- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
16 Mehefin 2021
Yn dod i rym
17 Mehefin 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, ar ôl y diffiniad o “gwaith adfer” mewnosoder—
“ystyr “gweithredwr proffesiynol” (“professional operator”) yw unrhyw berson, a lywodraethir gan y gyfraith gyhoeddus neu’r gyfraith breifat, sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn sy’n ymwneud â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol amdanynt—
plannu;
bridio;
cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal;
cyflwyno i Ogledd Iwerddon, symud o fewn Gogledd Iwerddon a symud allan o Ogledd Iwerddon;
eu cynnig ar y farchnad;
storio, casglu, anfon a phrosesu;”.
(3) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (5A), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5C),”;
(b)ar ôl paragraff (5B), mewnosoder—
“(5C) Nid yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—
(a)gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad; neu
(b)i’w ddanfon i—
(i)gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon; neu
(ii)unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddibenion unrhyw fusnes.
(5D) Mae paragraff (5C) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.”.
3. Yn y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â eitem 2 (Pren (ac eithrio pren ar ffurf rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif)), yn y drydedd golofn (uned);
(1) yn lle “25000KG” rhodder “100m³”; ac
(2) yn lle “1000kg” rhodder “m³”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraffau 21(a) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 Cy. 114) (“Rheoliadau 2019”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2019 i ddarparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy i Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â cheisiadau i’r Comisiwn Coedwigaeth am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio (neu ail-allforio) mewn amgylchiadau penodol.
Mae’r esemptiad yn rheoliad 2 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r unedau a gyfeirir atynt ar gyfer eitem 2 yn y tabl yn Atodlen 3 o Reoliadau 2019 er mwyn cywiro gwall.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Yn unol â pharagraff 12(1) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru.
2018 p. 16; gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: