2021 Rhif 481 (Cy. 148)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 19831, adran 22(2)(a) a (d) ac adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19982 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20154, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Ebrill 2021.

Cymhwyso2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr, ac â ffioedd a dyfarndaliadau sy’n gymwys, mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (FFIOEDD A DYFARNIADAU) (CYMRU) 2007

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

3

Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20075 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

4

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Gibraltar; Montserrat; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys Ascension a Tristan da Cunha); ac Ynysoedd Turks a Caicos;

b

ym mharagraff (4)—

i

ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

ii

ar ôl “tiriogaethau tramor”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”;

c

ym mharagraff (5), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon;

d

ym mharagraff (6)—

i

ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

ii

ar ôl “tiriogaethau tramor” mewnosoder “, y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”.

5

Yn rheoliad 4 (codi ffioedd)—

a

yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (1B), mae’n gyfreithlon i’r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) godi ffioedd uwch yn achos person nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen; neu

b

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (1A) yn gymwys,

nag yn achos person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau hynny.

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan ddaeth person (“A”) o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; a

b

pan fo A yn atebol am ffioedd mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw, neu

ii

cwrs a ddarperir gan sefydliad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) y mae A yn trosglwyddo iddo o’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

1B

Mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraff (1)(a).

c

ym mharagraff (2), yn lle “o fewn yr” rhodder “o fewn paragraff o’r”, ac yn lle “o’i mewn” rhodder “o’i fewn”.

6

Yn rheoliad 5 (dyfarniadau gan awdurdodau lleol)—

a

ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4),”;

b

yn lle paragraff (1)(b) ac (c) rhodder—

b

sy’n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau ffioedd i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

i

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

ii

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (2) yn gymwys;

c

sy’n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau cynhaliaeth i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

i

paragraffau 2, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9B, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

ii

paragraffau 6, 7, 8, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (3) yn gymwys.

c

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

2

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs hwnnw sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

b

pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r cwrs hwnnw.

3

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs hwnnw sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

b

pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r cwrs hwnnw.

4

Mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (1)(b)(i) ac (1)(c)(i).

7

1

Yn lle’r pennawd ar gyfer rheoliad 6 rhodder—

Taliadau gan CCAUC i ddarparwyr hyfforddiant

2

Yn lle rheoliad 6 rhodder—

6

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo CCAUC6, o dan adran 86 o Ddeddf 20057, yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill i ddarparwr hyfforddiant.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau a roddir gan y darparwr hyfforddiant sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

b

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy’n cael grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill o dan adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadau rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

b

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

4

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â hyfforddiant sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

b

pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r hyfforddiant hwnnw.

5

Mewn perthynas â hyfforddiant sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (2)(a) a (3)(a).

8

Yn lle rheoliad 7 (taliadau gan CCAUC) rhodder—

7

1

Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo CCAUC yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19928 i sefydliad at ddiben hyfforddi myfyrwyr (ac eithrio ar gwrs sy’n arwain at radd gyntaf) i addysgu personau dros yr oedran ysgol gorfodol.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau i’w rhoi i’r myfyrwyr sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

b

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae’n gyfreithlon i sefydliad y mae CCAUC yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo at y diben a ddisgrifir ym mharagraff (1) fabwysiadau rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen; neu

b

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (4) yn gymwys.

4

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â hyfforddiant sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

b

pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu mewn perthynas â’r hyfforddiant hwnnw.

5

Mewn perthynas â hyfforddiant sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (2)(a) a (3)(a).

6

Ym mharagraff (1), mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 19969.

9

Yn lle rheoliad 8 (taliadau gan Weinidogion Cymru) rhodder—

8

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’n gyfreithlon i Weinidogion Cymru fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan sefydliad y maent yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 200010 sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

b

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (3) yn gymwys.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’n gyfreithlon i sefydliad y mae Gweinidogion Cymru yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 fabwysiadau rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy’n cyfyngu cymhwyster i’r personau hynny sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

a

paragraffau 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen, neu

b

paragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (3) yn gymwys.

3

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“A”) yn gymwys i gael dyfarniad yn rhinwedd dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, a

b

pan fo cymhwyster A ar gyfer dyfarniad yn cael ei asesu.

4

Mewn perthynas â dyfarniad a wneir ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraffau (1) a (2) yn cael effaith fel pe bai paragraffau 8A a 9B wedi eu hepgor o baragraffau (1)(a) a (2)(a).

10

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1—

a

yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”—

i

ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig yr AEE” rhodder “, person hunangyflogedig yr AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a drinnir fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig yr AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;

ii

ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38”11 mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

iii

ym mharagraff (ch), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

iv

ym mharagraff (d), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E”;

b

hepgorer y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;

c

yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”;

d

hepgorer y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

e

hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”;

f

yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

  • mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

    1. a

      person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

      1. i

        a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio12;

      2. ii

        sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn rhinwedd adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 197113, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

      3. iii

        sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben; neu

      4. iv

        sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

    2. b

      aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

    1. a

      paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);

    2. b

      paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

    3. c

      paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

    4. ch

      paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

    5. d

      paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);

    6. dd

      paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

    7. e

      paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partner di-briod neu bartner o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);

  • ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” (“person granted leave to enter or remain as a protected person”) yw person a chanddo—

    1. a

      caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

    2. b

      caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

    3. c

      caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 201614 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; neu

    4. ch

      caniatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);

  • ystyr “plentyn a ddiogelir” (“protected child”) yw—

    1. a

      plentyn i berson a chanddo—

      1. i

        caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

      2. ii

        caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; neu

      3. iii

        caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo;

    2. b

      plentyn i briod neu bartner sifil person a chanddo—

      1. i

        caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

      2. ii

        caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

  • ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” (“protected spouse or civil partner”) yw priod neu bartner sifil i berson a chanddo—

  • ystyr “y Rheoliad Gweithwyr” (“the Workers Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb15;

  • ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 202016;

11

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

1A

At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

1B

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

a

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

b

Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE, neu

c

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

12

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 2 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

13

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â rheoliad 2(4).

14

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 3—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

i

mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

ii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

cc

byddai’n bodloni’r gofynion cymhwyster ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;

iii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 201617, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras;

iv

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol; neu

v

mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwyster ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwyster ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

15

Yn yr Atodlen, yn lle paragraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) rhodder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd4A

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

sy’n blentyn a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir.

16

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 4A mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant4B

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;

ch

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.

17

Yn yr Atodlen, hepgorer paragraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

18

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 6 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—

6A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr ffin o fewn yr ystyr a roddir i “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 202018

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE;

ii

yn berson Swisaidd cyflogedig neu’n berson Swisaidd hunangyflogedig;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr ffin yr AEE neu’n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

v

yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu’n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

3

Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r AEE neu’n wladolyn o’r AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.

19

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu)—

a

yn is-baragraff (1)—

i

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Erthygl 12” hyd at y diwedd rhodder “Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE19, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;

ii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

ch

at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

b

yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

20

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

7A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd â hawl i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

a

mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

21

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 8(1)(b) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”.

22

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

sydd wedi ymadael â’r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

c

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ch

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

dd

mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

3

At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

23

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “etc.”;

b

yn is-baragraff (3), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

24

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu

iii

yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;

b

sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

a

sy’n wladolyn o’r UE neu’n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).

Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

9B

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd ar y cwrs; neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

b

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

ch

sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig—

a

pan oedd y wladolyn hwnnw o’r Deyrnas Unedig, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; a

b

pan fo’r gwladolyn hwnnw o’r Deyrnas Unedig wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).

4

Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) ac (ch).

5

Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.

9C

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

b

sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ch

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â rheoliad 2(4).

9Ch

1

Person—

a

sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â rheoliad 2(4).

Personau sy’n preswylio yn Gibraltar9D

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

ii

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

iii

yn wladolyn o’r UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

iv

yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

b

sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

sydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

a

sy’n wladolyn o’r UE neu’n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).

