2021 Rhif 713 (Cy. 181)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno2.