2021 Rhif 77 (Cy. 20)

Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19911.

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwynI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradauI22

Mewn daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel a ddangosir ar y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”2F4(y “map mynegai PPN”)

F5a

nid yw rheoliadau 5 i 11, 15, 23, 27, 33 i 35, na 37 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023,

b

nid yw rheoliadau 4 nac 36 yn gymwys hyd nes F1231 Hydref 2023, ac

c

nid yw rheoliadau 17 i 21, 25, 26, nac 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.

DehongliI33

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;

  • mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 19473;

  • ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;

  • ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

  • mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;

  • mae i “cwrs dŵr” yr ystyr a roddir i “watercourse” yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

  • ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 6(1)(c);

  • ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;

  • ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;

  • ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir a’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’w defnyddio gan y meddiannydd ac a ddefnyddir i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol;

  • ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;

  • mae i “dyfroedd a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waters” yn adran 104 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991

  • ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;

  • ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

  • ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

  • ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

  • ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • F6mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;

  • ystyr “porfa” (“grass”) yw—

    1. a

      glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod o lai na phedair blynedd),

    2. b

      sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa, ac

    3. c

      mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,

    ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50 % neu ragor o feillion;

  • ystyr “pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;

  • ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—

    1. a

      yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—

      1. i

        mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

      2. ii

        llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

      3. iii

        llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig, a

    2. b

      yn yr haen sydd rhwng 40 a 80 cm o ddyfnder—

      1. i

        mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

      2. ii

        llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

      3. iii

        llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;

  • ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy’n cael ei ollwng o danc o’r fath;

  • ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;

  • mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy’n cael ei wneud yn silwair;

  • ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a’i gynnwys yw—

    1. a

      carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da byw sy’n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed), neu

    2. b

      cymysgedd sy’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf carthion da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,

    ac o ddwyster sy’n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o’i drin;

  • mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;

  • ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy’n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw;

  • mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy’n cael ei ddefnyddio i storio slyri;

  • ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—

    1. a

      y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd),

    2. b

      nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio), ac

    3. c

      sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.

2

Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—

a

unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, a

b

unrhyw sianelau a phibellau sy’n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu ag unrhyw danc elifiant.

3

Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) os yw’r seilo neu’r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy’n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy’n cael ei chydnabod i’w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.

RHAN 2Cyfyngu ar ddodi tail organig

Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliadI44

1

Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod F8y cyfnod perthnasol , na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

2

Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.

3

Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.

F74

Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—

a

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;

b

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar F1331 Hydref.

Taenu tail organig – terfynau nitrogen fesul hectarI55

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250 kg.

2

Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—

a

1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan, neu

b

500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.

3

At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 9 ar gyfer cadarnhau’r cynnwys nitrogen.

4

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “tir perllan” yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2;

b

ystyr “compost ardystiedig” yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011 ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw;

c

rhaid i’r meddiannydd gadw cadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 3Y gofynion o ran cnydau

Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogenI66

1

Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—

a

cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debyg o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”),

b

cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd, ac

c

llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.

2

Yn achos unrhyw gnwd nad yw’n laswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn gwrteithio cnwd sydd wedi ei blannu neu y bwriedir ei blannu.

3

Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) bob blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.

4

Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf barhaol.

5

Rhaid i’r cynllun gofnodi—

a

cyfeirnod neu enw’r cae perthnasol,

b

y rhan o’r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, ac

c

y math o gnwd.

6

Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i’r cynllun gofnodi—

a

y math o bridd,

b

y cnwd blaenorol (ac os porfa oedd y cnwd blaenorol, a reolid y borfa drwy ei thorri ynteu ei phori),

c

y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi ei gyfrifo’n unol â pharagraff (1) a’r dull a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigur hwn,

d

y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu,

e

maint y cynnyrch a ddisgwylir (os yw’n gnwd âr), ac

f

y maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddynI77

1

Cyn taenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd, ar bob achlysur, gyfrifo maint y nitrogen o’r tail hwnnw sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

2

Rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu, gofnodi—

a

y rhan y taenir y tail organig arni,

b

y maint o dail organig sydd i’w daenu,

c

y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis),

d

y math o dail organig,

e

cyfanswm y nitrogen sydd ynddo, ac

f

cyfanswm y nitrogen sy’n debygol o fod ar gael, o’r tail organig y bwriedir ei daenu, i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

3

Cyn taenu gwrtaith nitrogen, rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

a

y maint sydd ei angen, a

b

y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis).

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfanswm y nitrogen sydd i’w daenu ar ddaliadI88

Ni waeth beth fo’r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—

a

y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a

b

y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organig yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, a gyfrifir yn unol â rheoliad 9,

yn fwy yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis na’r terfynau a bennir yn rheoliad 10.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfrifo maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organigI99

1

Rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw, at ddibenion rheoliad 8, drwy—

a

defnyddio’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 3, neu

b

samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

2

Unwaith y bydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw wedi ei ganfod, rhagdybir y canrannau canlynol er mwyn cadarnhau maint y nitrogen yn y tail da byw sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

Y ganran sydd ar gael

Math o dail da byw

Maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo

Slyri gwartheg

40 %

Slyri moch

50 %

Tail dofednod

30 %

Tail da byw eraill

10 %

3

Mewn perthynas â phob tail organig arall, rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, at ddibenion rheoliad 8—

a

drwy gyfeirio at ddadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,

b

i’r graddau nad oes gwybodaeth o’r fath ar gael, drwy gyfeirio at y gwerthoedd a roddir yn y Canllawiau Rheoli Maethynnau (RB 209)4, neu

c

drwy samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Terfynau nitrogen uchaf fesul cnwdI1010

Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir yn y golofn gyntaf isod yw’r ffigur a roddir yn yr ail golofn isod, wedi ei addasu yn unol â’r nodiadau i’r tabl, ac wedi ei luosi â chyfanswm yr arwynebedd, mewn hectarau, o’r cnwd hwnnw a heuwyd ar y daliad.

Uchafsymiau nitrogen

Cnwd

Maint y nitrogen a ganiateir (kg)(a)

Cynnyrch safonol (tunnell/ha)

Merllys

150

dd/g

Gwenith a heuir yn yr hydref neu’r gaeaf cynnar

220(b)(c)(d)

8.0

Betys (coch)

350

dd/g

Ysgewyll Brwsel

350

dd/g

Bresych

350

dd/g

Calabrese

350

dd/g

Blodfresych

350

dd/g

Moron

150

dd/g

Seleri

250

dd/g

Courgettes

250

dd/g

Corffa

250

dd/g

Ffa maes

0

dd/g

Indrawn porthi

150

dd/g

Porfa

300(f)

dd/g

Cennin

350

dd/g

Letys

250

dd/g

Winwns

250

dd/g

Pannas

250

dd/g

Pys

0

dd/g

Tatws

270

dd/g

Radis

150

dd/g

Ffa dringo

250

dd/g

Gwenith a heuir yn y gwanwyn

180(c)(d)

7.0

Haidd y gwanwyn

150(c)

5.5

Betys siwgrSwêds

120

dd/g

India-corn

250

dd/g

Maip

250

dd/g

Haidd y gaeaf

180(b)(c)

6.5

Rêp had olew y gaeaf

250(e)

3.5

(a)

Caniateir 80 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer pob cnwd a dyfir mewn caeau os dodwyd gwellt neu slwtsh papur ar y cnwd presennol neu’r cnwd blaenorol.

(b)

Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol ar gaeau sydd â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy’n gorwedd ar dywodfaen).

(c)

Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol am bob tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol.

(d)

Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer rhywogaethau o wenith melino.

(e)

Mae hyn yn cynnwys unrhyw nitrogen a ddodir fel esemptiad o’r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd. Ceir cynyddu’r maint a ganiateir hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol.

(f)

Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer porfa a dorrir deirgwaith, o leiaf, bob blwyddyn.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 4Rheoli’r broses o daenu gwrtaith nitrogen

Mapiau risgI1111

1

Rhaid i feddiannydd daliad sy’n taenu tail organig ar y daliad hwnnw gynnal map o’r daliad (“map risg”) yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Os bydd amgylchiadau’n newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn tri mis i’r newid.

3

Rhaid i’r map risg ddangos—

a

pob cae, ynghyd â’i arwynebedd mewn hectarau,

b

yr holl ddyfroedd wyneb,

c

unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad,

d

y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau,

e

tir sydd ar oleddf o fwy na 12°,

f

tir sydd o fewn 10 metr i ddyfroedd wyneb,

g

tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew,

h

draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio);

i

safleoedd sy’n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio’r dull hwn o storio tail, a

j

tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (mae hyn yn ddewisol i feddiannydd nad yw’n bwriadu taenu tail ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 29).

4

Os yw meddiannydd yn taenu tail organig drwy ddefnyddio cyfarpar taenu manwl hyd at 6 metr oddi wrth ddŵr wyneb fel y caniateir gan reoliad 14(1), rhaid i’r map risg nodi’r tir sydd o fewn 6 metr i ddyfroedd wyneb.

5

Rhaid i’r meddiannydd gadw copi o’r map risg.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Pryd i daenu gwrtaithI1212

1

Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gynnal arolygiad o’r caeau yn gyntaf, er mwyn ystyried y risg y gallai nitrogen fynd i mewn i ddŵr wyneb.

2

Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol—

a

goleddf y tir, yn enwedig os yw’r goleddf yn fwy na 12°,

b

unrhyw orchudd tir,

c

pa mor agos yw’r tir at ddŵr wyneb,

d

yr amodau tywydd,

e

y math o bridd, ac

f

presenoldeb draeniau tir.

3

Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen os yw’r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr, wedi ei orchuddio ag eira, wedi rhewi neu os oedd y pridd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ger dŵr wynebI1313

Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewauI1414

1

Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.

2

Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—

a

os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—

i

yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19815, neu

ii

yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/20056, neu Reoliad (EU) 1305/20137,

b

os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig,

c

os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb, a

d

os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.

3

Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.

4

At ddibenion y rheoliad hwn diffinnir “cyfarpar taenu manwl” fel system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Rheoli’r modd y taenir gwrtaith nitrogenI1515

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy’n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu isel, sef is na 4 metr o’r ddaear.

2

Caniateir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu sy’n fwy na 4 metr o’r ddaear ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o’r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 mm yr awr pan fydd wrthi’n gweithredu’n ddi-dor.

