xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 73 (Cy. 19)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

Gwnaed

21 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

26 Ionawr 2021

Yn dod i rym

26 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Chwefror 2021 ac maent yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021, pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2GRANTIAU MYFYRWYR ANABL

PENNOD 1DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.

3.  Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)—

(a)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a

(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.;

(b)ym mharagraff (6), yn lle “baragraffau (7) ac (8)” rhodder “baragraff (8)”;

(c)hepgorer paragraff (7);

(d)ym mharagraff (8), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd”.

4.  Yn rheoliad 71 (grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl)—

(a)yn lle paragraff (8) rhodder—

(8) Rhaid i swm y grant o dan y rheoliad hwn beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a

(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.;

(b)ym mharagraff (9), yn lle “baragraffau (10) ac (11)” rhodder “baragraff (11)”;

(c)hepgorer paragraff (10);

(d)ym mharagraff (11), yn lle “mharagraff (8)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 65(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (8)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 65(4) yn digwydd”.

5.  Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl)—

(a)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a

(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;

(c)hepgorer paragraff (5);

(d)ym mharagraff (6), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 82(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 82(4) yn digwydd”.

6.  Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys), ym mharagraff (8), yn lle “117(3)(c)(ii)” rhodder “117(2)(b)(ii)”.

7.  Yn rheoliad 117 (swm y grant)—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£31,831 mewn perthynas â gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr; a

(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, ar unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion bod yn bresennol yn yr Athrofa.;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr y “mathau o wariant cymwys” yw’r gwariant a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) a (b).;

(c)ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;

(d)hepgorer paragraff (5);

(e)ym mharagraff (6), yn lle “at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “at y dibenion a bennir ym mharagraff (2)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 111(2) yn digwydd”.

PENNOD 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

8.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 9 i 12.

9.  Yn rheoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—

Achos 1

Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).

Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.

Achos 2

Gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a

(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.

10.  Yn rheoliad 85 (talu benthyciadau cynhaliaeth a grantiau)—

(a)ym mharagraff (3), yn lle “baragraffau (4) a (5)” rhodder “baragraff (5)”;

(b)hepgorer paragraff (4).

11.  Yn Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)—

(a)ym mharagraff 14(2), yn lle “chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd”;

(b)ym mharagraff 18(6)(d), yn lle “un o’r dibenion” rhodder “math o wariant”;

(c)ym mharagraff 20—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—

(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond

(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir yn is-baragraff (2).;

(ii)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—

Achos 1

Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).

Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.

Achos 2

Gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a

(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.

12.  Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 16 hepgorer—

(a)““gwariant cymwys” (mewn perthynas â grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)” yn y golofn gyntaf, a

(b)y cofnod cyfatebol “Atodlen 4, paragraff 20(2)” yn yr ail golofn.

RHAN 3SWM Y CYMORTH

PENNOD 1DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

13.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 14 i 25.

Diwygiadau i reoliad 16

14.  Yn rheoliad 16 (grant newydd at ffioedd)—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£4,530” rhodder “£4,395”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£4,470” rhodder “£4,605”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£2,340” rhodder “£2,270”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£2,160” rhodder “£2,230”.

Diwygiadau i reoliad 19

15.  Yn rheoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,470” rhodder “£4,605”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,160” rhodder “£2,230”.

Diwygiadau i reoliad 26

16.  Yn rheoliad 26 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant ar gyfer dibynyddion mewn oed), ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£3,094” rhodder “£3,190”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£3,094” rhodder “£3,190”.

Diwygiadau i reoliad 27

17.  Yn rheoliad 27 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)—

(a)ym mharagraff (7)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£174.22” rhodder “£179.62”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£298.69” rhodder “£307.95”;

(b)ym mharagraff (9)(a), yn lle “£134.70” rhodder “£138.81”.

Diwygiad i reoliad 28

18.  Yn rheoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni), ym mharagraff (2), yn lle “£1,766” rhodder “£1,821”.