25

Yn yr Atodlen, o flaen paragraff 10 mewnosoder y pennawd—

Gwladolion o’r UE – preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd

26

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

27

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 11(2) (plant gwladolion o’r Swistir), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

28

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n blentyn i wladolyn o’r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

29

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 12 (plant gweithwyr o Dwrci) mewnosoder—

12A

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr o Dwrci (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

b

a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn blentyn i T; a

ii

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG UWCH (CYRSIAU CYMHWYSOL, PERSONAU CYMHWYSOL A DARPARIAETH ATODOL) (CYMRU) 2015

Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

30

Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 201520 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

31

Yn rheoliad 4 (disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol)—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle “yr Atodlen” rhodder “categori rhagnodedig”;

ii

yn is-baragraff (d), ar ôl “(3),” mewnosoder “(3A)”;

b

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Nid yw person yn berson cymhwysol mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 os yr unig gategori rhagnodedig y mae’r person yn dod o’i fewn yw paragraff 8A neu 9B.

c

ym mharagraff (8), yn lle “yr Atodlen” rhodder “categori rhagnodedig”;

d

ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

9

Yn y rheoliad hwn, ystyr “categori rhagnodedig” yw un o’r categorïau a ddisgrifir—

a

ym mharagraff 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 9E, 10A, 11A neu 12A o’r Atodlen; neu

b

ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen pan fo paragraff (10) yn gymwys.

10

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs cymhwysol sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, pan oedd person (“A”) yn berson cymhwysol yn rhinwedd dod o fewn un o’r categorïau o berson a ddisgrifir ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o’r Atodlen mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; a

b

pan fo A yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o’r cwrs cymhwysol hwnnw neu gwrs cymhwysol y mae A yn trosglwyddo iddo o’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

32

1

Yn yr Atodlen, mae paragraff 1 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (1)—

a

yn y diffiniad o “aelod o deulu”—

i

ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig o’r AEE” rhodder “, person hunangyflogedig o’r AEE, person perthnasol o Ogledd Iwerddon a gaiff ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;

ii

ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

iii

ym mharagraff (d), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

iv

ym mharagraff (e), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E”;

b

hepgorer y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;

c

yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”;

d

hepgorer y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

e

hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”;

f

yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

  • mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

    1. a

      person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

      1. i

        a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

      2. ii

        sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn rhinwedd adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971 gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; neu

      3. iii

        sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

    2. b

      aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

    1. a

      paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);

    2. b

      paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

    3. c

      paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

    4. d

      paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

    5. e

      paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);

    6. f

      paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

    7. g

      paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);

  • ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” (“person granted leave to enter or remain as a protected person”) yw person a chanddo—

    1. a

      caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

    2. b

      caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

    3. c

      caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; neu

    4. d

      caniatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);

  • ystyr “plentyn a ddiogelir” (“protected child”) yw—

    1. a

      plentyn i berson a chanddo—

      1. i

        caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

      2. ii

        caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; neu

      3. iii

        caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo;

    2. b

      plentyn i briod neu bartner sifil person a chanddo—

      1. i

        caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

      2. ii

        caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

  • ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” (“protected spouse or civil partner”) yw priod neu bartner sifil i berson a chanddo—

    1. a

      caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

    2. b

      caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

  • ystyr “y Rheoliad Gweithwyr” (“the Workers Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb;

  • ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020;

  • ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland; Gibraltar; Montserrat; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha); ac Ynysoedd Turks a Caicos;

3

Ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

4

Yn is-baragraff (3)—

a

ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

b

ar ôl “tiriogaethau tramor”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”.

5

Yn is-baragraff (4), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

yn achos aelodau o lynges, byddin neu awyrlu rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon;

6

Ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

7

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

a

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

b

Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE; neu

c

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

33

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 2 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

34

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â pharagraff 1(3).

35

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 3—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

i

mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

ii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

cc

byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;

iii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol; neu

iv

mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

36

Yn yr Atodlen, yn lle paragraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teulu) rhodder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teulu4A

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir.

37

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 4A mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant4B

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.

38

Yn yr Atodlen, hepgorer paragraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

39

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 6 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—

6A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr ffin o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE;

ii

yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr ffin yr AEE neu’n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

v

yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

3

Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r AEE neu’n wladolyn o’r AEE yn unig, yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE.

40

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 7—

a

yn is-baragraff (1)—

i

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Erthygl 10” hyd at y diwedd rhodder “Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;

ii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

d

at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

b

yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

41

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

7A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

a

mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

42

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 8(1)(b) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”.

43

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

sydd wedi ymadael â’r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

c

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

e

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

f

a oedd, mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (e) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu’n berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

3

At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

44

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “etc.”;

b

yn is-baragraff (4), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

45

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu

iii

yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;

b

sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

a

sy’n wladolyn o’r UE neu’n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â pharagraff 1(3).

Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

9B

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd ar y cwrs; neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

b

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;

d

sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig—

a

pan oedd y wladolyn hwnnw o’r Deyrnas Unedig, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi arfer hawl i breswylio yn nhiriogaeth Aelod-wladwriaeth o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2004/38; a

b

pan fo’r gwladolyn hwnnw o’r Deyrnas Unedig wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â pharagraff 1(3).

4

Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

5

Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.

9C

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

b

sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 1(3).

9D

1

Person—

a

sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(3).

Personau sy’n preswylio yn Gibraltar9E

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

ii

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

iii

yn wladolyn o’r UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

iv

yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

b

sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;

c

sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (c) o is-baragraff (1) yn gymwys i aelod o deulu person—

a

sy’n wladolyn o’r UE neu’n berson perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â pharagraff 1(3).

46

Yn yr Atodlen, o flaen paragraff 10 mewnosoder y pennawd—

Gwladolion o’r UE sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd

47

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

a oedd, mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

48

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 11(2) (plant gwladolion Swisaidd), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

49

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd ac sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos pan oedd preswyliad arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

50

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 12 (plant gweithwyr Twrcaidd) mewnosoder—

12A

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

b

a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn blentyn i T; a

ii

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

RHAN 4DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

51

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 201721 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

52

1

Mae rheoliad 2 (dehongli) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1)—

a

hepgorer y diffiniadau o “cwrs dysgu o bell dynodedig”, “cwrs dysgu o bell presennol”, “grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl” a “myfyriwr dysgu o bell cymwys”;

b

yn y diffiniad o “myfyriwr carfan 2012”, hepgorer “, 75”;

c

yn y diffiniad o “ceisydd”, hepgorer paragraff (b);

d

yn y diffiniad o “cwrs penben”, hepgorer paragraffau (e) ac (f);

e

yn y diffiniad o “blwyddyn Erasmus”—

i

yn lle “a bod cwrs y myfyriwr yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(e)(i)” rhodder “neu yn y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir cynllun Turing, a bod cwrs y myfyriwr yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(e) neu (ea) neu reoliad 83(1)(d)”;

ii

hepgorer paragraff (a);

iii

ym mharagraff (b), yn lle “ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a chyn” rhodder “cyn”;

iv

ym mharagraff (c), yn lle “ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a chyn” rhodder “cyn”;

f

yn y diffiniad o “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd”, hepgorer “, 75”;

g

yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 202022;

  • mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);

  • ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

    1. a

      person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

      1. i

        a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

      2. ii

        sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

      3. iii

        sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben; neu

      4. iv

        sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

    2. b

      aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

    1. a

      paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);

    2. b

      paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

    3. c

      paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

    4. d

      paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

    5. e

      paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (penderfyniad ar gais am caniatâd amhenodol i aros fel partner sydd wedi cael profedigaeth);

    6. f

      paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

    7. g

      paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);

  • mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020;

3

Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

a

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

b

Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

c

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

53

Yn rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys)—

a

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn, mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person am gymorth o dan reoliad 9 yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

a

ym mharagraff 2, 2A, 3, 4, 4ZA, 4ZB, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 10A, 11A neu 12A o Ran 2 o Atodlen 1, neu

b

ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo paragraff (2A) y gymwys.