3

Rhaid i unrhyw berson sy’n taenu gwrtaith nitrogen ei daenu mor fanwl gywir ag y bo modd.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Corffori tail organig yn y ddaearI1616

1

Rhaid i unrhyw berson sy’n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi ei hau) sicrhau y corfforir y tail yn y pridd yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Rhaid corffori tail dofednod cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf.

3

Rhaid corffori slyri a hylif slwtsh carthion treuliedig (hynny yw, hylif sy’n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, oni ddodwyd y slyri a’r hylif gan ddefnyddio cyfarpar o fath a ddisgrifir yn rheoliad 14(4).

4

Rhaid corffori unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel tomwellt ar bridd tywodlyd) yn y pridd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, os yw’r tir o fewn 50 metr i ddŵr wyneb ac yn goleddfu mewn modd a allai achosi goferu i’r dŵr hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 5Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen

Ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd”I1717

Yn y Rhan hon, ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwyddI1818

Yn ddarostyngedig i reoliadau 19 ac 20, ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—

Y cyfnod gwaharddedig

Math o Bridd

Glaswelltir

Tir tro

Pridd tywodlyd neu denau

1 Medi i 31 Rhagfyr

1 Awst i 31 Rhagfyr

Pob math arall o bridd

15 Hydref i 15 Ionawr

1 Hydref i 31 Ionawr

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 18 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 MediI1919

Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau ar gyfer daliadau organigI2020

Caiff meddiannydd daliad sydd wedi cyflwyno ei ymgymeriad i’r system reoli y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Reoliad y Cyngor (EC) 834/20078 daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—

a

ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu

b

ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau9,

ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedigI2121

O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—

a

30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg, a

b

rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Adegau pan waherddir taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwydI2222

1

Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—

a

yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu

b

yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.

2

Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.

3

Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.

Annotations:
Commencement Information
I22

Rhl. 22 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 6Storio tail organig a silwair

Storio tail organigI2323

Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—

a

mewn llestr,

b

mewn adeilad dan do,

c

ar wyneb anhydraidd, neu

d

yn achos tail solet y gellir ei bentyrru’n domen ar ei phen ei hun, ac nad oes hylif yn draenio o’r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Gwneud neu storio silwairI2424

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy’n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—

a

bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy’n bodloni gofynion Atodlen 5, neu

b

bod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau–

i

sydd wedi eu lapio a’u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi eu cau mewn bagiau anhydraidd, a

ii

sydd wedi eu storio o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy’n dianc o’r byrnau fynd i mewn iddynt, neu

c

os mai cnwd yw’r silwair sy’n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy’n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i’r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy’n cael ei storio ar dir agored ydyw—

i

bod CANC yn cael ei hysbysu o’r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio’r fan honno at y diben hwnnw am y tro cyntaf, a

ii

bod y fan honno o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 metr oddi wrth fan tynnu dŵr perthnasol agosaf unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.

2

At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—

a

os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o’r ffynhonnell wedi ei drwyddedu o dan Ran 2 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 199110, neu

b

os yw’r person sy’n gwneud neu’n storio’r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—

i

cyn dechrau ar wneud y silwair, neu

ii

os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra ei fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â’i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.

4

Ni chaiff person sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth agor na symud ymaith yr hyn sy’n lapio’r bwrn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.

5

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—

i

i’w yfed gan bobl, neu

ii

at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199111) heblaw at ei yfed gan bobl, neu

iii

i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w yfed gan bobl, a

b

ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohonynt neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohonynt.

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Storio slyriI2525

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i berson sydd â slyri dan ei ofal neu ei reolaeth feddu ar system storio slyri sy’n bodloni gofynion Atodlen 6, a rhaid storio’r slyri yn y system honno.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i slyri tra bo’n cael ei storio dros dro mewn tancer sy’n cael ei ddefnyddio i gludo slyri ar ffyrdd neu o gwmpas fferm.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 25 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau i’r gofynion storioI2626

1

Nid yw rheoliadau 24(1) a 25(1) yn gymwys i seilo neu system storio slyri—

a

a ddefnyddid, cyn 1 Mawrth 1991, at y diben o wneud silwair neu storio slyri,

b

onis defnyddid cyn 1 Mawrth 1991 at y diben hwnnw, a adeiladwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer y defnydd hwnnw, neu

c

yr oedd, mewn perthynas ag ef neu hi–

i

contract wedi ei wneud cyn 1 Mawrth 1991 i adeiladu, ehangu’n sylweddol neu ailadeiladu’n sylweddol y seilo neu’r system storio slyri, a

ii

gwaith o’r fath wedi cychwyn cyn y dyddiad hwnnw, ac

yn y naill achos neu’r llall fod y gwaith wedi ei gwblhau cyn 1 Medi 1991.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 26 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Safleoedd dros dro mewn caeauI2727

1

Ni chaiff safle dros dro mewn cae bod—

a

mewn cae sy’n agored i lifogydd neu fynd yn ddyfrlawn,

b

o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew neu o fewn 10 metr i ddŵr wyneb neu ddraen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio),

c

mewn unrhyw un lleoliad am fwy na 12 mis yn olynol, neu

d

yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.

2

Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac sy’n cael ei storio ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.

