2021 Rhif 516 (Cy. 153) (C. 17)
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
EnwiI11
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021.
Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021I22
Ar ôl erthygl 16 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 20212 mewnosoder—
16A
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
a
sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf,
b
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
c
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
2
Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon—
a
ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 20103;
b
ystyr “ysgol gyntaf” yw’r ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021.
16B
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
a
sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
b
y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,
c
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, a
d
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
2
Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
16C
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
a
sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf,
b
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
c
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
2
Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021I33
Yn lle erthygl 8 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 20214 rhodder—
Hawl i ofyn am gael trosglwyddo i’r gyfraith newydd8
1
Caiff plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021, neu riant y plentyn hwnnw, wneud cais i’r person priodol i’r gyfraith newydd fod yn gymwys i’r plentyn hwnnw.
2
Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad y daw’r cais i law.
3
Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
4
Yn yr erthygl hon, ystyr “person priodol” yw—
a
yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn,
b
pan na fo awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn, awdurdod lleol yng Nghymru y mae’r ysgol a gynhelir neu’r uned cyfeirio disgyblion y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn ei ardal.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)