Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

RHAN 10LL+CAmrywiol

DirymuLL+C

48.—(1Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010(1) wedi eu dirymu fel a ganlyn—

(a)mewn perthynas â daliad neu ran o ddaliad a oedd wedi ei leoli neu wedi ei lleoli mewn parth perygl nitradau fel a ddangosir ar y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”(2), ar 1 Ebrill 2021;

(b)mewn perthynas â phob daliad arall—

(i)rheoliadau 3 a 9 ar 1 Ebrill 2021;

(ii)pob darpariaeth sy’n weddill ar 1 Awst 2024.

(2Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013;

(b)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015(3);

(c)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 48 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Diwygiadau canlyniadolLL+C

49.—(1Yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(5), yn Atodlen 2, ym mharagraff 17(b), yn lle “the Nitrate Pollution Prevention (Wales) Regulations 2013” rhodder “the Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021”.

(2Yn Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017(6), yn Rhan 2 o Atodlen 2—

(a)yn lle paragraff 21 rhodder—

21.  The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.;

(b)yn lle paragraff 24 rhodder—

24.  The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.

(3Yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Cymru a Lloegr) 2017(7), yn rheoliad 104, hepgorer paragraff (1)(b) a’r “neu” o’i flaen.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 49 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

(2)

O dan reoliad 7(3) o Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (O.S. 2013/2506) (Cy. 245) yr oedd yn ofynnol i fap o’r fath gael ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.