Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021

RHAN 4Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau

Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau

8.—(1Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 11A, yn lle’r pennawd rhodder—

Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 9 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorol.

(3Ar ôl rheoliad 11A mewnosoder—

Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 15 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorol

11AA.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021,

(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac

(c)wedi bod mewn gwlad restredig o fewn y cyfnod hwnnw.

(2) Oni bai bod rheoliad 11B yn gymwys, ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle y mae’n byw neu fod y tu allan iddo tan ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf.

(3) Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i P hysbysu’r swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig—

(a)Ariannin;

(b)Brasil;

(c)Bolivia;

(d)Chile;

(e)Colombia;

(f)Ecuador;

(g)Guiana Ffrengig;

(h)Guyana;

(i)Paraguay;

(j)Periw;

(k)Portiwgal;

(l)Gweriniaeth Cabo Verde;

(m)Gweriniaeth Panamá;

(n)Suriname;

(o)Uruguay;

(p)Venezuela.

(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—

(a)mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020),

(b)mae wedi bod ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac

(c)nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad restredig arall.

(4Yn rheoliad 11B(1), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “neu 11AA(2)”.

(5Yn rheoliad 12, yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.

(6Yn rheoliad 14(2)(aa), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “neu 11AA(2)”.

(7Yn rheoliad 22(4)(a), yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.

(8Yn rheoliad 30, yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.

(9Yn rheoliad 40—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “, 11AA(2)”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “neu 11A(3)” rhodder “, 11A(3) neu 11AA(3)”;

(b)ym mharagraff (2)(a), yn lle “neu 11A(3)” rhodder “, 11A(3) neu 11AA(3)”.

(10Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn y testun Cymraeg, yn lle “a chartrefi arddangos” rhodder “a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr”.