Diwygiadau i reoliad 43

19.  Yn rheoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (i), yn lle “£5,848” rhodder “£6,027”;

(ii)yn is-baragraff (ii), yn lle “£10,584” rhodder “£10,907”;

(iii)yn is-baragraff (iii), yn lle “£9,008” rhodder “£9,283”;

(iv)yn is-baragraff (iv), yn lle “£9,008” rhodder “£9,283”;

(v)yn is-baragraff (v), yn lle “£7,555” rhodder “£7,786”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (i), yn lle “£5,295” rhodder “£5,457”;

(ii)yn is-baragraff (ii), yn lle “£9,638” rhodder “£9,932”;

(iii)yn is-baragraff (iii), yn lle “£7,835” rhodder “£8,074”;

(iv)yn is-baragraff (iv), yn lle “£7,835” rhodder “£8,074”;

(v)yn is-baragraff (v), yn lle “£6,999” rhodder “£7,213”.

Diwygiadau i reoliad 45

20.  Yn rheoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)—

(a)ym mharagraff (1), is-baragraff (a)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,777” rhodder “£2,862”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£5,204” rhodder “£5,363”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£3,702” rhodder “£3,815”;

(b)ym mharagraff (1), is-baragraff (b)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,777” rhodder “£2,862”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£5,204” rhodder “£5,363”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£3,702” rhodder “£3,815”;

(c)ym mharagraff (1), is-baragraff (c)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£4,386” rhodder “£4,520”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£7,938” rhodder “£8,180”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£6,756” rhodder “£6,962”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£6,756” rhodder “£6,962”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£5,666” rhodder “£5,840”;

(d)ym mharagraff (2), is-baragraff (a)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,111” rhodder “£2,175”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,980” rhodder “£4,102”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;

(e)ym mharagraff (2), is-baragraff (b)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£2,111” rhodder “£2,175”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£3,980” rhodder “£4,102”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£3,237” rhodder “£3,336”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£3,237” rhodder “£3,336”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;

(f)ym mharagraff (2), is-baragraff (c)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “£3,971” rhodder “£4,093”;

(ii)ym mharagraff (ii), yn lle “£7,228” rhodder “£7,449”;

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “£5,876” rhodder “£6,056”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “£5,876” rhodder “£6,056”;

(v)ym mharagraff (v), yn lle “£5,249” rhodder “£5,410”.

Diwygiadau i reoliad 50

21.  Yn rheoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm), ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£86” rhodder “£89”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£167” rhodder “£172”;

(c)yn is-baragraff (c), yn lle “£182” rhodder “£188”;

(d)yn is-baragraff (d), yn lle “£182” rhodder “£188”;

(e)yn is-baragraff (e), yn lle “£131” rhodder “£135”.

Diwygiadau i reoliad 56

22.  Yn rheoliad 56 (cymhwyso’r cyfraniad)—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£4,147” rhodder “£4,520”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£7,505” rhodder “£8,180”;

(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “£6,388” rhodder “£6,962”;

(iv)yn is-baragraff (d), yn lle “£6,388” rhodder “£6,962”;

(v)yn is-baragraff (e), yn lle “£5,357” rhodder “£5,840”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£3,755” rhodder “£4,093”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£6,834” rhodder “£7,449”;

(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “£5,556” rhodder “£6,056”;

(iv)yn is-baragraff (d), yn lle “£5,556” rhodder “£6,056”;

(v)yn is-baragraff (e), yn lle “£4,963” rhodder “£5,410”.

Diwygiadau i reoliad 91

23.  Yn rheoliad 91 (grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed), ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£3,094” rhodder £3,190”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£3,094” rhodder “£3,190”.

Diwygiadau i reoliad 92

24.  Yn rheoliad 92 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)—

(a)ym mharagraff (6)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£174.22” rhodder “£179.62”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£298.69” rhodder “£307.95”;

(b)ym mharagraff (8)(a), yn lle “£134.70” rhodder “£138.31”.

Diwygiad i reoliad 93

25.  Yn rheoliad 93 (lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni), ym mharagraff (2), yn lle “£1,766” rhodder “£1,821”.

PENNOD 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

26.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 27 i 34.

