RHAN 5Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen

Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 MediI119

Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.