RHAN 3Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau
Diwygiadau i’r Rheoliadau Cyfyngiadau4.
(1)
Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn rheoliad 11A—
(a)
yn lle’r pennawd rhodder—
“Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol”;
(b)
ym mharagraff (1)—
(i)
yn is-baragraff (a), yn lle “9 Ionawr” rhodder “22 Ionawr”;
(ii)
yn is-baragraff (b), yn lle “9 Ionawr” rhodder “22 Ionawr”;
(iii)
yn is-baragraff (c), yn lle “mewn gwlad restredig” rhodder “yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania”;
(c)
ym mharagraff 2, yn lle “mewn gwlad restredig” rhodder “yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania”;
(d)
hepgorer paragraff (4).