RHAN 4Diwygiadau i Ran 3C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A)
Diwygiadau i reoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraedd)5
Yn lle paragraff (1) o reoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol rhodder—
1
Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf neu ei fan ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai—
a
ei bod yn rhesymol angenrheidiol iddi neu iddo wneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch yr awyren neu’r llestr neu iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd;
b
mai dim ond at ddiben ail-lenwi’r awyren neu’r llestr â thanwydd, neu gynnal a chadw’r awyren neu’r llestr, y mae’n cyrraedd Cymru, ac na chaniateir i unrhyw deithwyr fynd ar fwrdd yr awyren neu’r llestr neu ddod oddi ar yr awyren neu’r llestr;
c
mai ambiwlans awyr yw’r awyren a’i fod yn glanio at ddiben cludo person i gael triniaeth feddygol; neu
d
bod cyrraedd yn ofynnol fel arall yn unol â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 19954.