2A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw; a

b

pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw;

ii

cwrs penben sy’n dilyn ymlaen o’r cwrs hwnnw; neu

iii

cwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo neu gwrs rhan-amser dynodedig y mae A yn trosglwyddo iddo ac y mae statws A yn cael ei drosi i fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.

b

ym mharagraff (6), hepgorer is-baragraff (d);

c

ym mharagraff (7), ar ôl “(2)” mewnosoder “, (2A)”;

d

ym mharagraff (8)(c)—

i

ym mharagraff (i)—

aa

ar ddiwedd is-baragraff (aa) mewnosoder “neu”;

bb

ar ddiwedd is-baragraff (bb) hepgorer “neu”;

cc

hepgorer is-baragraff (cc);

ii

ym mharagraff (ii), hepgorer “, myfyriwr dysgu o bell cymwys”;

e

ym mharagraff (9)(a)(i), hepgorer “, cwrs dysgu o bell dynodedig” a “, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys”;

f

ym mharagraffau (9A)(a)(i), (9B)(a)(i) a (10A)(a)(i), hepgorer “, cwrs dysgu o bell dynodedig” a “, myfyriwr dysgu o bell cymwys” ac ym mharagraff (10)(a)(i), hepgorer “, cwrs dysgu o bell dynodedig” a “, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys”;

g

ar ôl paragraff (10A) mewnosoder—

10B

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd Calais——

i

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu

ii

yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd Calais aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

10C

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir neu fel plentyn i berson o’r fath——

i

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu

ii

yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros fel partner a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu, ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)23),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

10D

Os—

a

bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio—

i

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu

ii

yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, na fydd gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi o dan y rheolau hynny,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

10E

Os—

a

bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) o Ran 2 o Atodlen 1,

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig neu’n fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs cymhwysol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, na fydd A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

54

Yn rheoliad 5(1) (cyrsiau dynodedig)—

a

yn is-baragraff (b)(iii), hepgorer “ac eithrio cwrs y mae rheoliad 66(5) yn gymwys iddo”;

b

hepgorer is-baragraff (c).

55

Yn rheoliad 6 (cyfnod cymhwystra)—

a

ym mharagraff (4)(a), hepgorer “, rheoliad 76”;

b

ym mharagraff (6)(c), hepgorer “80,”;

c

ym mharagraff (17), hepgorer “dynodedig”;

d

ym mharagraff (18)(b), hepgorer “dynodedig”.

56

Yn rheoliad 15 (digwyddiadau)—

a

ym mharagraff (ba), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

b

ar ôl paragraff (ba) mewnosoder—

bb

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

c

hepgorer paragraff (c);

d

yn lle paragraff (d) rhodder—

d

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 9A(1)(a), 9C(1)(a) neu 9D(1)(a) o Atodlen 1;

e

ym mharagraff (e), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

f

yn lle paragraff (f) rhodder—

f

pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 12(a) o Atodlen 1;

g

ym mharagraff (g)—

i

ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 6A(1)(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym”;

ii

hepgorer y “neu” ar y diwedd;

h

yn lle paragraff (h) rhodder—

h

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 11A(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 11(1)(a) o Atodlen 1; neu

i

ar ôl paragraff (h) mewnosoder—

i

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 9B(1)(a)(ii) o Atodlen 1.

57

Yn rheoliad 23 (amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw)—

a

ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9C neu 9D yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod odano neu odanynt.”;

b

ym mharagraff (12)—

i

yn is-baragraff (ba), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

ii

ar ôl is-baragraff (ba) mewnosoder—

bb

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

iii

hepgorer is-baragraff (c);

iv

yn is-baragraff (d), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

v

yn lle is-baragraff (e) rhodder—

e

pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 12(a) o Atodlen 1;

vi

yn is-baragraff (f)—

aa

ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 6A(1)(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym”;

bb

hepgorer y “neu” ar y diwedd;

vii

yn lle is-baragraff (g) rhodder—

g

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 11A(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 11(1)(a) o Atodlen 1; neu

viii

ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

h

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 9B(1)(a)(ii) o Atodlen 1.

58

Yn rheoliad 41(3) (amodau’r hawl i gael benthyciadau at gostau byw - eithriadau), yn lle’r geiriau “paragraff 9” hyd at y diwedd, rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9C neu 9D yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod odano neu odanynt.”

59

Yn rheoliad 49(2) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

a

yn is-baragraff (ba), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

b

ar ôl is-baragraff (ba) mewnosoder—

bb

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

c

hepgorer is-baragraff (c);

d

yn is-baragraff (d), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

e

yn lle is-baragraff (e) rhodder—

e

pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 12(a) o Atodlen 1;

f

yn is-baragraff (f)—

i

ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 6A(1)(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym”;

ii

hepgorer y “neu” ar y diwedd;

g

yn lle is-baragraff (g) rhodder—

g

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 11A(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 11(1)(a) o Atodlen 1; neu

h

ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

h

bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 9B(1)(a)(ii) o Atodlen 1.

60

Hepgorer Rhan 11.

61

Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—

a

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn, mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu cais y person hwnnw am gymorth o dan reoliad 99, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

a

ym mharagraff 2, 2A, 3, 4, 4ZA, 4ZB, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 10A, 11A neu 12A o Ran 2 o Atodlen 1, neu

b

ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1, pan fo paragraff (2A) yn gymwys.

2A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw; a

b

pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw;

ii

cwrs rhan-amser dynodedig y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo; neu

iii

cwrs dynodedig y mae A yn trosglwyddo iddo ac y mae statws A yn cael ei drosi i fod yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.

b

ym mharagraff (8)(c)—

i

ym mharagraff (i)—

aa

ar ddiwedd is-baragraff (aa) mewnosoder “neu”;

bb

ar ddiwedd is-baragraff (bb) hepgorer “neu”;

cc

hepgorer is-baragraff (cc);

ii

ym mharagraff (ii), hepgorer “, myfyriwr dysgu o bell cymwys”;

c

ym mharagraffau (9)(a), (9A)(a), (9B)(a), (10)(a) a (10A)(a)—

i

hepgorer “, cwrs dynodedig dysgu o bell” a “, cwrs dysgu o bell dynodedig” (yn ôl y digwydd), a

ii

yn lle “, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys” rhodder “neu fyfyriwr cymwys”;

d

ar ôl paragraff (10A) mewnosoder—

10B

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd Calais yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd Calais aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi,

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

10C

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

10D

Os—

a

bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, na fydd gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi o dan y rheolau hynny,

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

10E

Os—

a

bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) o Ran 2 o Atodlen 1,

yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, na fydd A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

e

ym mharagraff (12), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9C neu 9D yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano neu odanynt.”;

f

ym mharagraff (21), hepgorer is-baragraff (c).

62

Yn rheoliad 82 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—

a

ym mharagraffau (2) a (3), yn lle “(a), (b), (ba), (e), (f), (g), (h) neu (i)” rhodder “(a), (b), (ba), (bb), (f), (g), (h), (i) neu (j)”;

b

ym mharagraff (4)—

i

yn is-baragraff (ba), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

ii

ar ôl is-baragraff (ba) mewnosoder—

bb

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

iii

hepgorer is-baragraff (c);

iv

yn lle is-baragraff (d) rhodder—

d

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 9A(1)(a), 9C(1)(a) neu 9D(1)(a) o Atodlen 1;

v

hepgorer is-baragraff (e);

vi

yn is-baragraff (f), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

vii

yn lle is-baragraff (g) rhodder—

g

pan fo rheoliad 81(2A)(a) yn gymwys, bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 12(a) o Atodlen 1;

viii

yn is-baragraff (h)—

aa

ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 6A(1)(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 81(2A)(a) yn gymwys, ym”;

bb

hepgorer y “neu” ar y diwedd;

ix

yn lle is-baragraff (i) rhodder—

i

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 11A(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 81(2A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 11(1)(a) o Atodlen 1; neu

x

ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

j

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 9B(1)(a)(ii) o Atodlen 1.

63

Yn rheoliad 83(1) (cyrsiau rhan-amser dynodedig)—

a

ar ddiwedd is-baragraff (f) mewnosoder “ac”;

b

ar ddiwedd is-baragraff (g) hepgorer “; ac”;

c

hepgorer is-baragraff (h).

64

Yn rheoliad 94 (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – y cyfrifiadau cychwynnol), ym mharagraff (11)(d), yn lle “82(4)(a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i)” rhodder “82(4)(a), (b), (ba), (bb), (f), (g), (h), (i) neu (j)”.

65

Yn rheoliad 103 (trosi statws), hepgorer paragraffau (5) i (12) a pharagraffau (15) i (19).

66

Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—

a

yn lle paragraff (3)(a) rhodder—

a

bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth o dan reoliad 115, wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

i

ym mharagraff 2, 3, 4, 4ZA, 4ZB, 6A, 7A, 8A, 9B, 10A, 11A neu 12A o Ran 2 o Atodlen 1; neu

ii

ym mharagraff 6, 7, 8, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo paragraff (3A) yn gymwys; a

b

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 6, 7, 8, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw; a

b

pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw; neu

ii

cwrs ôl-radd dynodedig y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cael ei drosglwyddo oddi wrtho yn unol â’r Rheoliadau hyn.

c

hepgorer paragraff (7);

d

ar ôl paragraff (12A) mewnosoder—

12B

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd Calais, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-radd cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd Calais aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi,

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

12C

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

12D

Os—

a

bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, na fydd gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi o dan y rheolau hynny,

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

12E

Os—

a

bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) o Ran 2 o Atodlen 1,

yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn academaidd o gwrs ôl-radd dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, na fydd A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

e

ym mharagraff (14), hepgorer is-baragraff (b).