Diwygiad i reoliad 55

27.  Yn rheoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser), yn lle Tabl 7 rhodder—

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Blwyddyn academaiddCategori o fyfyriwrLleoliad y myfyriwrUchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Categori 1Byw gartref£6,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£10,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,000
Categori 2Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Categori 1Byw gartref£6,840
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£10,530
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,225
Categori 2Byw gartref£3,420
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,265
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,110
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Categori 1Byw gartref£7,335
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,260
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,810
Categori 2Byw gartref£3,665
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,630
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,405
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Categori 1Byw gartref£7,790
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,930
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,350
Categori 2Byw gartref£3,895
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,965
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,675.

Diwygiadau i reoliad 56

28.  Yn rheoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)—

(a)yn lle Tabl 8 rhodder—

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddLleoliad y myfyriwrSwm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Byw gartref£7,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Byw gartref£7,840

Byw oddi cartref, astudio yn Llundain

£11,530
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,225
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Byw gartref£8,335
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£12,260
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,810
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Byw gartref£8,790
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£12,930
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£10,350;

(b)yn lle Tabl 8A rhodder—

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddLleoliad y myfyriwrIsafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwyy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Byw gartref£3,420
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,265
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,110
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Byw gartref£3,665
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,630
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,405
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Byw gartref£3,895
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,965
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,675.

Diwygiad i reoliad 57

29.  Yn rheoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig), yn lle Tabl 9 rhodder—

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddLleoliad y myfyriwrCynnydd wythnosol yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Byw gartref£80
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£153
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£120
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Byw gartref£84
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£162
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£127
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Byw gartref£86
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£167
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£131
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Byw gartref£89
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£172
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£135.

Diwygiad i reoliad 58

30.  Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), yn lle Tabl 10 rhodder—

Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddUchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019£5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020£5,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021£6,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021£6,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio.

Diwygiad i reoliad 58A

31.  Yn rheoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig), yn lle Tabl 10A rhodder—

Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddSwm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019£6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020£6,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021£7,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021£7,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio.

Diwygiad i reoliad 72

32.  Yn rheoliad 72 (uchafswm y grant oedolion dibynnol), yn lle Tabl 11 rhodder—

Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddUchafswm y grant oedolion dibynnol
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020£2,732
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021£3,094
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021£3,190.

Diwygiad i reoliad 74

33.  Yn rheoliad 74 (uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni), yn lle Tabl 12 rhodder—

Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddUchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020£1,557
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021£1,766
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021£1,821.

Diwygiadau i reoliad 76

34.  Yn rheoliad 76 (uchafswm y grant gofal plant)—

(a)yn lle Tabl 13 rhodder—

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddNifer y plant dibynnolUchafswm wythnosol
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020Un plentyn dibynnol£161.50
Mwy nag un plentyn dibynnol£274.55
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Un plentyn dibynnol£174.22
Mwy nag un plentyn dibynnol£298.69
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Un plentyn dibynnol£179.62
Mwy nag un plentyn dibynnol£307.95;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£134.70” rhodder “£138.31”.

PENNOD 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

35.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 36.

Diwygiadau i reoliad 13

36.  Yn rheoliad 13 (swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “£26,445” rhodder “£27,265”;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “£26,445” rhodder “£27,265”.

PENNOD 4DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (GRADDAU MEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2019

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

37.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(6) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 38 a 39.

Diwygiadau i reoliad 31

38.  Yn rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”.

Diwygiadau i reoliad 36

39.  Yn rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys)—

(a)ym mharagraff (8), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”;

(b)ym mharagraff (10), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”.

RHAN 4MYFYRWYR RHAN-AMSER – CYFYNGIADAU AR GYMORTH I RADDEDIGION

PENNOD 1DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

40.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 41 i 43.

Diwygiadau i reoliad 2

41.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—

mae i “Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” (“Higher Education Classification of Subjects”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 81(29);;

mae i “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” (“Common Aggregation Hierarchy”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 81(29);.

