xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 516 (Cy. 153) (C. 17)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021

Gwnaed

28 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

EnwiLL+C

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 28.4.2021

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021LL+C

2.  Ar ôl erthygl 16 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(2) mewnosoder—

16A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—

(a)sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf,

(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac

(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3) Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(3);

(b)ystyr “ysgol gyntaf” yw’r ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021.

16B.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—

(a)sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

(b)y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,

(c)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, a

(d)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

16C.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—

(a)sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf,

(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac

(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn..

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 28.4.2021

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021LL+C

3.  Yn lle erthygl 8 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(4) rhodder—

Hawl i ofyn am gael trosglwyddo i’r gyfraith newydd

8.(1) Caiff plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021, neu riant y plentyn hwnnw, wneud cais i’r person priodol i’r gyfraith newydd fod yn gymwys i’r plentyn hwnnw.

(2) Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad y daw’r cais i law.

(3) Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “person priodol” yw—

(a)yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn,

(b)pan na fo awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn, awdurdod lleol yng Nghymru y mae’r ysgol a gynhelir neu’r uned cyfeirio disgyblion y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn ei ardal..

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 28.4.2021

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

28 Ebrill 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (“Gorchymyn Cychwyn Rhif 3”) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (“Gorchymyn Cychwyn Rhif 4”) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchmynion Cychwyn hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo plant ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd i’r gyfraith newydd a nodir yn y Ddeddf. Maent yn cynnwys diffiniadau o “y gyfraith newydd” a “yr hen gyfraith” (gweler erthygl 1).

Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthyglau 16A, 16B ac 16C yng Ngorchymyn Cychwyn Rhif 3 (erthygl 2). Mae erthygl 16A yn gymwys i blentyn sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021 (“yr ysgol gyntaf”). Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf.

Mae erthygl 16B yn gymwys i blentyn sydd hefyd yn dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (sydd wedi ei gofrestru mewn mwy nag un lleoliad) ac y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall.

Mae erthygl 16C yn gymwys i blentyn sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 4 drwy roi erthygl 8 newydd yn lle’r un bresennol sy’n caniatáu i blentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn hwnnw wneud cais i’r awdurdod lleol priodol i’r gyfraith newydd fod yn gymwys i’r plentyn.