33.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi ei gyfrifo’n unol â rheoliad 4(3).
(2) Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 33 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
34.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—
(a)maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;
(b)maint y gofod storio (llestri slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl cydymffurfio â rheoliad 29, gan gymryd i ystyriaeth—
(i)maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad,
(ii)maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel, a
(iii)yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;
(c)maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.
(2) Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.
(3) Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 34 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
35.—(1) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 29, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.
(2) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 35 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
36.—(1) Cyn [F1y dyddiad perthnasol] bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—
(a)nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y [F2cyfnod o 12 mis blaenorol] , a
(b)nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.
(2) Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.
(3) Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—
(a)meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu
(b)yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
(4) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.
(5) Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.
[F3(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, rhodder “ [F630 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 30 Ebrill].]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 36(1) wedi eu hamnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(5)(a)
F2Geiriau yn rhl. 36(1)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(5)(b)
F3Rhl. 36(6) wedi ei fewnosod (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(5)(c)
F4Geiriau yn rhl. 36(6) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(4)(a)(i)
F5Geiriau yn rhl. 36(6) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(4)(a)(ii)
F6Geiriau yn rhl. 36(6) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 36 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
37.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—
(a)math a maint y tail da byw,
(b)y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad,
(c)maint y nitrogen sydd ynddo, a
(d)os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.
(2) Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—
(a)math a maint y tail da byw,
(b)y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad,
(c)maint y nitrogen sydd ynddo,
(d)enw a chyfeiriad y derbynnydd, ac
(e)manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.
(3) Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.
(4) Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 37 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
38. Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 38 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
39. Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—
(a)y cnwd a heuir, a
(b)dyddiad ei hau.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 39 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
40.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)y rhan y taenwyd y tail organig arni;
(b)faint o dail organig a daenwyd;
(c)y dyddiad neu’r dyddiadau;
(d)y dulliau o’i daenu;
(e)y math o dail organig;
(f)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;
(g)maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)dyddiad ei daenu, a
(b)maint y nitrogen a daenwyd.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80 % o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—
(a)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu, yn fwy na 100 kg yr hectar,
(b)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar, ac
(c)nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 40 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
41.—(1) Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.
(2) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 41 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
42. Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau, ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn, am bum mlynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 42 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
43. Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn gadw’r cofnod hwnnw am bum mlynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 43 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)