3

Yn ychwanegol—

a

ni chaniateir symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae,

b

ni chaiff safle dros dro mewn cae bod o fewn 30 metr i gwrs dŵr ar dir y nodir ar y map risg fod ei oleddf yn fwy na 12°, ac

c

rhaid cadw arwyneb unrhyw safle dros dro mewn cae mor fach ag y bo’n rhesymol ymarferol, er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw.

Annotations:
Commencement Information
I27

Rhl. 27 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Gwahanu slyriI2828

Rhaid i’r broses o wahanu slyri i’w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni’n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae’r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 28 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Gofod ar gyfer storioI2929

1

Rhaid i feddiannydd daliad sy’n cadw unrhyw un o’r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o ofod i storio’r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a’r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.

2

Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.

3

Rhaid bod gan storfa slyri y gofod i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw ddŵr glaw, golchion neu hylif arall sy’n dod i mewn i’r llestr (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.

4

Nid yw cyfleusterau storio’n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod—

a

a anfonir oddi ar y daliad, neu

b

a daenir ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â’r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer gwerth wythnos ychwanegol o dail fel mesur wrth gefn pe na bai’n bosibl taenu ar rai dyddiadau.

5

At ddibenion y rheoliad hwn y “cyfnod storio” (mae pob dyddiad yn gynwysedig) yw—

a

y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;

b

y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth ym mhob achos arall.

Annotations:
Commencement Information
I29

Rhl. 29 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Hysbysiad yn gwneud gwaith etc. yn ofynnolI3030

1

Caiff CANC, o dan amgylchiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 30”) i berson sydd â silwair neu slyri dan ei ofal neu ei reolaeth, neu sydd yn gyfrifol am y seilo, neu’r system storio slyri, yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.

2

Rhaid i’r gwaith, y rhagofalon neu’r camau eraill fod, ym marn CANC, yn briodol, o ystyried gofynion y Rheoliadau hyn, er mwyn lleihau i’r eithaf unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.

3

Rhaid i’r hysbysiad—

a

pennu neu ddisgrifio’r gwaith y mae’n ofynnol i’r person ei wneud neu’r rhagofalon neu’r camau eraill y mae’n ofynnol iddo eu cymryd,

b

datgan y cyfnod y mae rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o’r fath o’i fewn, ac

c

hysbysu’r person am effaith rheoliad 31.

4

Y cyfnod i gydymffurfio a ddatgenir yn yr hysbysiad yw—

a

28 niwrnod, neu

b

unrhyw gyfnod hwy sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau.

5

Rhaid i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 30 gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw.

6

Caiff CANC ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg ar ôl i’r cyfnod i gydymffurfio ddod i ben)—

a

tynnu’r hysbysiad yn ei ôl,

b

estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, neu

c

gyda chydsyniad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, addasu gofynion yr hysbysiad.

7

Rhaid i CANC dynnu’r hysbysiad yn ei ôl, estyn y cyfnod i gydymffurfio, neu addasu gofynion yr hysbysiad os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 31(5).

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 30 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Apelau yn erbyn hysbysiadau rheoliad 30I3131

1

Caiff person y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 30, o fewn cyfnod o 28 niwrnod sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan Weinidogion Cymru), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad.

2

Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud drwy i’r apelydd gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o sail yr apêl neu rhaid i ddatganiad o’r fath ddod gydag ef.

4

Cyn penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, os gofyn yr apelydd neu CANC iddynt wneud hynny, roi cyfle i’r apelydd neu CANC ymddangos ger eu bron a chael gwrandawiad gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

5

Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo CANC—

a

i dynnu’r hysbysiad rheoliad 30 yn ei ôl,

b

i addasu unrhyw un neu ragor o’i ofynion,

c

i estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad, neu

d

i wrthod yr apêl.

6

Estynnir y cyfnod i gydymffurfio â hysbysiad rheoliad 30 y gwnaed apêl yn ei erbyn, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (5), fel ei fod yn dod i ben ar y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu’n derfynol ar yr apêl neu, os tynnir yr apêl yn ei hôl, ar ddyddiad ei thynnu’n ôl.

Annotations:
Commencement Information
I31

Rhl. 31 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Hysbysiad o adeiladu etc.I3232

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw seilo neu system storio slyri y mae ei adeiladu neu ei hadeiladu i ddechrau ar neu ar ôl 28 Ebrill 2021 (“storfa newydd neu storfa wedi ei gwella”).

2

Rhaid i berson sy’n bwriadu cael silwair neu slyri dan ei ofal neu ei reolaeth, a hwnnw i gael ei gadw mewn storfa newydd neu storfa wedi ei gwella, roi i CANC hysbysiad yn pennu’r math o seilo neu system storio a’i leoliad neu ei lleoliad, o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y mae gwaith adeiladu’r storfa newydd neu storfa wedi ei gwella, i ddechrau.

3

Yn y rheoliad hwn, mae “adeiladu” yn cynnwys ehangu’n sylweddol ac ailadeiladu’n sylweddol.

Annotations:
Commencement Information
I32

Rhl. 32 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 7Cyfrifiadau a chofnodion

Cofnodi maint y daliadI3333

1

Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi ei gyfrifo’n unol â rheoliad 4(3).

2

Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.

