Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwyddLL+C
18. Yn ddarostyngedig i reoliadau 19 ac 20, ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—
Y cyfnod gwaharddedig
Math o Bridd | Glaswelltir | Tir tro |
---|---|---|
Pridd tywodlyd neu denau | 1 Medi i 31 Rhagfyr | 1 Awst i 31 Rhagfyr |
Pob math arall o bridd | 15 Hydref i 15 Ionawr | 1 Hydref i 31 Ionawr |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 18 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)