67

Yn rheoliad 111(2) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—

a

yn is-baragraff (ba), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

b

ar ôl is-baragraff (ba) mewnosoder—

bb

y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

c

hepgorer is-baragraff (c);

d

yn is-baragraff (d), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

e

yn lle is-baragraff (e) rhodder—

e

pan fo rheoliad 110(3A)(a) yn gymwys, y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 12(a) o Atodlen 1;

f

yn is-baragraff (f)—

i

ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 6A(1)(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 110(3A)(a) yn gymwys, ym”;

ii

hepgorer y “neu” ar y diwedd;

g

yn lle is-baragraff (g) rhodder—

g

y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 11A(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 110(3A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 11(1)(a) o Atodlen 1; neu

h

ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

h

y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 9B(1)(a)(ii) o Atodlen 1.

68

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1 (dehongli)—

a

yn is-baragraff (1)—

i

hepgorer y diffiniadau o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;

ii

yn y diffiniad o “aelod o deulu”—

aa

ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig o’r AEE” rhodder “, person hunangyflogedig o’r AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;

bb

ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

cc

ym mharagraff (d), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

dd

ym mharagraff (e), yn lle “paragraff 9”, rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D”;

iii

yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

b

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

c

yn is-baragraff (3)(a), hepgorer “y cwrs dysgu o bell presennol,”;

d

yn is-baragraff (4), ar ôl “Ynysoedd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

e

yn is-baragraff (5)—

i

ar ôl ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

ii

ar ôl paragraff (a)—

aa

hepgorer “a”;

bb

mewnosoder—

aa

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o’r cyfryw luoedd;

69

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 2(1) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle paragraff (a) rhodder—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

70

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy’n dod o fewn paragraff 3;

b

sydd—

i

yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â pharagraff 1(4).

71

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn—

i

mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

ii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

cc

byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;

iii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras;

iv

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol; neu

v

mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

72

Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 4ZA (personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd) rhodder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd4ZA

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir.

b

ystyr “caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel person a ddiogelir” yw—

i

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person diwladwriaeth;

iii

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67; neu

iv

person sydd â chaniatâd Calais;

c

ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

i

plentyn i—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person diwladwriaeth; neu

ac

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

ii

plentyn i briod neu bartner sifil—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person diwladwriaeth;

d

ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil i—

i

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person diwladwriaeth.

73

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZA mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant4ZB

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.

74

Yn Atodlen 1, hepgorer paragraffau 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) a 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

75

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 6 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

6A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr ffin o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE;

ii

yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr ffin yr AEE neu’n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;

v

yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

3

Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r AEE neu’n wladolyn o’r AEE yn unig, yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE.

76

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 7—

a

yn is-baragraff (1)—

i

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “, fel y’i hestynnwyd” hyd at y diwedd rhodder “(“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;

ii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

d

at ddibenion is-baragraff (1)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

b

yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

77

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

7A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig sydd—

a

yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

a

mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

78

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 8(1)(b) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”.

79

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

c

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod preswylio arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

e

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

f

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (e) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn ohoni, neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

3

At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

80

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 9 (gwladolion o’r UE)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “etc.”;

b

yn is-baragraff (1)(b)(ii), hepgorer “dysgu o bell dynodedig, cwrs”;

c

yn is-baragraff (5) yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

81

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu

iii

yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;

b

sydd—

i

yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

9B

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

b

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd—

i

yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

3

Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

9C

1

Person—

a

sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sydd—

i

yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

Personau sy’n preswylio yn Gibraltar9D

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

ii

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

iii

yn wladolyn o’r UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

iv

yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

b

sydd—

i

yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

82

Yn Atodlen 1, o flaen paragraff 10 mewnosoder y pennawd—

Gwladolion o’r UE sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd

83

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

84

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 11(2) (plant gwladolion Swisaidd), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

85

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

86

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 12 (plant gweithwyr Twrcaidd) mewnosoder—

12A

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

b

a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn blentyn i T; a

ii

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

87

Yn Atodlen 3, ym mharagraff 1, hepgorer “, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys”.

88

Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2, hepgorer “, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys”.

89

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 3, yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraff 9, 9A, 9B, 9C neu 9D”.

90

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6—

a

yn is-baragraff (aa), ar ôl “yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

b

ar ôl is-baragraff (aa) mewnosoder—

ab

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

c

hepgorer is-baragraff (b);

d

yn lle is-baragraff (c) rhodder—

c

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 9A(1)(a), 9C(1)(a) neu 9D(1)(a) o Atodlen 1;

e

yn is-baragraff (d), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

f

yn lle is-baragraff (e) rhodder—

e

pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 12(a) o Atodlen 1;

g

yn is-baragraff (f), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 6A(1)(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym”;

h

yn lle is-baragraff (g) rhodder—

g

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 11A(a) o Atodlen 1 neu, pan fo rheoliad 4(2A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 11(1)(a) o Atodlen 1; neu

i

ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

h

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 9B(1)(a)(ii) o Atodlen 1.

RHAN 5DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD FEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

91

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201724 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

92

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);

  • ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

    1. a

      person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

      1. i

        a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

      2. ii

        sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

      3. iii

        sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben; neu

      4. iv

        sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

    2. b

      aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

    1. a

      paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);

    2. b

      paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

    3. c

      paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

    4. d

      paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

    5. e

      paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);

    6. f

      paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

    7. g

      paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);

  • mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020;

b

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

3

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

a

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

b

Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

c

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

93

Yn rheoliad 3 (myfyrwyr cymwys)—

a

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn, mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person hwnnw i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan reoliad 9, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

a

ym mharagraff 2, 2A, 3, 4, 4ZA, 4ZB, 5, 6A, 7A, 8A, 9A, 9B, 9C, 9D, 10A, 11A neu 12A o Ran 2 o Atodlen 1; neu

b

ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo paragraff (2A) yn gymwys.

2A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 6, 7, 8, 9, 10, 11 neu 12 o Ran 2 o Atodlen 1 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw; a

b

pan fo A yn gwneud cais am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw; neu

ii

cwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo oddi wrtho yn unol â’r Rheoliadau hyn.

b

ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

10

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) o Ran 2 o Atodlen 1,

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw, na fo A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw.

94

Yn rheoliad 8 (digwyddiadau)—

a

ym mharagraff (ba), ar ôl “yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

b

ar ôl paragraff (ba) mewnosoder—

bb

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

c

hepgorer paragraff (c);

d

yn lle paragraff (d) rhodder—

d

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 9A(1)(a), 9B(1)(a), 9C(1)(a) neu 9D(1)(a) o Atodlen 1;

e

ym mharagraff (e), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

f

hepgorer paragraff (f);

g

ym mharagraff (g), yn lle “6(1)(a)” rhodder “6A(1)(a)”;

h

yn lle paragraff (h) rhodder—

h

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 11A(a) o Atodlen 1; neu

95

1

Yn Atodlen 1, mae paragraff 1 (dehongli) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (1)—

a

hepgorer y diffiniadau o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;

b

yn y diffiniad o “aelod o deulu”—

i

ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig AEE” rhodder “, person hunangyflogedig AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;

ii

ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig”;

iii

ym mharagraff (d), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig”;

iv

ym mharagraff (e), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D”;

c

yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

3

Ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

4

Yn is-baragraff (4), ar ôl “Ynysoedd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”.

5

Yn is-baragraff (5)—

a

ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

b

ar ôl paragraff (a)—

i

hepgorer “a”;

ii

mewnosoder—

aa

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

96

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 2 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

97

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â pharagraff 1(4).

98

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn—

i

mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

ii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

cc

byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;

iii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras;

iv

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol; neu

v

mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

99

Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 4ZA (personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd) rhodder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd4ZA

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

ystyr “caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel person a ddiogelir” yw—

i

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

iii

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67; neu

iv

person sydd â chaniatâd Calais;

c

ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

i

plentyn i—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; neu

ac

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

ii

plentyn i briod neu bartner sifil—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

d

ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil i—

i

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth.

100

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZA mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant4ZB

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.

101

Yn Atodlen 1, hepgorer paragraffau 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) a 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

102

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 6 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

6A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE;

ii

yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr trawsffiniol AEE neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

v

yn berson cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

3

Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn AEE neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.

103

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 7—

a

yn is-baragraff (1)—

i

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Erthygl 12” hyd at y diwedd rhodder “Erthygl 12 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;

ii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

d

at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

b

yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

104

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

7A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

a

mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

105

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 8(1)(b) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall), yn y testun Saesneg , yn lle “implementation period” rhodder “IP”.

106

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

c

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

e

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

f

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (e), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu’n berson y mae ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

3

At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

107

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 9 (gwladolion UE)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “etc.”;

b

yn is-baragraff (5), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

108

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sydd—

i

yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu

iii

yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

9B

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

b

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

3

Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

9C

1

Person—

a

sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

Personau sy’n preswylio yn Gibraltar9D

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

ii

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

iii

yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

iv

yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

109

Yn Atodlen 1, o flaen paragraff 10 mewnosoder y pennawd—

Gwladolion UE sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd

110

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos pan oedd preswylio fel arfer y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

111

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 11(2) (plant gwladolion Swisaidd), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

112

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos pan oedd preswylio fel arfer y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

113

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 12 (plant gweithwyr Twrcaidd) mewnosoder—

12A

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

b

a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn blentyn i T; a

ii

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

RHAN 6DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

114

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 201825 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

115

Yn rheoliad 9 (myfyrwyr cymwys), yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—

a

os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir—

i

ym mharagraff 1, 2, 2ZA, 2ZB, 3, 4A, 5A, 6A, 6B, 6C, 6D, 7A neu 8A o Atodlen 2, neu

ii

ym mharagraff 4, 5, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 pan fo paragraff (1A) yn gymwys,

ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person, neu

b

os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir yn rheoliad 11.

1A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 4, 5, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw, a

b

pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw,

ii

cwrs penben sy’n dilyn ymlaen o’r cwrs hwnnw, neu

ii

cwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn.

116

Yn rheoliad 10(1) (myfyrwyr cymwys – eithriadau), ar y diwedd mewnosoder—

Eithriad 8

Mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 a’r unig baragraff neu baragraffau yn Atodlen 2 y mae P yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 5A, 6B neu 6D.

117

Yn rheoliad 12(1) (cyfnod cymhwystra – y rheol gyffredinol), yn lle “19, 20, 22 neu 23” rhodder “19, 20, 22, 22A, 23, 23A, 23B, 23C, 23D neu 23E”.

118

Yn rheoliad 22A(1) (personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben)—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “Categori 2A” rhodder “oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;

b

yn is-baragraff (b)(ii), hepgorer “Categori 2A”.

119

Yn rheoliad 23A(1) (personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben)—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “Categori 3A” rhodder “oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

b

yn is-baragraff (b)(ii), hepgorer “Categori 3A”.

120

Ar ôl rheoliad 23A mewnosoder—

Personau y mae eu caniatâd Calais wedi dod i ben23B

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

i

ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

ii

ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

iii

ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros fel partner a ddiogelir wedi dod i ben23C

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir—

i

ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

ii

ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

iii

ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

i

P, neu

ii

y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben

23D

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer—

i

blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

ii

cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

iii

cwrs y mae statws P wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, na fo gan P ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

23E

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“P”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2)(a)(iii) neu (iv) o Atodlen 2,

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, na fo P yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

121

Yn rheoliad 44(1) (amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth- eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

122

Yn rheoliad 54 (amodau cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth - eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

123

Yn rheoliad 62(2) (amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl - eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

124

Yn rheoliad 69(2) (amodau cymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion - eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

125

Yn rheoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)—

a

ym mharagraff (2)(b)—

i

ym mharagraff (ia), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

ii

ar ôl paragraff (ia) mewnosoder—

ib

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

iii

hepgorer paragraff (ii);

iv

yn lle paragraff (iii) rhodder—

iii

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 6A(1)(a), 6C(1)(a) neu 6D(a) o Atodlen 2;

v

yn lle paragraff (v) rhodder—

v

pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;

vi

ym mharagraff (vi), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym”;

vii

yn lle paragraff (vii) rhodder—

vii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2; neu

viii

ar ôl paragraff (vii) mewnosoder—

viii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.

b

ym mharagraff (3)—

i

hepgorer ““plentyn” (“child”)”;

ii

yn y cofnod ar gyfer “aelod o deulu”, hepgorer “(o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2)”;

iii

hepgorer ““hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”)”;

iv

hepgorer ““gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”)”;

v

yn y lle priodol mewnosoder—

  • person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);

  • person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);

126

Yn rheoliad 81(3)(b) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd)—

a

ym mharagraff (ia), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

b

ar ôl paragraff (ia) mewnosoder—

ib

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

c

hepgorer paragraff (ii);

d

yn lle paragraff (iv) rhodder—

iv

pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;

e

ym mharagraff (v), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym”;

f

yn lle paragraff (vi) rhodder—

vi

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;

g

ar ôl paragraff (vi) mewnosoder—

vii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.

127

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4 (ystyr blwyddyn Erasmus), yn lle is-baragraff (3) rhodder—

3

Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw—

a

cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol, neu

b

y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing.

128

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6 (dehongli termau allweddol eraill)—

a

yn is-baragraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

    1. a

      person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

      1. i

        a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

      2. ii

        sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,

      3. iii

        sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben, neu

      4. iv

        sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben, neu

    2. b

      aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020;

b

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

3

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

a

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

b

Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

c

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

129

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1 (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

a

yn lle is-baragraff (1)(a)(i) rhodder—

i

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

b

yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—

a

sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn—

i

mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

ii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

bb

mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, ac

cc

byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath,

mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras,

mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol, neu

v

mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

c

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

3

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2),

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

4

At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

130

Yn Atodlen 2, yn lle paragraff 2ZA rhodder—

Categori 2ZA – Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd2ZA

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo),

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed, a

ii

yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd),

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

b

ystyr “caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel person a ddiogelir” yw—

i

person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo,

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

iii

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu

iv

person sydd â chaniatâd Calais,

c

ystyr “person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo,

d

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros ar sail caniatâd fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo,

e

ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo),

f

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo,

g

ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

i

plentyn i—

aa

person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo,

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu

ac

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu

ii

plentyn i briod neu bartner sifil—

aa

person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, neu

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

h

ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil i—

i

person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, neu

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth.

131

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZA mewnosoder—

Categori 2ZB - Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant2ZB

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

b

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

i

paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig),

ii

paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig),

iii

paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog),

iv

paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth),

v

paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth),

vi

paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth), neu

vii

paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth).

132

Yn Atodlen 2, hepgorer paragraffau 2A (categori 2A – personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) a 3A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

133

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4 (categori 4 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (2)—

i

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “, fel y’i hestynnir” hyd at y diwedd rhodder “(“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,”;

ii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

d

at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

c

yn is-baragraff (2A), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”;

d

yn is-baragraff (3)—

i

yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Yn is-baragraff (1)” mewnosoder “ac is-baragraff (1) o baragraff 4A”;

ii

yn y diffiniad o “aelod o deulu”, ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig AEE” rhodder “, person hunangyflogedig AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE yn rhinwedd paragraff 4A(4)”.

134

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

Categori 4A - Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd â hawliau gwarchodedig4A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

a

sy’n un o’r canlynol—

i

gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

ii

person cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

iii

aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

iv

gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE,

v

person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, neu

vi

aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

c

sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

3

At ddibenion is-baragraff (2)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

a

mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon, a

b

mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

4

Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn AEE neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.

135

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 5 (categori 5 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (1)(b), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”;

c

hepgorer is-baragraff (5).

136

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

Categori 5A - Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall5A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

c

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd y cwrs yn dechrau,

e

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

f

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

3

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

a

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

b

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

c

yn berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

4

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson (“P”) sydd—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, a

b

wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni, neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

5

At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

137

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6 (categori 6 – gwladolion UE)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (1A), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”;

c

hepgorer is-baragraff (5).