Annotations:
Commencement Information
I33

Rhl. 33 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storioI3434

1

Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—

a

maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;

b

maint y gofod storio (llestri slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl cydymffurfio â rheoliad 29, gan gymryd i ystyriaeth—

i

maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad,

ii

maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel, a

iii

yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;

c

maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.

2

Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.

3

Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.

Annotations:
Commencement Information
I34

Rhl. 34 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion blynyddol ynglŷn â storioI3535

1

Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 29, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.

2

Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.

Annotations:
Commencement Information
I35

Rhl. 35 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliadI3636

1

Cyn F10y dyddiad perthnasol bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—

a

nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y F11cyfnod o 12 mis blaenorol , a

b

nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.

2

Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.

3

Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—

a

meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu

b

yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

4

Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.

5

Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.

F96

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—

    1. a

      ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;

    2. b

      ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—

      1. i

        y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw F1431 Hydref 2023 i 30 Hydref 2024, a

      2. ii

        wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar F1531 Hydref ac sy’n gorffen ar 30 Hydref cyn y dyddiad perthnasol;

    ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

    1. a

      ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;

    2. b

      ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, F16rhodder “28 Chwefror 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 28 Chwefror.

Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohonoI3737

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—

a

math a maint y tail da byw,

b

y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad,

c

maint y nitrogen sydd ynddo, a

d

os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.

2

Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—

a

math a maint y tail da byw,

b

y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad,

c

maint y nitrogen sydd ynddo,

d

enw a chyfeiriad y derbynnydd, ac

e

manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.

3

Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.

4

Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.

Annotations:
Commencement Information
I37

Rhl. 37 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Samplu a dadansoddiI3838

Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.

Annotations:
Commencement Information
I38

Rhl. 38 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion o’r cnydau a heuwydI3939

Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—

a

y cnwd a heuir, a

b

dyddiad ei hau.

Annotations:
Commencement Information
I39

Rhl. 39 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogenI4040

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

a

y rhan y taenwyd y tail organig arni;

b

faint o dail organig a daenwyd;

c

y dyddiad neu’r dyddiadau;

d

y dulliau o’i daenu;

e

y math o dail organig;

f

cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;

g

maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

a

dyddiad ei daenu, a

b

maint y nitrogen a daenwyd.

3

Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80 % o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—

a

nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu, yn fwy na 100 kg yr hectar,

b

nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar, ac

c

nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.

Annotations:
Commencement Information
I40

Rhl. 40 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion dilynolI4141

1

Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.

2

Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Annotations:
Commencement Information
I41

Rhl. 41 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cadw cyngorI4242

Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau, ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn, am bum mlynedd.

Annotations:
Commencement Information
I42

Rhl. 42 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Dal gafael ar gofnodionI4343

Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn gadw’r cofnod hwnnw am bum mlynedd.

Annotations:
Commencement Information
I43

Rhl. 43 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 8Monitro ac adolygu

Monitro ac adolyguI4444

1

Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol.

2

O leiaf bob pedair blynedd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol ac, os yw’n angenrheidiol, eu diwygio.

3

Wrth gynnal adolygiad o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

a

y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill, a

b

amodau amgylcheddol rhanbarthol.

Annotations:
Commencement Information
I44

Rhl. 44 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Mesurau amgenI4545

1

Os ceir cynigion ar gyfer cyfres amgen o fesurau i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1) o fewn 18 mis i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a fyddai’r mesurau hynny’n sicrhau’r canlyniadau yn fwy effeithiol na’r mesurau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.

2

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai cynigion a gyflwynwyd o dan baragraff (1) yn fwy effeithiol i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1), rhaid iddynt gyhoeddi datganiad o fewn dwy flynedd i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, gan esbonio pa gamau a gymerir.

Annotations:
Commencement Information
I45

Rhl. 45 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 9Gorfodi

Troseddau a chosbauI4646

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o drosedd ac yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod, neu o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.

2

Mae person sy’n torri rheoliad 32 yn euog o drosedd a bydd yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo corff corfforedig yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforedig, neu

b

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

4

Nid yw paragraff (3) yn gymwys i unrhyw doriadau o dan reoliadau 24(1), 24(4), 25(1), 30(5) neu 32.

5

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.

Annotations:
Commencement Information
I46

Rhl. 46 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

GorfodiI4747

Gorfodir y Rheoliadau hyn gan CANC.

Annotations:
Commencement Information
I47

Rhl. 47 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 10Amrywiol

DirymuI4848

1

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 201012 wedi eu dirymu fel a ganlyn—

a

mewn perthynas â daliad neu ran o ddaliad a oedd wedi ei leoli neu wedi ei lleoli mewn parth perygl nitradau fel a ddangosir ar y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”13, ar 1 Ebrill 2021;

b

mewn perthynas â phob daliad arall—

i

rheoliadau 3 a 9 ar 1 Ebrill 2021;

ii

pob darpariaeth sy’n weddill ar 1 Awst 2024.

2

Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

a

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013;

b

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 201514;

c

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 201915.

Annotations:
Commencement Information
I48

Rhl. 48 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Diwygiadau canlyniadolI4949

1

Yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 201616, yn Atodlen 2, ym mharagraff 17(b), yn lle “the Nitrate Pollution Prevention (Wales) Regulations 2013” rhodder “the Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021”.

