13. Yn Atodlen 1B (gwybodaeth archebu)—
(a)yn y nodyn cwr tudalen, yn lle “Rheoliad 6B” rhodder “Rheoliad 6AB”;
(b)yn lle paragraff 2(a) rhodder—
“(aa)cyfeiriad cartref P;
(ab)pan fo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, y cyfeiriad y mae’n bwriadu ynysu ynddo (os yw’n wahanol i’w gyfeiriad cartref);
(ac)pan fo P yn berson nad yw rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau y mae’n bwriadu aros ynddo neu ynddynt yn ystod y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd y Deyrnas Unedig;”.