Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 3LL+CAtebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd

DehongliLL+C

4.  Yn y Rhan hon—

ystyr “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol” (“the requirement to possess notification of a negative test result”) yw’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio ar lestr neu awyren arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) [F1, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw] gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol;

[F2ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—

(a)

enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,

(b)

dyddiad geni neu oed y person hwnnw,

(c)

canlyniad negyddol y prawf hwnnw,

(d)

y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,

(e)

[F3datganiad—

(i)

bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)

o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,

(f)

enw darparwr y prawf;]]

[F4ystyr “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd” (“notification of post arrival testing arrangements”) yw hysbysu am y trefniadau a wnaed yn unol â [F5rheoliad 6AB] o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i deithiwr gymryd profion ar gyfer canfod y coronafeirws]

ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob disgrifiad o lestr a ddefnyddir wrth fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft“ yn Neddf Hofrenfadau 1968) y mae ei hyd yn 24 o fetrau neu fwy;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) [F6, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw]

(c)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(d)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(1);

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr;

F7...

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(2);

ystyr “teithiwr” (“passenger”) yw person sy’n teithio ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol nad yw’n aelod o griw y gwasanaeth hwnnw;

[F8ystyr “teithiwr Atodlen 3A” (“Schedule 3A passenger”) yw person sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac nad yw’n berson y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r rheoliadau hynny yn gymwys iddo;]

[F9ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw—

(a)

teithiwr sy’n methu, heb esgus rhesymol—

(i)

â dangos hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu

(ii)

â darparu cyfeirnod prawf neu dystiolaeth arall bod profion ar gyfer canfod y coronafeirws wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’r teithiwr i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu

(b)

teithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru yn groes i reoliad 12E(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;]

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn—

(a)

sydd â gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)

sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(3).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

(1)

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).

(2)

1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.