2

Yn Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 201717, yn Rhan 2 o Atodlen 2—

a

yn lle paragraff 21 rhodder—

21

The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.

b

yn lle paragraff 24 rhodder—

24

The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.

3

Yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Cymru a Lloegr) 201718, yn rheoliad 104, hepgorer paragraff (1)(b) a’r “neu” o’i flaen.

Annotations:
Commencement Information
I49

Rhl. 49 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

I71ATODLEN 1Meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori

Rheoliadau 3, 4, 29, 34 a 36

Annotations:
Commencement Information
I71

Atod. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Tabl 1Da byw sy’n pori

Categori

Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau)

Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)

Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)

Gwartheg

Lloi (pob categori ac eithrio lloi cig llo) hyd at 3 mis:

7

23

12.7

Buchod godro—

O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis:

20

95

34

O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf:

40

167

F169

Ar ôl y llo cyntaf â’r—

cynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 litr:

64

315

142

cynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 litr:

53

276

121

cynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 litr:

42

211

93

Buchod neu fustych eidion(a)

O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis:

20

91

33

O 13 mis ymlaen ac o dan 25 mis:

26

137

43

O 25 mis ymlaen—

gwartheg benyw neu fustych i’w cigydda:

31

137

60

gwartheg benyw ar gyfer bridio—

sy’n pwyso 500 kg neu lai:

32

167

65

sy’n pwyso mwy na 500 kg:

45

227

86

Teirw

nad ydynt ar gyfer bridio, ac sy’n 3 mis a throsodd:

26

148

24

Bridio—

o 3 mis ymlaen ac o dan 25 mis:

26

137

43

o 25 mis ymlaen:

26

132

60

Defaid

O 6 mis ymlaen hyd at 9 mis oed:

1.8

5.5

0.76

O 9 mis hyd at wyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda:

1.8

3.9

2.1

Ar ôl wyna neu hwrdda(b)

yn pwyso llai na 60 kg:

3.3

21

8.8

yn pwyso o 60 kg i fyny:

5

F233

10.0

Geifr, ceirw a cheffylau

Geifr:

3.5

41

18.8

Ceirw—

bridio:

5

42

17.6

eraill:

3.5

33

11.7

Ceffylau:

24

58

56

(a)

Anifail gwryw wedi ei ysbaddu.

(b)

Yn achos mamog, mae’r ffigur hwn yn cynnwys un neu ragor o’i hŵyn sugno tan fod yr ŵyn yn chwe mis oed.

Tabl 2Da byw nad ydynt yn pori

Categori

Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau)

Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)

Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)

Gwartheg

Lloi cig llo:

7

23

12.7

Dofednod(a)

Ieir a ddefnyddir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu bwyta gan bobl—

o dan 17 wythnos:

0.04

0.64

0.47

o 17 wythnos ymlaen (mewn caets):

0.12

1.13

1.0

o 17 wythnos ymlaen (nid mewn caets):

0.12

1.5

1.1

Ieir a fegir ar gyfer cig:

0.06

1.06

0.72

Ieir a fegir ar gyfer bridio—

o dan 25 wythnos:

0.04

0.86

0.78

o 25 wythnos ymlaen:

0.12

2.02

1.5

Tyrcwn—

gwryw:

0.16

3.74

3.1

benyw:

0.12

2.83

2.3

Hwyaid:

0.10

2.48

2.4

Estrysiaid:

1.6

3.83

18.5

Moch

Yn pwyso o 7 kg i fyny ac yn llai na 13 kg:

1.3

4.1

1.3

Yn pwyso o 13 kg i fyny ac yn llai na 31 kg:

2

14.2

6.0

Yn pwyso o 31 kg i fyny ac yn llai na 66 kg—

porthir â bwyd sych:

3.7

24

12.1

porthir â hylifau:

7.1

24

12.1

Yn pwyso o 66 kg i fyny ac—

A fwriedir i’w cigydda—

porthir â bwyd sych:

5.1

33

17.9

porthir â hylifau:

10

33

17.9

hychod a fwriedir ar gyfer bridio ond nad ydynt eto wedi cael eu torllwyth cyntaf:

5.6

38

20

hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet gydag ychwanegi-adau o asidau amino synthetig:

10.9

44

37

hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet heb ychwanegi-adau o asidau amino synthetig:

10.9

49

37

baeddod bridio o 66 kg hyd at 150 kg:

5.1

33

17.9

baeddod bridio o 150 kg

8.7

48

28

(a)

Sylwer: mae pob ffigur ar gyfer dofednod yn cynnwys sarn.

I72ATODLEN 2Rhywogaethau o ffrwythau

Rheoliad 5

Annotations:
Commencement Information
I72

Atod. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Enw Botanegol

Enw Cyffredin

Cydonia oblonga

Cwins

Malus domestica

Afalau

Mespilus germanica

Afalau tindwll

Morus spp.

Mwyar Mair

Prunus armenaica

Bricyll

Prunus avium

Ceirios melys

Prunus cerasus

Ceirios duon (coginio)

Prunus ceracifera

Eirin myrobalan

Prunus domestica

Eirin

Prunus domestica subsp. insititia

Eirin hirion

Prunus persica

Eirin gwlanog

Prunus persica var. nectarina

Nectarinau

Prunus x gondouinii

Ceirios y Dug

Prunus spinosa

Eirin duon bach

Pyrus communis

Gellyg

Pyrus pyrifolia

Gellyg Asia

ATODLEN 3Cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig

Rheoliadau 9, 36 a 37

I73RHAN 1Y Tabl Safonol

Annotations:
Commencement Information
I73

Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw

Tail ac eithrio slyri

Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)

Tail ac eithrio slyri o’r anifeiliaid a ganlyn—

gwartheg:

6

moch:

7

defaid:

7

hwyaid:

6.5

ceffylau:

7

geifr:

6

Tail o ieir dodwy:

19

Tail o dyrcwn neu ieir brwylio:

F330

Slyri

Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg)

gwartheg:

2.6

moch:

3.6

Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn hylifol)—

blwch hidlo:

1.5

wal hidlo:

2

hidl fecanyddol:

3

Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn solet):

4

Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn hylifol):

3.6

Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn solet):

5

Dŵr budr:

0.5

RHAN 2Samplu a dadansoddi tail organig

Slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arallI501

1

O ran slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall, rhaid cymryd o leiaf bum sampl, pob un ohonynt yn 2 litr.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid cymryd y pum sampl allan o lestr, ac—

a

os yw’n rhesymol ymarferol, rhaid cymysgu’r slyri’n drwyadl cyn cymryd y samplau, a

b

rhaid cymryd pob sampl o le gwahanol.

3

Os defnyddir tancer sydd â falf addas arno ar gyfer taenu, caniateir i’r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid cymryd pob sampl fesul ysbaid yn ystod y taenu.

4

Pa un a gymerwyd y samplau fel y disgrifir yn is-baragraff (2) neu (3), rhaid arllwys y pum sampl i mewn i gynhwysydd mwy, eu troi’n drwyadl, a rhaid cymryd sampl 2 litr allan o’r cynhwysydd hwnnw ac arllwys y sampl honno i gynhwysydd glân, llai o faint.

5

Yna, rhaid anfon y sampl 2 litr a baratowyd yn unol ag is-baragraff (4) i’w dadansoddi.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Tail soletI512

1

O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau allan o domen dail.

2

Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1 kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.

3

Rhaid cymryd pob un o’r is-samplau 0.5 metr, o leiaf, o wyneb y domen.

4

Os cesglir y samplau i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â’r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i’w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn hŷn na 12 mis oed.

5

Rhaid gosod yr is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy’n lân a sych.

6

Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri’n ddarnau mân, a rhaid cymysgu’r is-samplau yn drwyadl gyda’i gilydd.

7

Yna, rhaid i sampl gynrychiadol, sy’n pwyso 2 kg o leiaf, gael ei hanfon i’w dadansoddi.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I74ATODLEN 4Y cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig

Rheoliadau 20 a 22

Annotations:
Commencement Information
I74

Atod. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Y cnwd

Y gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar)

Rêp had olew, gaeaf(a)

30

Merllys

50

Bresych(b)

100

Porfa(a)(c)

80

Sgaliwns wedi eu gaeafu

40

Perllys

40

Bylbiau winwns

40

(a)

Ni chaniateir taenu nitrogen ar gnydau ar ôl 31 Hydref.

(b)

Caniateir taenu 50 kg ychwanegol o nitrogen yr hectar bob pedair wythnos yn ystod y cyfnod gwaharddedig hyd at ddiwedd y cynhaeaf.

(c)

Caniateir taenu uchafswm o 40 kg o nitrogen yr hectar ar unrhyw un adeg.

ATODLEN 5Y gofynion ar gyfer seilos

Rheoliad 24

I521

Y gofyniad sydd i’w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I532

Rhaid i sylfaen y seilo—

a

ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i’r seilo,

b

cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy’n dianc o’r seilo, ac

c

bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r elifiant hwnnw o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I543

Ni chaiff tanc elifiant dal llai nag—

a

yn achos seilo sy’n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal, a

b

yn achos seilo sy’n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I554

1

Rhaid i sylfaen y seilo—

a

bod wedi ei dylunio yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dylunio strwythurau concrit i gadw hylifau dyfrllyd a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 8007: 198719, neu

b

bod wedi ei hadeiladu gan ddefnyddio asffalt wedi ei rolio’n boeth yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dewis a defnyddio deunyddiau adeiladu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 21: 199020.

2

Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I565

Rhaid i sylfaen a muriau’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.

Annotations:
Commencement Information
I56

Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I576

Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r seilo, ei danc elifiant na’i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I587

Os oes gan y seilo furiau cynnal—

a

rhaid i’r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 15.6 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 200321,

b

ni chaniateir i’r seilo bod wedi ei lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw’r dyfnder eithaf sy’n gyson â’r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal, ac

c

rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o’r cod ymarfer hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I598

Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw’n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I609

Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i’r tanc fod wedi ei ddylunio a’i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 6Y gofynion ar gyfer systemau storio slyri

Rheoliad 25

I611

Mae’r gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â system storio slyri fel a ganlyn.

Annotations:
Commencement Information
I61

Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I622

Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.

Annotations:
Commencement Information
I62

Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I633

Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri, unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi eu diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 199322.

Annotations:
Commencement Information
I63

Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I644

Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.

Annotations:
Commencement Information
I64

Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I655

1

Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—

a

yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu

b

swm llai y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.

