Rhl. 1 mewn grym ar 30.6.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Rhl. 2 mewn grym ar 30.6.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Rhl. 3 mewn grym ar 30.6.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Rhl. 4 mewn grym ar 30.6.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Rhl. 5 mewn grym ar 30.6.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 30 Mehefin 2021.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78), O.S. 2021/361 (Cy. 110), O.S. 2021/454 (Cy. 144), O.S. 2021/500 (Cy. 149), O.S. 2021/568 (Cy. 156), O.S. 2021/584 (Cy. 161), O.S. 2021/646 (Cy. 166) ac O.S. 2021/669 (Cy. 170).
Yn Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin)—
Antigua a Barbuda Barbados Dominica Grenada Madeira Malta Ynysoedd Baleares
Anguilla Antarctica/Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig Bermuda Montserrat Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India Ynysoedd Cayman Ynysoedd Pitcairn Ynysoedd Prydeinig y Wyryf Ynysoedd Turks a Caicos
Eritrea Gweriniaeth Dominica Haiti Mongolia Tunisia Uganda
O.S. 2020/595 (Cy. 136), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/1118 (Cy. 253), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/171 (Cy. 39), O.S. 2021/457 (Cy. 145), O.S. 2021/584 (Cy. 161) ac O.S. 2021/646 (Cy. 166). Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw— Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig. Pa mor hir bynnag yr ydych yn bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig, rhaid i bawb gymryd prawf COVID-19 a archebwyd ymlaen llaw o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd. Os ydych wedi bod mewn unrhyw wledydd ar y rhestr goch neu oren, neu wedi tramwyo drwy unrhyw wledydd o’r fath, rhaid ichi hefyd gymryd prawf arall a archebwyd ymlaen llaw 8 niwrnod ar ôl ichi gyrraedd. Os ydych wedi bod mewn gwlad oren neu goch o fewn y 10 niwrnod diwethaf, neu wedi tramwyo drwy wlad o’r fath, rhaid ichi fynd i gwarantin am y 10 niwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd. Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw. Dilynwch y canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’n teithio ynddi. Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o gyngor. The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies. However long you intend to stay in the UK, everyone must take a pre-booked COVID-19 test within the first two days after you arrive. If you have been in or transited through any countries on the red or amber list you must also take another pre-booked test 8 days after arrival. If you have been in or transited through an amber or red country within the previous 10 days you must quarantine for the first 10 days after you arrive. The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew. Please follow the Public Health guidance for the area you are living or travelling in. Visit gov.uk/coronavirus for more advice. y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (y “Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu’r canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin: Anguilla, Antarctica/Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Antigua a Barbuda, Barbados, Bermuda, Dominica, Grenada, Madeira, Malta, Montserrat, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Baleares, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Pitcairn, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf ac Ynysoedd Turks a Caicos.
Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn ychwanegu Eritrea, Gweriniaeth Dominica, Haiti, Mongolia, Tunisia ac Uganda at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. Mae rheoliad 5 yn diwygio cynnwys y cyhoeddiad iechyd y cyhoedd ar y llestr neu’r awyren y mae’n ofynnol i weithredwyr ei ddarparu i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaethau perthnasol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.