
Chile;
e
Colombia;
f
Ecuador;
g
Guiana Ffrengig;
h
Guyana;
i
Paraguay;
j
Periw;
k
Portiwgal;
l
Gweriniaeth Cabo Verde;
m
Gweriniaeth Panamá;
n
Suriname;
o
Uruguay;
p
Venezuela.
5
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—
a
mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020),
b
mae wedi bod ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac
c
nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad restredig arall.
4
Yn rheoliad 11B(1), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “neu 11AA(2)”.
5
Yn rheoliad 12, yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.
6
Yn rheoliad 14(2)(aa), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “neu 11AA(2)”.
7
Yn rheoliad 22(4)(a), yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.
8
Yn rheoliad 30, yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.
9
Yn rheoliad 40—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (a), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “, 11AA(2)”;
ii
yn is-baragraff (b), yn lle “neu 11A(3)” rhodder “, 11A(3) neu 11AA(3)”;
b
ym mharagraff (2)(a), yn lle “neu 11A(3)” rhodder “, 11A(3) neu 11AA(3)”.
10
Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn y testun Cymraeg, yn lle “a chartrefi arddangos” rhodder “a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)