23. Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—
(a)mewn llestr,
(b)mewn adeilad dan do,
(c)ar wyneb anhydraidd, neu
(d)yn achos tail solet y gellir ei bentyrru’n domen ar ei phen ei hun, ac nad oes hylif yn draenio o’r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 23 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)