138

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—

Categori 6A - Gwladolion UE etc. sydd â hawliau gwarchodedig6A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sydd—

i

yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i), neu

iii

yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon,

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

2

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Categori 6B – Gwladolion o’r Deyrnas Unedig6B

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i),

b

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir, neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

e

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

2

Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

Categori 6C – Aelodau o deulu gwladolion o’r Deyrnas Unedig6C

Person—

a

sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

Categori 6D - Personau sy’n preswylio yn Gibraltar6D

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

ii

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

iii

yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

iv

yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

139

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 7 (categori 7 – plant gwladolion Swisaidd)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

140

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Categori 7A – Plant gwladolion Swisaidd sydd o fewn cwmpas y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd7A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

141

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8 (categori 8 – plant gweithwyr Twrcaidd), yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”.

142

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

Categori 8A – Plant gweithwyr Twrcaidd8A

1

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

b

a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn blentyn i T, a

ii

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig,

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

a

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

b

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

143

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 9 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—

a

yn is-baragraff (2), ar ôl “Ynysoedd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

b

yn is-baragraff (3)—

i

ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

ii

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

144

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11 (dehongli)—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

yn yr is-baragraff hwnnw—

i

hepgorer y diffiniadau o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;

ii

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw (oni nodir fel arall) mewn perthynas â pherson (“P”)—

    1. a

      priod P neu ei bartner sifil,

    2. b

      disgynyddion uniongyrchol P neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil P sydd—

      1. i

        o dan 21 oed, neu

      2. ii

        yn ddibynyddion P neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil P, neu

    3. c

      mewn achos pan fo P—

      1. i

        yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, neu

      2. ii

        at ddibenion paragraff 6A, yn berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig,

      perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol P neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil P;

  • mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

145

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys), yn lle is-baragraff (1) rhodder—

1

Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef os oes gan y person anabledd ac—

a

mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

i

ym mharagraff 1(1), 1(2), 2, 2ZA, 2ZB, 3, 4A, 5A, 6A(2), 6B, 7A neu 8A o Atodlen 2, neu

ii

ym mharagraff 4, 5, 6(2), 7 neu 8 o Atodlen 2 pan fo is-baragraff (1A) yn gymwys,

ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r person, neu

b

os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir ym mharagraff 6.

1A

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 4, 5, 6(2), 7 neu 8 o Atodlen 2 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw, a

b

pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw, neu

ii

cwrs ôl-radd dynodedig y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo yn unol â’r Atodlen hon.

146

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn lle Eithriad 7 rhodder—

Eithriad 7

Mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 a’r unig baragraff neu baragraffau yn Atodlen 2 y mae P yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 5A neu 6B.

147

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 12A (personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben)—

a

yn is-baragraff (1)(a), yn lle “categori 2A” rhodder “yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros fel person diwladwriaeth”;

b

yn is-baragraff (1)(b)(ii), hepgorer “Categori 2A”.

148

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13A (personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben)—

a

yn is-baragraff (1)(a), yn lle “categori 3A” rhodder “yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

b

yn is-baragraff (1)(b)(ii), hepgorer “categori 3A”.

149

Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 13A mewnosoder—

Person y mae ei ganiatâd Calais wedi dod i ben13B

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

i

ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

ii

mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

2

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros fel partner a ddiogelir wedi dod i ben13C

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZB) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

i

ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

ii

mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

i

P, neu

ii

y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

2

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben

13D

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

i

ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

ii

mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, na fo gan P ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny.

2

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

13E

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“P”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2)(a)(iii) neu (iv) o Atodlen 2,

yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs ôl-radd dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, na fo P yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

150

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 14 (dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

a

yn is-baragraff (3)(b)—

i

yn is-baragraff (ia), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

ii

ar ôl is-baragraff (ia) mewnosoder—

ib

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

iii

hepgorer is-baragraff (ii);

iv

yn lle is-baragraff (iii) rhodder—

iii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;

v

yn lle is-baragraff (iv) rhodder—

iv

pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;

vi

yn is-baragraff (v), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym”;

vii

yn lle is-baragraff (vi) rhodder—

vi

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;

viii

ar ôl is-baragraff (vi) mewnosoder—

vii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.

b

yn is-baragraff (4)—

i

hepgorer ““plentyn” (“child”)”;

ii

hepgorer ““hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”)”;

iii

hepgorer ““gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”)”;

iv

yn y lle priodol mewnosoder—

  • person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);

  • person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);

151

Yn Atodlen 5, ym mharagraff 4 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

a

yn is-baragraff (2)—

i

ym mharagraff (aa), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

ii

ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

ab

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

iii

hepgorer paragraff (b);

iv

yn lle paragraff (c) rhodder—

c

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 6A(1)(a), 6C(1)(a) neu 6D(1)(a) o Atodlen 2;

v

yn lle paragraff (e) rhodder—

e

pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;

vi

ym mharagraff (f), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym”;

vii

yn lle paragraff (g) rhodder—

g

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;

viii

ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

h

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.

b

yn is-baragraff (3)—

i

hepgorer ““plentyn” (“child”)”;

ii

yn y cofnod ar gyfer “aelod o deulu”, hepgorer “(o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2)”;

iii

hepgorer ““hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”)”;

iv

hepgorer ““gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”)”;

v

yn y lle priodol mewnosoder—

  • person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);

  • person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);

152

Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 16—

a

hepgorer y cofnodion ar gyfer “aelod o deulu” (at ddibenion penderfynu ar gategori person o dan Atodlen 2) a “hawl i breswylio’n barhaol”;

b

yn lle’r cofnod yn yr ail golofn sy’n cyfateb i—

i

“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” rhodder “Atodlen 2, paragraff 2ZA”;

ii

“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” rhodder “Atodlen 2, paragraff 2ZA”;

c

yn y lle priodol mewnosoder—

“aelod o deulu”

Atodlen 2, paragraff 11

“caniatâd i aros fel partner a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2ZB

“cyfnod gras”

Atodlen 1, paragraff 6

“cyfnod perthnasol”

Atodlen 1, paragraff 6

“cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”

Atodlen 1, paragraff 6

“gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”

Atodlen 2, paragraff 11

“person perthnasol o Ogledd Iwerddon”

Atodlen 1, paragraff 6

“person sydd â chaniatâd Calais”

Atodlen 2, paragraff 2ZA

“person sydd â hawliau gwarchodedig”

Atodlen 1, paragraff 6

“person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2ZA

“plentyn a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2ZA

“priod neu bartner sifil a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2ZA

“rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”

Atodlen 1, paragraff 6

“Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020”

Atodlen 1, paragraff 6

RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

153

Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 201826 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

154

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”) yw person sydd â chaniatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);

  • ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

    1. a

      person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

      1. i

        a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

      2. ii

        sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

      3. iii

        sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben; neu

      4. iv

        sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

    2. b

      aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

    1. a

      paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);

    2. b

      paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

    3. c

      paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

    4. d

      paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

    5. e

      paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);

    6. f

      paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

    7. g

      paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);

  • mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020;

b

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

2A

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

a

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

b

Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

c

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

155

Yn rheoliad 3 (myfyrwyr cymwys)—

a

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn, mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person hwnnw i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan reoliad 9, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

a

ym mharagraff 2, 2A, 3, 4, 4A, 4B, 6, 7A, 8A, 9A, 10A, 10B, 10C, 10D, 11A, 12A neu 13A o Ran 2 o Atodlen 1, neu

b

ym mharagraff 7, 8, 9, 10, 11, 12 neu 13 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo paragraff (2A) yn gymwys.

2A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 7, 8, 9, 10, 11, 12 neu 13 o Ran 2 o Atodlen 1 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021; neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw; a

b

pan fo A yn gwneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw; neu

ii

cwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo yn unol â rheoliad 6.

2B

Nid yw person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion paragraff (2) mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 os yr unig baragraff neu baragraffau o Ran 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 9A, 10B neu 10D.

b

ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

11

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) o Ran 2 o Atodlen 1,

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

b

ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw, na fo A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw.

