NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (“Gorchymyn Cychwyn Rhif 3”) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (“Gorchymyn Cychwyn Rhif 4”) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchmynion Cychwyn hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo plant ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd i’r gyfraith newydd a nodir yn y Ddeddf. Maent yn cynnwys diffiniadau o “y gyfraith newydd” a “yr hen gyfraith” (gweler erthygl 1).

Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthyglau 16A, 16B ac 16C yng Ngorchymyn Cychwyn Rhif 3 (erthygl 2). Mae erthygl 16A yn gymwys i blentyn sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021 (“yr ysgol gyntaf”). Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf.

Mae erthygl 16B yn gymwys i blentyn sydd hefyd yn dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (sydd wedi ei gofrestru mewn mwy nag un lleoliad) ac y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall.

Mae erthygl 16C yn gymwys i blentyn sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 4 drwy roi erthygl 8 newydd yn lle’r un bresennol sy’n caniatáu i blentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn hwnnw wneud cais i’r awdurdod lleol priodol i’r gyfraith newydd fod yn gymwys i’r plentyn.