- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 2.54 p.m. ar 22 Ebrill 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 4.45 p.m. ar 22 Ebrill 2021
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 23 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 23 Ebrill 2021.
2. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 6B(1A) (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru), o flaen “yn gymwys”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(f)”.
4. Yn rheoliad 6K(1) (profi’r gweithlu), ar ôl “Atodlen 2” mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(g)”.
5.—(1) Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (2)(e) mewnosoder—
“(f)yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 14 o Atodlen 5;
(g)yn berson—
(i)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol yn y Deyrnas Unedig,
(ii)sy’n gymwys i ymarfer proffesiwn a reoleiddir gan unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(3) neu adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(4), a
(iii)sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cyflogaeth fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol.”
(3) Ym mharagraff (3F)(b), yn yr addasiad i reoliad 10(4), ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—
“(i)pan fo P yn berson sy’n dod o fewn paragraff (2)(f), at ddiben ymgymryd â’r gwaith hwnnw.”
6. Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—
“India”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.54 p.m. ar 22 Ebrill 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn esemptio person sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol, sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunyddiau penodol i’w defnyddio i ddarparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd, rhag y gofyniad i drefnu profion cyn iddo gyrraedd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6K o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cymhwyso’r gofynion ar brofi’r gweithlu i weithwyr iechyd neu weithwyr gofal penodol sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol er mwyn ymgymryd â chyflogaeth.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn caniatáu i’r ddau gategori hynny o berson gael mynediad i Gymru.
Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yng Nghymru. Mae rheoliad 6 yn ychwanegu India at y rhestr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei roi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78), O.S. 2021/361 (Cy. 110) ac O.S. 2021/454 (Cy. 144).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: