Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

DehongliLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;

mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947(1);

ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;

ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;

mae i “cwrs dŵr” yr ystyr a roddir i “watercourse” yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 6(1)(c);

ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;

ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;

ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;

ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir a’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’w defnyddio gan y meddiannydd ac a ddefnyddir i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;

mae i “dyfroedd a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waters” yn adran 104 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991

ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;

ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

[F1mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;]

ystyr “porfa” (“grass”) yw—

(a)

glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod o lai na phedair blynedd),

(b)

sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa, ac

(c)

mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,

ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50 % neu ragor o feillion;

ystyr “pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;

ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—

(a)

yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—

(i)

mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

(ii)

llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

(iii)

llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig, a

(b)

yn yr haen sydd rhwng 40 a 80 cm o ddyfnder—

(i)

mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

(ii)

llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

(iii)

llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;

ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy’n cael ei ollwng o danc o’r fath;

ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;

mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy’n cael ei wneud yn silwair;

ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a’i gynnwys yw—

(a)

carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da byw sy’n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed), neu

(b)

cymysgedd sy’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf carthion da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,

ac o ddwyster sy’n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o’i drin;

mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;

ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy’n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw;

mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy’n cael ei ddefnyddio i storio slyri;

ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—

(a)

y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd),

(b)

nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio), ac

(c)

sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—

(a)unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, a

(b)unrhyw sianelau a phibellau sy’n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu ag unrhyw danc elifiant.

(3Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) os yw’r seilo neu’r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy’n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy’n cael ei chydnabod i’w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

(1)

1947 p. 48. Mae diwygiadau i is-adran (3), ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.