- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
170. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—
“10A.—(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu
(iii)yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
10B.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);
(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu
(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(3) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).
10C.—(1) Person—
(a)sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
10D.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
(iii)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu
(iv)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).”
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: