RHAN 5Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen

Ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd”I117

Yn y Rhan hon, ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwyddI218

Yn ddarostyngedig i reoliadau 19 ac 20, ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—

Y cyfnod gwaharddedig

Math o Bridd

Glaswelltir

Tir tro

Pridd tywodlyd neu denau

1 Medi i 31 Rhagfyr

1 Awst i 31 Rhagfyr

Pob math arall o bridd

15 Hydref i 15 Ionawr

1 Hydref i 31 Ionawr

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 18 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 MediI319

Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 19 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau ar gyfer daliadau organigI420

Caiff meddiannydd daliad sydd wedi cyflwyno ei ymgymeriad i’r system reoli y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Reoliad y Cyngor (EC) 834/20078 daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—

a

ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu

b

ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau9,

ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 20 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedigI521

O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—

a

30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg, a

b

rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 21 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Adegau pan waherddir taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwydI622

1

Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—

a

yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu

b

yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.

2

Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.

3

Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.