
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
13. Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—
“2A.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â rheoliad 2(4).”
Back to top