156

Yn rheoliad 8 (digwyddiadau)—

a

ym mharagraff (ba), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

b

ar ôl paragraff (ba) mewnosoder—

bb

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

c

hepgorer paragraff (c);

d

yn lle paragraff (d) rhodder—

d

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 10A(1)(a), 10B(1)(a), 10C(1)(a) neu 10D(1)(a) o Atodlen 1;

e

ym mharagraff (e), yn lle “3(a)” rhodder “3(1)(a)”;

f

hepgorer paragraff (f);

g

ym mharagraff (g), yn lle “7(1)(a)” rhodder “7A(1)(a)”;

h

yn lle paragraff (h) rhodder—

h

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 12A(a) o Atodlen 1;

157

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1 (dehongli)—

a

yn is-baragraff (1)—

i

hepgorer y diffiniadau o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;

ii

yn y diffiniad o “aelod o deulu”—

aa

ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig AEE” rhodder “, person hunangyflogedig AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE yn rhinwedd paragraff 7A(3)”;

bb

ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 10A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig”;

cc

ym mharagraff (d), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 10A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig”;

dd

ym mharagraff (e), yn lle “paragraff 10” rhodder “paragraffau 10, 10B, 10C a 10D”;

iii

yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

b

ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

1A

At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

c

yn is-baragraff (4), ar ôl “Ynysoedd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

d

yn is-baragraff (5)—

i

ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

ii

ar ôl paragraff (a)—

aa

hepgorer “a”;

bb

mewnosoder—

aa

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

158

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 2 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

159

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â pharagraff 1(4).

160

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn—

i

mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

ii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

cc

byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;

iii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras;

iv

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

bb

mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol; neu

v

mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

161

Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 4A rhodder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd4A

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed; a

ii

yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

ystyr “caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel person a ddiogelir” yw—

i

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

iii

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67; neu

iv

person sydd â chaniatâd Calais;

c

ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

i

plentyn i—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; neu

ac

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

ii

plentyn i briod neu bartner sifil—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

d

ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil i—

i

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth.

162

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4A mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant4B

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.

163

Yn Atodlen 1, hepgorer paragraffau 5 (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) a 6A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

164

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 7 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

7A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE;

ii

yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr trawsffiniol AEE neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

v

yn berson cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

3

Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn AEE neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.

165

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 8—

a

yn is-baragraff (1)—

i

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Erthygl 12” hyd at y diwedd rhodder “Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;”;

ii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

d

at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

b

yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

166

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

a

mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon; a

b

mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

167

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 9(1)(b) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”.

168

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

c

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

e

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

f

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (e), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu’n berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

3

At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

169

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 10 (gwladolion UE)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “etc.”;

b

yn is-baragraff (5), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

170

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sydd—

i

yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu

iii

yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

10B

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

b

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

e

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

3

Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

10C

1

Person—

a

sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

Personau sy’n preswylio yn Gibraltar10D

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

ii

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

iii

yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

iv

yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

b

sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

2

Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

171

Yn Atodlen 1, o flaen paragraff 11 mewnosoder y pennawd—

Gwladolion UE sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd

172

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

173

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 12(2) (plant gwladolion Swisaidd), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

174

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 12 mewnosoder—

12A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

175

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 13 (plant gweithwyr Twrcaidd) mewnosoder—

13A

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

b

a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn blentyn i T; a

ii

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

RHAN 8DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (GRADDAU MEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2019

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

176

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 201927 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

177

Yn rheoliad 9 (myfyrwyr cymwys), yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—

a

os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

i

ym mharagraff 1, 2, 2A, 2B, 4, 6A, 7A, 8A, 8B, 8C, 8D, 9A neu 10A o Atodlen 2, neu

ii

ym mharagraff 6, 7, 8, 9 neu 10 o Atodlen 2 pan fo paragraff (1A) yn gymwys, a

b

nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person.

1A

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021—

i

pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 6, 7, 8, 9 neu 10 o Atodlen 2 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, neu

ii

pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw, a

b

pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

i

y cwrs hwnnw, neu

ii

cwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn.

178

Yn rheoliad 10 (myfyrwyr cymwys – eithriadau) ar y diwedd mewnosoder—

Eithriad 12

Mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 a’r unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae P yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 7A, 8B neu 8D.

179

Yn rheoliad 11(1) (cyfnod cymhwystra – y rheol gyffredinol), ar ôl “rheoliad 12” mewnosoder “, 12A”.

180

Ar ôl rheoliad 12 (terfynu cymhwystra yn gynnar) mewnosoder—

12A

Pan—

a

bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd—

i

dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, neu

ii

bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2)(a)(iii) neu (iv) o Atodlen 2,

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig, a

b

ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw na fo A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw.

181

Yn rheoliad 16 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs)—

a

ym mharagraff (1)(b)—

i

hepgorer paragraff (ii);

ii

yn lle paragraff (iii) rhodder—

iii

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 8A(1)(a), 8B(1)(a), 8C(a) neu 8D(a) o Atodlen 2;

iii

hepgorer paragraff (v);

iv

ym mharagraff (vi), yn lle “6(1)(a)” rhodder “6A(1)(a)”;

v

yn lle paragraff (vii) rhodder—

vii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 9A(a) o Atodlen 2;

vi

ym mharagraff (viii), ar ôl “yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson sydd â chaniatâd i aros fel partner a ddiogelir”;

vii

ar ôl paragraff (viii) mewnosoder—

ix

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais.

b

ym mharagraff (2)—

i

yn y lle priodol mewnosoder—

  • person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);

  • person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);

ii

hepgorer ““plentyn” (“child”)”;

iii

yn y cofnod ar gyfer “aelod o deulu”, hepgorer “(o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(5) o Atodlen 2)”;

iv

hepgorer ““hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”)”;

v

hepgorer ““gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”)”.

182

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3 (dehongli termau allweddol eraill)—

a

ym is-baragraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

  • mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;

  • mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

    1. a

      person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

      1. i

        a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

      2. ii

        sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,

      3. iii

        sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben, neu

      4. iv

        sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben, neu

    2. b

      aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;

  • ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020.

b

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

3

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

a

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

b

Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

c

Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

183

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

a

yn lle is-baragraff (1)(a)(i) rhodder—

i

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

b

yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—

a

sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn—

i

mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

ii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

bb

mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, ac

cc

byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath,

iii

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

bb

mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras,

iv

o ran y person—

aa

mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

bb

mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, ac

cc

mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol, neu

v

mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

c

ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

3

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2),

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 11(2)).

4

At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodlen EU i’r rheolau mewnfudo.

184

Yn Atodlen 2, yn lle paragraff 2A rhodder—

Categori 2A – Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd2A

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir,

b

a oedd, ar dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo),

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

o dan 18 oed, a

ii

yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd),

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

b

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu i aros fel person a ddiogelir” yw—

i

person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo,

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

iii

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu

iv

person sydd â chaniatâd Calais;

c

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

d

ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);

e

ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo;

f

ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

i

plentyn i—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo,

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu

ac

person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

ii

plentyn i briod neu bartner sifil—

aa

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu

ab

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

g

ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil i—

i

person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu

ii

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth.

185

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2A mewnosoder—

Categori 2B - Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant2B

1

Person—

a

y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

b

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

b

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

i

paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig),

ii

paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig),

iii

paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog),

iv

paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth),

v

paragraffau D-BPILR.1.1. a D-BPILR.1.2. o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth),

vi

paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth), neu

vii

paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth).

186

Yn Atodlen 2, hepgorer paragraffau 3 (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) a 5 (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

187

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6 (categori 6 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (2)—

i

ym mharagraff (b), ar y diwedd hepgorer “ac”;

ii

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “, fel y’i hestynnwyd” hyd at y diwedd rhodder “(“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a”;

iii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

d

at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

c

yn is-baragraff (2A), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”;

d

yn is-baragraff (3)—

i

yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Yn is-baragraff (1)” mewnosoder “ac is-baragraff (1) o baragraff 6A”;

ii

yn y diffiniad o “aelod o deulu”, ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig AEE” rhodder “, person hunangyflogedig AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE yn rhinwedd paragraff 6A(4)”.

188

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—

Categori 6A – Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd â hawliau gwarchodedig6A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol, o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

a

sy’n un o’r canlynol—

i

gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ii

person cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

iii

aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

iv

gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

v

person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;

vi

aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

c

sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

3

At ddibenion is-baragraff (2)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

a

mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon, a

b

mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

4

Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn AEE neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.

189

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 7 (categori 7 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (1)(b), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”;

c

hepgorer is-baragraff (5).

190

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Categori 7A – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall7A

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

c

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

d

sy’n preswylio fer arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,

e

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

f

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

3

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson—

a

sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

b

sy’n aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

c

yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

4

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, a

b

sydd wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

5

At ddibenion yr is-baragraff hwn, mae gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

191

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8 (categori 8 – gwladolion UE)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (1A), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”;

c

hepgorer is-baragraff (5).

