Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Made
24 Mehefin 2021
Laid before Parliament
28 Mehefin 2021
Coming into force
30 Mehefin 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 82(12) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2021.
2. At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period”, fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn gorffen, o ran Cymru, â 30 Medi 2021.
3. Mae Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021(2) wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn sicrhau na chaniateir gorfodi ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent mewn perthynas â thenantiaethau busnes perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol (“relevant period”). Mae adran 82(12) o’r Ddeddf yn diffinio’r “relevant period” fel cyfnod sy’n dechrau ar 26 Mawrth 2020, ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin 2020, neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir mewn rheoliadau a wneir gan yr awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru.
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/606 (Cy. 140)) y cyfnod perthnasol hyd 30 Medi 2020.
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/960 (Cy. 214)) y cyfnod perthnasol ymhellach hyd 31 Rhagfyr 2020.
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/1456 (Cy. 314)) y cyfnod perthnasol ymhellach hyd 31 Mawrth 2021.
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (O.S. 2021/253 (Cy. 66)) y cyfnod perthnasol ymhellach hyd 30 Mehefin 2021.
O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, mae’r moratoriwm a ddarperir gan adran 82 o’r Ddeddf wedi ei estyn ymhellach hyd 30 Medi 2021.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod perthnasol hyd 30 Medi 2021.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.