Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

5.  Yn lle Rhan 2 o’r Atodlen i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(1) (gwybodaeth a ddarperir yn ystod taith), rhodder—

Rhan 2

Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—

(a)y fersiwn Gymraeg—

Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.

Pa mor hir bynnag yr ydych yn bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig, rhaid i bawb gymryd prawf COVID-19 a archebwyd ymlaen llaw o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd. Os ydych wedi bod mewn unrhyw wledydd ar y rhestr goch neu oren, neu wedi tramwyo drwy unrhyw wledydd o’r fath, rhaid ichi hefyd gymryd prawf arall a archebwyd ymlaen llaw 8 niwrnod ar ôl ichi gyrraedd.

Os ydych wedi bod mewn gwlad oren neu goch o fewn y 10 niwrnod diwethaf, neu wedi tramwyo drwy wlad o’r fath, rhaid ichi fynd i gwarantin am y 10 niwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd.

Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.

Dilynwch y canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’n teithio ynddi.

Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o gyngor.

(b)y fersiwn Saesneg—

The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.

However long you intend to stay in the UK, everyone must take a pre-booked COVID-19 test within the first two days after you arrive. If you have been in or transited through any countries on the red or amber list you must also take another pre-booked test 8 days after arrival.

If you have been in or transited through an amber or red country within the previous 10 days you must quarantine for the first 10 days after you arrive.

The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.

Please follow the Public Health guidance for the area you are living or travelling in.

Visit gov.uk/coronavirus for more advice.;

(c)y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.