Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
21 Mehefin 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau i Orchmynion Cychwyn Rhif 2, Rhif 3 a Rhif 4) 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3—
(a)yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)adrannau 17 i 36;”;
(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—
“(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).”
(3) Yn erthygl 6—
(a)yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)adrannau 17 i 36;”;
(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—
“(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).”
(4) Ar ôl erthygl 7 mewnosoder—
“7A. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen i’r Ddeddf i rym ar 22 Mehefin 2021—
(a)paragraff 24(1) at ddiben y ddarpariaeth ym mharagraff (b);
(b)paragraff 24(4).”
(5) Yn erthygl 8—
(a)o flaen paragraff (a) mewnosoder—
“(za)adran 16;”;
(b)yn lle is-baragraff (xl) o baragraff (j) rhodder—
“(xl)paragraff 24(2), (5) a (6)(b) ac (c).”
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
3.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3—
(a)yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)adrannau 17 i 36;”;
(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—
“(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).”
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud
4.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3—
(a)yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)adrannau 17 i 36;”;
(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—
“(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Mehefin 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021, Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (“y Gorchmynion Cychwyn”) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchmynion Cychwyn wedi eu diwygio fel bod adran 16 o’r Ddeddf (diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) yn dod i rym yn llawn ar 1 Medi 2021, a pharagraff 24(4) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn dod i rym yn llawn ar 22 Mehefin 2021.
O.S. 2021/381 (Cy. 120) (C. 13), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/516 (Cy. 153) (C. 17).
O.S. 2021/383 (Cy. 121) (C. 14), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/516 (Cy. 153) (C. 17).