Diwygiadau i reoliad 81

42.  Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—

(a)yn lle paragraff (28) rhodder—

(28) Mae cwrs wedi ei bennu at ddiben paragraff (27)—

(a)os yw’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni;

(b)os yw’n gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 7; neu

(c)os yw’r cwrs wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl A1
Colofn 1Colofn 2
Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu CyffredinCod a label Pynciau a eithrir
Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02)
Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03)
Seicoleg (CAH04)
Milfeddygaeth (CAH05)
Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06)
Y gwyddorau ffisegol (CAH07)

(100392) Gwyddoniaeth gymhwysol

(100390) Gwyddoniaeth gyffredinol

(100391) Y gwyddorau naturiol

Y gwyddorau mathemategol (CAH09)
Peirianneg a thechnoleg (CAH10)
Cyfrifiadura (CAH11) ;

(b)yn lle paragraff (29) rhodder—

(29) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(7) ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Diwygiadau i Atodlen 7

43.  Yn Atodlen 7 (Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch)—

(a)yn lle’r cyfeiriad at “paragraff (28)(c) o reoliad 81” rhodder “paragraff (28)(b) o reoliad 81”;

(b)ar ôl y cyfeiriad at “paragraff (28)(c) o reoliad 81.” mewnosoder “Mae i “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yr ystyr a roddir ym mharagraff (29) o reoliad 81.”;

(c)yn lle Tabl 1 rhodder—

Cod DPAULabel DPAU
100706Gwallt a cholur
101374Gwasanaethau trin gwallt
100131Radioleg
100456Astudiaethau plentyndod
100302Hanes
100337Athroniaeth
100621Astudiaethau rhywedd
101233Astudiaethau diwylliannol
100986Rheoli adnoddau dŵr
100807Rheoli treftadaeth
101091Astudiaethau cwaternaidd
101078Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079Hydroleg
101072Rheoli llygredd
100381Y gwyddorau amgylcheddol
101070Newid hinsawdd
101067Priddeg
101394Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408Daearyddiaeth amgylcheddol
101352Bioddaearyddiaeth
101065Daearyddiaeth arforol
101064Geomorffoleg
100410Daearyddiaeth ffisegol
101058Y gwyddorau mapio
101056Synhwyro o bell
100369Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052Ergonomeg
101104Daeareg gymhwysol
101351Rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer a’r cefnforoedd
100379Gwyddor hinsawdd
100394Gwyddorau’r ddaear
101106Daeareg beirianyddol
100380Gwyddorau daear amgylcheddol
101093Daeareg archwilio
101084Geoffiseg archwilio
101083Geocemeg
101082Peryglon daearegol
101086Eigioneg ddaearegol
100395Daeareg
100396Geoffiseg
101089Hydroddaeareg
101073Hydrograffeg
100418Gwyddorau’r môr
100382Meteoroleg
100421Gwyddorau eigion
100398Palaeontoleg
101105Daeareg betrolewm
101081Fwlcanoleg.

PENNOD 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

44.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 45 i 47.

Diwygiadau i reoliad 25

45.  Yn rheoliad 25 (myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle Achos 3 rhodder—

Achos 3

Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—

(a)yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,

(b)yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A, neu

(c)wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl A1
Colofn 1Colofn 2
Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu CyffredinCod a label Pynciau a eithrir
Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02)
Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03)
Seicoleg (CAH04)
Milfeddygaeth (CAH05)
Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06)
Y gwyddorau ffisegol (CAH07)

(100392) Gwyddoniaeth gymhwysol

(100390) Gwyddoniaeth gyffredinol

(100391) Y gwyddorau naturiol

Y gwyddorau mathemategol (CAH09)
Peirianneg a thechnoleg (CAH10)
Cyfrifiadura (CAH11) ;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn Achos 3, ystyr “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(8) ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Diwygiadau i Atodlen 5A

46.  Yn Atodlen 5A (Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch)—

(a)yn lle’r cyfeiriad at “is-baragraff (c) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)” rhodder “is-baragraff (b) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)”;

(b)ar ôl y cyfeiriad at “Achos 3 yn rheoliad 25(2).” mewnosoder “Mae i “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yr ystyr a roddir ym mharagraff (3) o reoliad 25.”;

(c)yn lle Tabl 15A rhodder—

Tabl 15A
Cod DPAULabel DPAU
100706Gwallt a cholur
101374Gwasanaethau trin gwallt
100131Radioleg
100456Astudiaethau plentyndod
100302Hanes
100337Athroniaeth
100621Astudiaethau rhywedd
101233Astudiaethau diwylliannol
100986Rheoli adnoddau dŵr
100807Rheoli treftadaeth
101091Astudiaethau cwaternaidd
101078Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079Hydroleg
101072Rheoli llygredd
100381Y gwyddorau amgylcheddol
101070Newid hinsawdd
101067Priddeg
101394Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408Daearyddiaeth amgylcheddol
101352Bioddaearyddiaeth
101065Daearyddiaeth arforol
101064Geomorffoleg
100410Daearyddiaeth ffisegol
101058Y gwyddorau mapio
101056Synhwyro o bell
100369Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052Ergonomeg
101104Daeareg gymhwysol
101351Rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer a’r cefnforoedd
100379Gwyddor hinsawdd
100394Gwyddorau’r ddaear
101106Daeareg beirianyddol
100380Gwyddorau daear amgylcheddol
101093Daeareg archwilio
101084Geoffiseg archwilio
101083Geocemeg
101082Peryglon daearegol
101086Eigioneg ddaearegol
100395Daeareg
100396Geoffiseg
101089Hydroddaeareg
101073Hydrograffeg
100418Gwyddorau’r môr
100382Meteoroleg
100421Gwyddorau eigion
100398Palaeontoleg
101105Daeareg betrolewm
101081Fwlcanoleg.

Diwygiadau i Atodlen 7

47.  Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), Tabl 16, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—

“y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU)”Rheoliad 25(3);
“Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin”Rheoliad 25(3).

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

21 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),

(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),

(c)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”), a

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”).

Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018.

Mae rheoliadau 2 i 7 yn amnewid y symiau a’r dull cyfrifo yn rheoliadau 24, 71, 88, 110 a 117 o Reoliadau 2017 ynghylch grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl, grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a grantiau at gostau byw myfyrwyr ôl-raddedig anabl.

Mae rheoliadau 8 i 12 yn amnewid y symiau a’r dull cyfrifo yn rheoliad 63 o Reoliadau 2018 ac Atodlen 4 iddynt ynghylch y grant myfyriwr anabl a’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl. Mae rheoliad 12 yn dileu diffiniad yn Atodlen 7 i Reoliadau 2018 nad oes ei angen mwyach.

Mae rheoliadau 13 i 25 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 16, 19, 26, 27, 28, 43, 45, 50, 56, 91, 92 a 93 o Reoliadau 2017 ynghylch grantiau a benthyciadau at ffioedd dysgu a benthyciadau at gostau byw ar gyfer myfyrwyr llawnamser a grantiau ar gyfer dibynyddion myfyrwyr llawnamser a rhan-amser fel ei gilydd.

Mae rheoliadau 26 i 34 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 55, 56, 57, 58, 58A, 72, 74 ac 76 o Reoliadau 2018 ynghylch benthyciadau cynhaliaeth a grantiau ar gyfer dibynyddion myfyrwyr llawnamser a rhan-amser fel ei gilydd.

Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig. Mae rheoliad 36 yn amnewid ffigurau yn rheoliad 13 o’r Rheoliadau Graddau Doethurol ynghylch swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.

Mae’r Rheoliadau Graddau Meistr yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019. Mae rheoliadau 38 a 39 yn amnewid ffigurau yn rheoliadau 31 ac 36 o’r Rheoliadau Graddau Meistr. Mae rheoliad 38 yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys a charcharorion cymwys. Mae rheoliad 39 yn cynyddu’r ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo’r grant cyfrannu at gostau a’r benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys pan fydd yn peidio â bod yn garcharor cymwys.

Mae rheoliadau 40 i 43 yn diwygio rheoliadau 2 ac 81 o Reoliadau 2017 ac Atodlen 7 iddynt. Mae’r diwygiadau yn ymwneud â’r cyfyngiadau ar y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig rhan-amser ac mae eu hangen o ganlyniad i gyflwyno fersiwn newydd o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin. Mae rheoliadau 44 i 47 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i reoliad 25 o Reoliadau 2018 ac Atodlenni 5A a 7 iddynt.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1881 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), gydag is-adran (2)(a), (c) a (k) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).