Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Enwi, dod i rym a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
(2) Daw Rhannau 1, 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021.
(3) Daw Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 16 Ionawr 2021.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020();
(b)ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020().
Back to top