192

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

Categori 8A – Gwladolion UE etc. sydd â hawliau gwarchodedig8A

1

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sydd—

i

yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

ii

yn aelod o deulu person o grybwyllir yn is-baragraff (i), neu

iii

yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon,

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw rhan o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 11(2)).

2

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysodd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Categori 8B – Gwladolion o’r Deyrnas Unedig8B

1

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, neu

ii

yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i),

b

a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir, neu

ii

yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

e

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 11(2)).

2

Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

Categori 8C – Aelodau o deulu gwladolion o’r Deyrnas Unedig8C

Person—

a

sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 11(2)).

Categori 8D – Personau sy’n preswylio yn Gibraltar8D

Person—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

ii

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

iii

yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

iv

yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 11(2)).

193

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 9 (categori 9 – plant gwladolion Swisaidd)—

a

yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

b

yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

194

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

Categori 9A – Plant gwladolion Swisaidd sydd o fewn cwmpas y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd9A

Person sydd â hawliau gwarchodedig—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

195

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 10 (plant gweithwyr Twrcaidd), yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”.

196

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

Categori 10A – Plant gweithwyr Twrcaidd10A

1

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

b

a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

yn blentyn i T, a

ii

yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig,

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

a

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

b

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

197

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—

a

yn is-baragraff (2), ar ôl “Ynysoedd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

b

yn is-baragraff (3)—

i

ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

ii

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

198

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 13 (dehongli)—

a

daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

b

yn yr is-baragraff hwnnw—

i

hepgorer y diffiniadau o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;

ii

yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir yn wahanol) mewn perthynas â pherson (“P”) yw—

    1. a

      priod neu bartner sifil P,

    2. b

      disgynyddion uniongyrchol P neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil P sydd—

      1. i

        o dan 21 oed, neu

      2. ii

        yn ddibynyddion P neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil P, neu

    3. c

      mewn achos pan fo P—

      1. i

        yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, neu

      2. ii

        at ddibenion paragraff 8A, yn berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig,

      perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol P neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil P;

  • mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

199

Yn Atodlen 4 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 3—

a

yn lle’r cofnod yn yr ail golofn sy’n cyfateb i—

i

“aelod o deulu” rhodder “Atodlen 2, paragraff 13”;

ii

“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” rhodder “Atodlen 2, paragraff 2A”;

iii

“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” rhodder “Atodlen 2, paragraff 2A”;

b

hepgorer y cofnodion a ganlyn—

i

dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn aelod o deulu person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth);

ii

dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67);

iii

“hawl i breswylio’n barhaol”;

c

yn y lle priodol mewnosoder—

aelod o deulu” (at ddibenion paragraffau 6(1) a 6A(1) o Atodlen 2)

Atodlen 2, paragraff 6(3)

“cyfnod gras”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

“cyfnod perthnasol”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

“cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn blentyn i bartner a ddiogelir)

Atodlen 2, paragraff 2B

dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn briod neu’n bartner sifil a ddiogelir neu’n blentyn a ddiogelir)

Atodlen 2, paragraff 2A

“gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”

Atodlen 2, paragraff 13

“person perthnasol o Ogledd Iwerddon”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

“person sydd â chaniatâd Calais”

Atodlen 2, paragraff 2A

“person sydd â hawliau gwarchodedig”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2B

“person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2A

“plentyn a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2A

“priod neu bartner sifil a ddiogelir”

Atodlen 2, paragraff 2A

“rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

“Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020”

Atodlen 1, paragraff 3(1)

Kirsty WilliamsY Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

a

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”) – gweler Rhan 2,

b

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPC”) – gweler Rhan 3,

c

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) – gweler Rhan 4,

d

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2017”) – gweler Rhan 5,

e

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) – gweler Rhan 6,

f

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”) – gweler Rhan 7, ac

g

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2019”) – gweler Rhan 8.

Mae’r diwygiadau yn cymryd effaith mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021. Y prif ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—

a

gwneud newidiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;

b

gwneud newidiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd â chaniatâd Calais neu bersonau penodol sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu sydd wedi cael profedigaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gynnwys y canlynol yn y categorïau o fyfyrwyr cymwys at ddibenion cymorth i fyfyrwyr, y rheini sydd â statws ffioedd cartref o dan y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau a’r rheini sy’n bersonau rhagnodedig o dan y Rheoliadau CPC—

  • personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt, personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth, personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a phersonau sy’n bodloni gofynion paragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo, gan gynnwys plant y rhoddwyd “caniatâd oherwydd llinach” iddynt (personau â chaniatâd Calais);

  • personau y rhoddir caniatâd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig o dan y rheolau mewnfudo oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu oherwydd eu bod wedi cael profedigaeth a’u plant;

  • personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;

  • personau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y cytundeb ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd (“y Cytundebau”) ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio (fel y diffinnir “residence scheme immigration rules” yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020);

  • personau sy’n dod o fewn cwmpas personol darpariaethau hawliau dinasyddion y Cytundebau sydd yn y cyfnod gras ar gyfer ceisiadau am ganiatâd o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, neu nad yw eu ceisiadau am ganiatâd o’r fath wedi eu penderfynu eto, a dinasyddion Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddynt gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

  • aelodau o deuluoedd personau perthnasol o Ogledd Iwerddon sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

  • gweithwyr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1213);

  • personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a arferodd hawl i breswylio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2028;

  • aelodau o deuluoedd gwladolion o’r Deyrnas Unedig sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw;

  • gwladolion o’r Deyrnas Unedig ac aelodau o’u teuluoedd sy’n preswylio yn Gibraltar a phersonau sydd â hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

  • plant gwladolion Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

  • plant gweithwyr Twrcaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae’r diwygiadau hefyd yn gwneud mân gywiriadau.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae rheoliadau 116 i 118 yn diwygio darpariaeth sy’n ymwneud â chymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr drwy gynnwys cyfeiriad at y categorïau cymhwystra a fewnosodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 gan reoliadau 130 i 145. Mae’r diwygiadau yn cyfyngu categorïau cymhwystra presennol penodol i fyfyrwyr sy’n dod o fewn y categorïau hynny cyn 1 Awst 2021 ac sy’n ymgymryd â chwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer categorïau cymhwystra newydd nad ydynt wedi eu cyfyngu i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021.

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 119 i 121 yn cymryd i ystyriaeth y categorïau newydd a fewnosodir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 drwy wneud darpariaeth ar gyfer achosion pan fo person yn peidio â chael caniatâd Calais, caniatâd i aros fel partner a ddiogelir neu ganiatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio.

Mae rheoliadau 122 i 129 yn gwneud diwygiadau cysylltiedig pellach i Reoliadau 2018, gan gynnwys diwygio’r amgylchiadau y caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth odanynt yn ystod y flwyddyn academaidd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau a wneir i Atodlen 2.

Mae rheoliadau 146 i 152 yn gwneud diwygiadau i Atodlenni 4 a 5 i Reoliadau 2018 i gymryd i ystyriaeth y diwygiadau a wneir i Atodlen 2.

Mae rheoliad 153 yn diwygio’r mynegai o dermau wedi eu diffinio yn Atodlen 7 i adlewyrchu’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau. Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn awdurdodi codi ffioedd sy’n uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad penodedig â’r Deyrnas Unedig nag yn achos myfyrwyr sydd â chysylltiad o’r fath (y rheini sydd â statws ffioedd cartref). Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau hefyd yn awdurdodi mabwysiadu rheolau cymhwystra sy’n cyfyngu dyfarniadau i’r rheini sydd â chysylltiad o’r fath â’r Deyrnas Unedig.

Mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau CPC. Mae’r Rheoliadau CPC yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau bennu terfynau ffioedd neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol. Uchafswm sy’n daladwy gan berson cymhwysol mewn perthynas â chwrs cymhwysol yw terfyn ffioedd ac mae’r Atodlen i’r Rheoliadau CPC yn rhestru’r personau hynny a all fod yn bersonau cymhwysol.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau 2017 ac yn gwneud diwygiadau i ddirymu Rhan 11 o Reoliadau 2017, sydd bellach yn ddiangen. Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018.

Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Graddau Meistr 2017. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019.

Mae Rhan 7 yn gwneud diwygiadau tebyg i’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae Rhan 8 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Graddau Meistr 2019. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2019 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.