Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2023.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, RHAN 5.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
17. Yn y Rhan hon, ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
18. Yn ddarostyngedig i reoliadau 19 ac 20, ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—
Math o Bridd | Glaswelltir | Tir tro |
---|---|---|
Pridd tywodlyd neu denau | 1 Medi i 31 Rhagfyr | 1 Awst i 31 Rhagfyr |
Pob math arall o bridd | 15 Hydref i 15 Ionawr | 1 Hydref i 31 Ionawr |
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 18 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
19. Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 19 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
20. Caiff meddiannydd daliad sydd wedi cyflwyno ei ymgymeriad i’r system reoli y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Reoliad y Cyngor (EC) 834/2007(1) daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—
(a)ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu
(b)ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(2),
ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 20 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
21. O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—
(a)30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg, a
(b)rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 21 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
22.—(1) Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—
(a)yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu
(b)yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.
(2) Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.
(3) Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 22 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
EUR 834/2007, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/693 a 831.
Gweinyddir y cynllun gan Basis Registration Ltd, a gellir cael rhestr o bersonau cymwysedig drwy wneud cais i’r cwmni, neu ar ei wefan, www.basis-reg.com.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: