4. Yn y Rhan hon—
ystyr “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol” (“the requirement to possess notification of a negative test result”) yw’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio ar lestr neu awyren arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) [F1, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw] gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol;
[F2ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—
enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,
dyddiad geni neu oed y person hwnnw,
canlyniad negyddol y prawf hwnnw,
y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,
[F3datganiad—
bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu
o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,
enw darparwr y prawf;]]
[F4ystyr “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd” (“notification of post arrival testing arrangements”) yw hysbysu am y trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i deithiwr gymryd profion ar gyfer canfod y coronafeirws]
ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob disgrifiad o lestr a ddefnyddir wrth fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft“ yn Neddf Hofrenfadau 1968) y mae ei hyd yn 24 o fetrau neu fwy;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) [F5, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw] —
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(1);
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr;
F6...
ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(2);
ystyr “teithiwr” (“passenger”) yw person sy’n teithio ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol nad yw’n aelod o griw y gwasanaeth hwnnw;
[F7ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw—
teithiwr sy’n methu, heb esgus rhesymol—
â dangos hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
â darparu cyfeirnod prawf neu dystiolaeth arall bod profion ar gyfer canfod y coronafeirws wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’r teithiwr i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
teithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru yn groes i reoliad 12E(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;]
ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn—
sydd â gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(3).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(c)
F2Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (23.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/72), rhlau. 1(2), 4(2)(c)
F3Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (13.3.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/305), rhlau. 1(2), 9
F4Geiriau yn rhl. 4 wedi eu mewnosod (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(b)
F5Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(a)
F6Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hepgor (23.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/72), rhlau. 1(2), 4(2)(a)
F7Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).
1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.