11.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n taenu tail organig ar y daliad hwnnw gynnal map o’r daliad (“map risg”) yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Os bydd amgylchiadau’n newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn tri mis i’r newid.
(3) Rhaid i’r map risg ddangos—
(a)pob cae, ynghyd â’i arwynebedd mewn hectarau,
(b)yr holl ddyfroedd wyneb,
(c)unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad,
(d)y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau,
(e)tir sydd ar oleddf o fwy na 12°,
(f)tir sydd o fewn 10 metr i ddyfroedd wyneb,
(g)tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew,
(h)draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio);
(i)safleoedd sy’n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio’r dull hwn o storio tail, a
(j)tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (mae hyn yn ddewisol i feddiannydd nad yw’n bwriadu taenu tail ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 29).
(4) Os yw meddiannydd yn taenu tail organig drwy ddefnyddio cyfarpar taenu manwl hyd at 6 metr oddi wrth ddŵr wyneb fel y caniateir gan reoliad 14(1), rhaid i’r map risg nodi’r tir sydd o fewn 6 metr i ddyfroedd wyneb.
(5) Rhaid i’r meddiannydd gadw copi o’r map risg.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
12.—(1) Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gynnal arolygiad o’r caeau yn gyntaf, er mwyn ystyried y risg y gallai nitrogen fynd i mewn i ddŵr wyneb.
(2) Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol—
(a)goleddf y tir, yn enwedig os yw’r goleddf yn fwy na 12°,
(b)unrhyw orchudd tir,
(c)pa mor agos yw’r tir at ddŵr wyneb,
(d)yr amodau tywydd,
(e)y math o bridd, ac
(f)presenoldeb draeniau tir.
(3) Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen os yw’r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr, wedi ei orchuddio ag eira, wedi rhewi neu os oedd y pridd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
13. Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
14.—(1) [F1Ac eithrio pan fo paragraff 26 o Atodlen 1A yn gymwys,] Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.
(2) Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—
(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—
(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1), neu
(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005(2), neu Reoliad (EU) 1305/2013(3),
(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig,
(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb, a
(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.
(3) Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.
F2(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 14(1) wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 6(a)
F2Rhl. 14(4) wedi ei hepgor (31.12.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 6(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy’n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu isel, sef is na 4 metr o’r ddaear.
(2) Caniateir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu sy’n fwy na 4 metr o’r ddaear ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o’r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 mm yr awr pan fydd wrthi’n gweithredu’n ddi-dor.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n taenu gwrtaith nitrogen ei daenu mor fanwl gywir ag y bo modd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
16.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi ei hau) sicrhau y corfforir y tail yn y pridd yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid corffori tail dofednod cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf.
(3) Rhaid corffori slyri a hylif slwtsh carthion treuliedig (hynny yw, hylif sy’n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, oni ddodwyd y slyri a’r hylif gan ddefnyddio cyfarpar o fath a ddisgrifir yn rheoliad 14(4).
(4) Rhaid corffori unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel tomwellt ar bridd tywodlyd) yn y pridd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, os yw’r tir o fewn 50 metr i ddŵr wyneb ac yn goleddfu mewn modd a allai achosi goferu i’r dŵr hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)