Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2023
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, Adran 24.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
24.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy’n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—
(a)bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy’n bodloni gofynion Atodlen 5, neu
(b)bod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau–
(i)sydd wedi eu lapio a’u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi eu cau mewn bagiau anhydraidd, a
(ii)sydd wedi eu storio o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy’n dianc o’r byrnau fynd i mewn iddynt, neu
(c)os mai cnwd yw’r silwair sy’n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy’n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i’r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy’n cael ei storio ar dir agored ydyw—
(i)bod CANC yn cael ei hysbysu o’r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio’r fan honno at y diben hwnnw am y tro cyntaf, a
(ii)bod y fan honno o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 metr oddi wrth fan tynnu dŵr perthnasol agosaf unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.
(2) At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—
(a)os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o’r ffynhonnell wedi ei drwyddedu o dan Ran 2 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1), neu
(b)os yw’r person sy’n gwneud neu’n storio’r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—
(i)cyn dechrau ar wneud y silwair, neu
(ii)os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra ei fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â’i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.
(4) Ni chaiff person sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth agor na symud ymaith yr hyn sy’n lapio’r bwrn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—
(i)i’w yfed gan bobl, neu
(ii)at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(2)) heblaw at ei yfed gan bobl, neu
(iii)i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w yfed gan bobl, a
(b)ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohonynt neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohonynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 24 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: