xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4MYFYRWYR RHAN-AMSER – CYFYNGIADAU AR GYMORTH I RADDEDIGION

PENNOD 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

44.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 45 i 47.

Diwygiadau i reoliad 25

45.  Yn rheoliad 25 (myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle Achos 3 rhodder—

Achos 3

Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—

(a)yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,

(b)yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A, neu

(c)wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl A1
Colofn 1Colofn 2
Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu CyffredinCod a label Pynciau a eithrir
Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02)
Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03)
Seicoleg (CAH04)
Milfeddygaeth (CAH05)
Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06)
Y gwyddorau ffisegol (CAH07)

(100392) Gwyddoniaeth gymhwysol

(100390) Gwyddoniaeth gyffredinol

(100391) Y gwyddorau naturiol

Y gwyddorau mathemategol (CAH09)
Peirianneg a thechnoleg (CAH10)
Cyfrifiadura (CAH11) ;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn Achos 3, ystyr “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(1) ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Diwygiadau i Atodlen 5A

46.  Yn Atodlen 5A (Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch)—

(a)yn lle’r cyfeiriad at “is-baragraff (c) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)” rhodder “is-baragraff (b) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)”;

(b)ar ôl y cyfeiriad at “Achos 3 yn rheoliad 25(2).” mewnosoder “Mae i “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yr ystyr a roddir ym mharagraff (3) o reoliad 25.”;

(c)yn lle Tabl 15A rhodder—

Tabl 15A
Cod DPAULabel DPAU
100706Gwallt a cholur
101374Gwasanaethau trin gwallt
100131Radioleg
100456Astudiaethau plentyndod
100302Hanes
100337Athroniaeth
100621Astudiaethau rhywedd
101233Astudiaethau diwylliannol
100986Rheoli adnoddau dŵr
100807Rheoli treftadaeth
101091Astudiaethau cwaternaidd
101078Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079Hydroleg
101072Rheoli llygredd
100381Y gwyddorau amgylcheddol
101070Newid hinsawdd
101067Priddeg
101394Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408Daearyddiaeth amgylcheddol
101352Bioddaearyddiaeth
101065Daearyddiaeth arforol
101064Geomorffoleg
100410Daearyddiaeth ffisegol
101058Y gwyddorau mapio
101056Synhwyro o bell
100369Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052Ergonomeg
101104Daeareg gymhwysol
101351Rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer a’r cefnforoedd
100379Gwyddor hinsawdd
100394Gwyddorau’r ddaear
101106Daeareg beirianyddol
100380Gwyddorau daear amgylcheddol
101093Daeareg archwilio
101084Geoffiseg archwilio
101083Geocemeg
101082Peryglon daearegol
101086Eigioneg ddaearegol
100395Daeareg
100396Geoffiseg
101089Hydroddaeareg
101073Hydrograffeg
100418Gwyddorau’r môr
100382Meteoroleg
100421Gwyddorau eigion
100398Palaeontoleg
101105Daeareg betrolewm
101081Fwlcanoleg.

Diwygiadau i Atodlen 7

47.  Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), Tabl 16, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—

“y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU)”Rheoliad 25(3);
“Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin”Rheoliad 25(3).