2

Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.

Annotations:
Commencement Information
I65

Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I666

Yn achos tanciau storio slyri sydd â muriau wedi eu gwneud o bridd, rhaid i’r tanc fod ag o leiaf 750 mm o fwrdd rhydd, a 300 mm o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.

Annotations:
Commencement Information
I66

Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I677

Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc oni chymerir rhagofalon y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.

Annotations:
Commencement Information
I67

Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I688

Rhaid i’r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.

Annotations:
Commencement Information
I68

Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I699

Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—

a

ymestyn y tu hwnt i’r muriau;

b

cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;

c

bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

Annotations:
Commencement Information
I69

Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

I7010

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell ddraenio wedi ei gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn, rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o 1 metr o leiaf rhwng un falf a’r llall.

2

Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy’r bibell a rhaid eu cadw wedi eu cau ac wedi eu cloi yn y safle hwnnw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

3

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy’n draenio drwy’r bibell i danc storio slyri arall os yw’r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau’r tanciau ar yr un lefel â’i gilydd.

Annotations:
Commencement Information
I70

Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli—

a

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506 (Cy. 245)) sydd yn rheoli’r broses o ddodi gwrtaith nitrogen mewn ardaloedd sy’n agored i niwed gan nitradau, a

b

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1493 (Cy. 136)) sydd yn rheoleiddio gofalu am silwair a slyri a rheoli silwair a slyri, gan ddarparu’r safonau dylunio ac adeiladu sy’n gymwys ar gyfer eu storio.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol.

Y Prif Newidiadau

Tra bod y gofynion o dan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 ond yn gymwys i ddaliadau a oedd wedi eu lleoli mewn Parthau Perygl Nitradau a ddynodwyd, bydd y gofynion hyn bellach yn gymwys i bob daliad yng Nghymru. Bydd y rhan fwyaf o’r mesurau yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010 yn parhau i fod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn, ond mae’r gofynion o ran capasiti ar gyfer storio tail organig a silwair yn y Rheoliadau hynny wedi eu disodli gan y gofynion hynny yn Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013.

Hefyd, bydd yn ofynnol i bersonau sy’n bwriadu adeiladu neu wella eu cyfleuster storio ar gyfer slyri neu silwair hysbysu Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“CANC”) am hynny 14 o ddiwrnodau cyn cychwyn y gwaith adeiladu, gan ddisodli’r gofyniad blaenorol i roi hysbysiad cyn dechrau defnyddio’r cyfleuster storio.

Rhaid i feddianwyr daliadau organig sy’n dymuno elwa ar yr esemptiad i’r cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd (rheoliad 20) gyflwyno ymgymeriad bellach i’r system reoli y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Reoliad y Cyngor (EC) 834/2007 yn hytrach na chofrestru gyda’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig sydd bellach wedi ei ddiddymu.

Y Rheoliadau

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol gan gynnwys darpariaeth drosiannol ar gyfer pob daliad nad oedd gynt o fewn Parth Perygl Nitradau y mae bellach yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r darpariaethau a’r gofynion perthnasol o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gosod terfynau blynyddol ar faint o nitrogen o dail organig y caniateir ei ddodi neu ei daenu.

Mae Rhan 3 yn sefydlu gofynion ynghylch faint o nitrogen sydd i’w daenu ar gnwd, ac yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd gynllunio ymlaen llaw faint o wrtaith nitrogen a gaiff ei daenu.

Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd ddarparu map risg o’r daliad, ac yn gosod amodau ar sut, ym mhle a phryd y dylid taenu gwrtaith nitrogen.

Mae Rhan 5 yn pennu cyfnodau gwaharddedig pan na chaniateir taenu gwrtaith nitrogen.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer storio tail organig ac yn rhagnodi’r gofynion o ran capasiti ac adeiladu ar gyfer systemau storio o’r fath. Mae’n darparu ar gyfer esemptiadau rhag y gofynion ar gyfer systemau storio penodol; yn darparu i CANC gyflwyno hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol i waith gael ei wneud neu i ragofalon gael eu cymryd i leihau’r risg o lygredd i ddyfroedd a reolir a hefyd yn darparu proses apelio yn erbyn hysbysiadau o’r fath. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CANC gael ei hysbysu am waith penodol sydd i’w wneud ar systemau storio o’r fath.

Mae Rhan 7 yn pennu pa gofnodion y mae’n rhaid eu cadw.

Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r Rheoliadau hyn o fewn terfynau amser penodedig, gan gynnwys adolygiad ar ôl dwy flynedd i ystyried unrhyw gyflwyniadau ynghylch cyfres amgen o fesurau yn lle’r rhai yn y Rheoliadau hyn ar gyfer atal neu leihau llygredd a achosir gan amaethyddiaeth.

Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi ac yn darparu i dorri rheoliadau penodol fod yn drosedd. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan CANC.

Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau amrywiol gan gynnwys dirymiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn ailddeddfu (heb addasiadau) reoliadau technegol yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010.

Mae’r cyhoeddiadau Safonau Prydeinig y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn i’w cael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig naill ai ar-lein yn https://shop.bsigroup.com/Contact-Us/ neu drwy ysgrifennu at BSI Customer Services, 389 Chiswick High Road, London, W4 4AL, UK.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.